Amser Rhigwm Mawr Cymru yn helpu plant Cymru i fwynhau rhigymu’n ddwyieithog  

 

Mae BookTrust Cymru, yr elusen ddarllen i blant, yn annog teuluoedd, ysgolion a lleoliadau blynyddoedd cynnar ledled Cymru i ymuno yn Amser Rhigwm Mawr Cymru, dathliad wythnos o hyd ar gyfer rhannu rhigymau, cerddi a chaneuon dwyieithog gyda miloedd o blant yn eu blynyddoedd cynnar.

Mae Amser Rhigwm Mawr Cymru, a ddatblygwyd gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn gwahodd teuluoedd o bob cwr o Gymru i brofi sut y gellir ymgorffori rhigymu a rhannu straeon yn ddwyieithog i mewn i fywyd beunyddiol – boed hynny gartref, mewn lleoliad blynyddoedd cynnar, neu yn eu cymuned leol. Mae dros 500 o leoliadau ledled Cymru wedi cofrestru i gymryd rhan yn Amser Rhigwm Mawr Cymru, sy’n digwydd o ddydd Llun 5 Chwefror – Gwener 9 Chwefror 2024. Ymysg y lleoliadau sy’n cymryd rhan mae meithrinfeydd, ysgolion cynradd, canolfannau plant a theuluoedd, llyfrgelloedd, gofalwyr plant, grwpiau cymunedol ac elusennau. 

Drwy annog plant i fwynhau rhigymau yn ystod eu blynyddoedd cynnar, mae Amser Rhigwm Mawr Cymru’n codi ymwybyddiaeth o effeithiau cadarnhaol rhannu rhigymau dwyieithog ar lafar gyda phlant. Mae adrodd rhigymau’n gosod sylfeini ar gyfer datblygu iaith a llafaredd plant, yn ogystal â’u perthynas â darllen ar gyfer y dyfodol. Gall hefyd fod yn weithgaredd ymrwymo hwyliog, fforddiadwy ar gyfer teuluoedd, sydd yn ei dro yn helpu i gefnogi datblygiad emosiynol plant, a’u hunan-hyder.

 

Storytime session in Bridgend Libraries

Amser stori a rhigwm gyda Llyfrgelloedd Awen. Ffotograff gan Tom West.

I gefnogi dathliad eleni, mae cyn-Fardd Plant Cymru Casia Wiliam wedi cyhoeddi cerdd a gyfansoddwyd yn arbennig, “Trysorau Bychan”, a ysbrydolwyd gan gariad ei phlant ei hun at gasglu pethau maen nhw’n dod o hyd iddyn nhw tu fas. Mae’r gerdd ar gael, ynghyd ag adnoddau, ar wefan BookTrust Cymru y gall ysgolion, meithrinfeydd a theuluoedd eu defnyddio i’w hysbrydoli i rannu rhigymau, cerddi a chaneuon dwyieithog gyda’i gilydd. Mae adnoddau eleni hefyd yn cynnwys cân ddwyieithog ar thema’r fferm gan y cerddorion Babis Bach Babies a stori odli ddwyieithog gan y storïwr Tamar Eluned Williams – y ddau beth wedi’u creu’n benodol ar gyfer Amser Rhigwm Mawr Cymru.

Gall teuluoedd a lleoliadau blynyddoedd cynnar gymryd rhan yn eu hwyl rhigymu eu hunain gartref gan ddefnyddio’r fideos a’r adnoddau y gellir eu lawrlwytho, a fydd ar gael yma:  https://www.booktrust.org.uk/cy-gb/bigwelshrhymetime neu @BookTrustCymru ar X (Twitter gynt) a Facebook, gydag anogaeth i rannu pob profiad rhigymu ar y cyfryngau cymdeithasol.  

Yn ôl Phil Savery, Rheolwr Ymgysylltu Blynyddoedd Cynnar BookTrust Cymru:

‘Mae Amser Rhigwm Mawr Cymru yn ôl! Diolch i Lywodraeth Cymru a’n rhwydwaith o bartneriaid, bydd miloedd o blant ledled y wlad yn profi manteision rhannu rhigymau, straeon a chaneuon ar lafar yr wythnos hon. Mae ymarferwyr blynyddoedd cynnar yn gwybod pa mor werthfawr yw hyn i sgiliau cyfathrebu, iaith a darllen plant, ac mae hefyd yn gyfle gwych i deuluoedd gael profiad uniongyrchol o sut mae rhannu rhigymau dwyieithog gyda’i gilydd yn ffordd gyflym, hawdd a fforddiadwy o gael hwyl gyda’n gilydd. Mae amser o hyd i gymryd rhan a dangos i ni sut mae eich plant yn ymdopi â rhigymau ac odlau. P’un a ydych chi’n darllen cerdd gyda’ch gilydd gartref neu’n cymryd rhan fel grŵp, gallwch rannu eich dathliadau Amser Rhigwm Mawr Cymru gan ddefnyddio’r hashnod #HwylYRhigwmIBawb.”

Meddai Casia Wiliam, bardd a chyn-Fardd Plant Cymru:

‘Mae BookTrust Cymru’n gwneud cymaint o waith da ac yn creu adnoddau mor wych. Dwi’n teimlo’n freintiedig iawn i gael cymryd rhan yn Amser Rhigwm Mawr Cymru eleni a chreu adnodd newydd a fydd yn ysbrydoli plant ifanc ac yn eu cyflwyno i lawenydd odli. Mae fy mhlant byth a hefyd yn casglu pethau pan fyddwn ni allan, a’u hoffter o gasglu ‘trysor’ a ysbrydolodd fy ngherdd  “Trysorau Bychan”. Dwi’n gobeithio y bydd plant ledled Cymru’n ei mwynhau, ac y bydd yn peri iddyn nhw fod eisiau mynd allan i gael antur!’

I ddysgu mwy, ewch i wefan BookTrust Cymru neu dilynwch ni ar X a Facebook @BookTrustCymru  

 

Rhannu stori, Llyfrgelloedd Awen. Ffotograff gan Tom West.

Cookie Settings