Mari Emlyn

Mae nofel amlhaenog, arbrofol newydd Mari Emlyn ‘Y Wal’ yn cael ei gyhoeddi ar 27 Mawrth gan Y Lolfa. Cawsom gyfle i holi Mari am ei gwaith newydd …

Beth wnaeth eich ysbrydoli i ysgrifennu’r llyfr hwn?

Cefais fy ysbrydoli’n benodol gan ddau beth i lunio’r nofel hon.

Yn gyntaf, gweld cymdogion yn ffraeo ac yn codi waliau rhwng gerddi eu tai. Gwnaeth hyn i mi archwilio fy atgofion personol i am gymdogion fy magwrfa yng Nghaerdydd a’r waliau diriaethol a haniaethol mae rhywun yn eu hwynebu yn ystod ei fywyd.

Yn ail, cefais ysbrydoliaeth wrth wrando ar ddarlith yng Ngŵyl Y Gelli sawl blwyddyn yn ôl am ddraenogod! Fe es i’r ddarlith hon gan fod pob dewis arall wedi gwerthu’n llwyr. Does gen i ddim diddordeb ysol mewn draenogod. Ond byrdwn y ddarlith oedd y modd mae’r holl ffensys a’r waliau a adeiladwn yn ein gerddi yn golygu nad oes gan ddraenogod fodd i deithio a thrwy hynny yn methu paru a chynnal eu teuluoedd. Mae ein dull tiriogaethol ni o fyw yn peryglu ein bywyd gwyllt ac wrth gwrs mae hynny’n ymestyn i beryglu’r ddynoliaeth yn gyffredinol wrth i ni gau ein hunain i mewn a rhwystro pobl rhag croesi ffiniau.

Yn gefndir i hyn wrth gwrs, mae’r hyn sy’n digwydd ar lefel rhyngwladol, ac yn arbennig yr hyn sy’n digwydd ym Mhalestina a wal Trump rhwng ffin Mexico a’r Unol Daleithiau. Mae Brexit hefyd i mi, yn un wal enfawr hyll o gwmpas Prydain gan wneud Prydain Fawr yn Brydain fach iawn. Mae waliau o’n cwmpas ymhobman. Ymgais i wneud synnwyr o’r waliau oedd llunio’r nofel hon.

Dywedwch ychydig am y stori rydych chi wedi’i chreu.

Mae Siân yn awdures ac mae wedi cyrraedd wal a’r geiriau’n pallu dod. Daw toriad i’r trydan. Yn y tywyllwch, mae’n hel meddyliau am ei chymydog sydd wedi adeiladu wal fawr hyll rhwng y ddau dŷ a meddyliau hefyd am gyfnodau di-drydan streic y glowyr a hithau’n ferch fach. Cyn hir mae’r meddyliau’n troi at waliau eraill, rhai a fu’n gymaint o rwystr yn ei phlentyndod. Gan ddilyn arddull llyfrau dysgu darllen Ladybird o’r 1970au, mae’r print mawr ar ddechrau’r nofel yn troi’n brint llai wrth i linynnau’r stori blethu trwy’i gilydd.

Beth ddigwyddodd i’w brawd, ‘Gareth bach?’ Pam nad oedd ei thad yn hoffi Val Doonican? Pam nad oedd Siân yn hoffi Anti Rita? Pwy oedd y Distillers Biochemicals Limited? Ac o gyrraedd y presennol, a yw Siân am helpu Simon drws nesaf a’i gi Babka i ddringo’r wal i ddiogelwch?

Drwy ddarllen y nofel arbrofol hon, gobeithir taflu goleuni ar y tywyllwch sy’n canfod pontydd yn lle waliau.

Beth ydych chi’n gobeithio y bydd darllenwyr yn ei gael o’r stori hon?

Bod angen chwalu waliau a dechrau adeiladu pontydd.

Pa wybodaeth arbenigol neu ymchwil oedd ei hangen i ysgrifennu’r llyfr hwn?

Ymchwiliais dipyn i gyfnod dechrau’r 70au. Mae gen i gof byw o gael fy addysgu adref gan Mam yn ystod ‘three day week’ Edward Heath, adeg streic y glowyr. Dysgais wrth ymchwilio, mai yn 1974 fyddai hynny wedi effeithio arnaf fi, er i’r ‘three day week’ ddigwydd cyn hynny hefyd.

