Anrhydeddu Llyfrgelloedd am Gynnig Croeso Cynnes

 

Mae gwasanaeth llyfrgell lleol poblogaidd yn Abertawe wedi’i anrhydeddu am gynnig croeso cynnes i bobl sy’n ceisio noddfa.

Y rhwydwaith o lyfrgelloedd a gynhelir gan Gyngor Abertawe, yw’r cyntaf yng Nghymru i ennill statws Llyfrgell Noddfa (Library of Sanctuary).

Mae Llyfrgelloedd Noddfa (Libraries of Sanctuary) yn rhwydwaith o lyfrgellwyr, staff llyfrgell, grwpiau cymunedol ac unigolion sy’n caru llyfrau yn codi ymwybyddiaeth o’r materion sy’n wynebu pobl yn y system loches, yn cynnig cefnogaeth a chyfleoedd cyfranogi, ac yn cyfrannu at ddiwylliant o groeso yn y gymuned ehangach.

Mae gwobr Llyfrgelloedd Noddfa yn cydnabod ac yn dathlu’r llyfrgelloedd sy’n mynd y tu hwnt i’r arfer i ddangos undod a chroeso, a gall unrhyw lyfrgell wneud cais am y wobr.

Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Elliot King,

“Mae ein llyfrgelloedd yn cynnig croeso cynnes i bawb, gan gynnwys y rhai sy’n dod yma am amrywiaeth o resymau. Mae gan y gwasanaeth ddetholiad mawr o lyfrau mewn ieithoedd tramor ac mae’n cynnig rhaglen weithgareddau barhaus ar gyfer pobl o bob oedran. Mae’r gweithgarwch hwn, yng nghanol eu cymunedau ar draws y ddinas a’r sir, yn ategu statws balch Abertawe fel Dinas Noddfa (City of Sanctuary).”

Er mwyn sicrhau statws Llyfrgell Noddfa, roedd Abertawe’n destun proses achredu.

Mae gan Gyngor Abertawe 17 o lyfrgelloedd ar draws cymunedau lleol ac mae’n cynnig gwasanaeth dosbarthu ar gyfer cwsmeriaid nad ydynt yn gallu mynd i’w llyfrgell leol. Mae llyfrgellwyr yn cynnig nifer o wasanaethau digidol i aelodau. Roedd y rhaglen o ddigwyddiadau a gynigiwyd yr haf yma yn cynnwys Diwrnod Ffoaduriaid yn Llyfrgell Ganolog Abertawe.

Mae staff y Cyngor yn rhedeg llyfrgell Carchar Abertawe fel rhan o’r rhwydwaith, a dyma’r tro cyntaf i lyfrgell mewn carchar gael ei chynnwys ar gyfer gwobr Llyfrgell Noddfa.

Cyrhaeddodd Llyfrgelloedd Abertawe hefyd rhestr fer Gwobr Libraries Connected 2024 yn y categori Diwylliant a Chreadigrwydd (Culture and Creativity). Roedd clod am waith gwerthfawr Bethan Lee (Prif Lyfrgellydd), Jennifer Dorrian (Swyddog Rhaglen a Digwyddiadau) a Zoe Thomas (Cynorthwy-ydd y Llyfrgell), yn dangos menter i greu gweithgareddau newydd a datblygu adnoddau i alluogi Llyfrgell Ganolog Abertawe i groesawu pobl newydd sy’n ymgartrefu yn y ddinas ac y cyffiniau.

Llun: Staff Llyfrgelloedd Abertawe Jennifer Dorrian, Bethan Lee a Zoe Thomas.

Cookie Settings