Yn wahanol i Siân yn y nofel, fe wnes i eithaf mwynhau’r newid byd yma, a dwi’n siŵr i mi ddysgu llawer gan Mam yn ystod y cyfnod hwn. Roeddwn i’n cael rhwydd hynt i ddarllen ac ysgrifennu straeon. Chefais i’r un wers mathemateg gan Mam ac roedd hynny’n fy mhlesio i’n fawr, ond efallai fod y diffyg hwn yn fy addysg ar y pryd yn rhannol gyfrifol heddiw am fy nhwpdra mewn unrhywbeth yn ymwneud â rhifyddeg.

Wrth ddarllen am hanes cyfnod rhwng y 60au a’r 70au fe’m hatgoffwyd am hanes babanod Thalydomyde. Darllenais un llyfr yn benodol wedi ei ysgrifennu gan ddynes yr un oed â mi a anwyd yng Nghaerdydd, yn fabi Thalydomyde. Dysgais o’i hunangofiant hi iddi fyw dafliad carreg oddi wrthym ni yng Nghaerdydd. Mae hi’n sôn am yr union lefydd y byddwn i’n mynd efo Mam: i Wellfield road ag ati. Mae’n ddigon posib, os nad yn debygol, y byddwn i wedi ei gweld hi, ac er bod fy rhieni i’n bobl eangfrydig iawn, mae’n siŵr bod ffiniau bryd hynny rhwng pwy oedden ni’n cymysgu â nhw a phwy nad oedden ni’n eu gweld. Mae posib gwneud pobl yn anweledig drwy greu waliau. Yn amlach na heb, yn hytrach na chofleidio amrywiaeth, fe adeiladwn waliau yn lle hynny.

Roedd ymchwilio i gyfnod y saithdegau cynnar yn fy atgoffa i hefyd pa mor isel oedd safle merch yn y cyfnod hwnnw. Does ond angen gwylio rhai o raglenni’r cyfnod, rhaglenni fel rhai Dick Emery a Benny Hill i gael ein hatgoffa o hynny. Dwi wedi ceisio ymgorffori rhai o’r elfennau yma yng nghymeriad tad Siân.

Beth wnaeth i chi ddechrau ysgrifennu?

Dwi wedi mwynhau sgwennu erioed, ond ar ôl colli Mam, roedd sgwennu’n fater o raid. Tawn i’n gorfod dadansoddi unrhywbeth dwi wedi ei gyhoeddi, mae llais Mam yn treiddio drwyddyn nhw i gyd.

Pa lyfrau ysbrydolodd chi fel darllenwr ifanc?

Fe alluogodd llyfrau Ladybird Gareth a Siân fi i fedru darllen, ond llyfrau T. Llew Jones oedd y llyfrau drodd y medru darllen yn eisiau darllen.

Pa brofiadau yn eich bywyd sydd wedi dylanwadu ar eich ysgrifennu fwyaf?

Colli Mam.

Pe gallech ddewis fod yn gymeriad o lyfr am ddiwrnod, pwy fyddai hwnnw a pham?

Cordelia yn nrama King Lear. Dyma fy hoff ddrama gan Shakespeare a Cordelia ydi’r cymeriad dewraf. Hi yw’r unig un o’r tair chwaer sy’n dweud y gwir pan fyddai dweud celwydd wedi bod yn haws. Byddai’n braf medru bod mor ddewr â hi. Ond wedyn pe bae Cordelia wedi dweud celwydd, fyddai yna ddim drama.

Pa gymeriad yn eich llyfrau ydych chi’n lleiaf tebygol o ddod ymlaen gyda hi/ef?

Ella dwy el yn nofel Wal. Dyma’r bwli sydd ar bob iard ysgol. Bwlis ydi’r bobl sy’n

codi’r waliau yn y lle cyntaf.

Pa neges sydd gennych i ysbrydoli ysgrifenwyr ifanc?

Darllenwch.

Am ragor o wybodaeth darllenwch ein taflen sy’n cyflwyno Mari a’i nofel newydd – gallwch ei lawrlwytho yma! Darllenwch am ein Awdur y Mis yn ‘sgwennu’n Saesneg yma