Alun Davies
Mehefin 17, 2020Wedi’i eni a’i fagu yn Aberystwyth, fe adawodd Alun i fynd i’r brifysgol yn Llundain a threulio deng mlynedd yno, cyn dychwelyd i Gymru i fyw yng Nghaerdydd. Erbyn hyn mae’n ddatblygwr meddalwedd ac yn berchennog busnes sy’n treulio llawer o’i amser o flaen ei gyfrifiadur!
Ar Lwybr Dial yw ei ail nofel yn nhrioleg y ditectif Taliesin MacLeavy. Fel y cyntaf, Ar Drywydd Llofrudd (Y Lolfa, 2018), mae hon wedi ei lleoli yn nhref Aberystwyth. Mae’n adleisio storïau dirgelwch a chyfresi teledu Scandinafaidd poblogaidd. Cawsom gyfle i ddarganfod mwy am yr awdur a’i lyfr Scandi-noir newydd yn ddiweddar …
Beth wnaeth eich ysbrydoli i ysgrifennu’r llyfr hwn?
Dyma’r ail lyfr mewn trioleg, felly rydw i wedi bod yn gweithio ar y stori ers cyn i mi orffen Ar Drywydd Llofrudd, y nofel gyntaf. Daeth honno allan yn 2018 a mi oeddwn i’n amau ar y pryd a fyddwn i’n teimlo’r un cyffro wrth ysgrifennu llyfr arall, ond mae’n wefr wahanol i ddatgelu stori newydd tra’n datblygu mwy ar yr un cymeriadau. Rydw i wedi bod yn ffodus i gael adborth da wrth nifer o ddarllenwyr y llyfr cyntaf, a mi oedd yn bendant yn deimlad rhyfedd i ysgrifennu’r nofel hon gan wybod bod sawl un yn disgwyl amdani.
Dywedwch ychydig am y stori rydych chi wedi’i chreu…
Mae’r stori wedi ei lleoli yn Aberystwyth, ac yn dilyn Ditectif Taliesin MacLeavy a’i bartner newydd, Ditectif Siwan Mathews. Ar ôl cael eu hanfon i ymchwilio lladrad yn Borth, mae’r ddau dditectif yn dod o hyd i gyrff hen gwpwl, wedi’u lladd yn eu cartref. Yn benderfynol o ddal yr un sy’n gyfrifol cyn i fwy farw, maen nhw’n mynd ati i geisio datgelu cefndir tywyll y cwpwl gafodd eu lladd, cyn i’r stori gymryd tro mwy cymhleth fyth wrth i’r llofrudd ddechrau cysylltu gyda Taliesin. Wedi ei hadrodd o safbwynt Taliesin a Siwan, mae’r stori’n mynd â’r darllenwr ar daith lawn amheuon, cyfrinachau a llofruddiaethau erchyll.
Beth ydych chi’n gobeithio y bydd darllenwyr yn ei gael o’r stori hon?
Y prif beth, wrth gwrs, yw fod pawb yn mwynhau cyffro’r helfa wrth i Taliesin a Siwan geisio dal y llofrudd. Dywedodd sawl un eu bod nhw wedi darllen Ar Drywydd Llofrudd mewn diwrnod, gan eu bod nhw wedi methu ei rhoi hi i lawr, a’r gobaith yw fod Ar Lwybr Dial yn gafael cystal. Ond yn ogystal â hynny, gan taw dyma’r ail nofel yn y drioleg, rydw i’n gobeithio fydd meddwl y darllenwr yn troi at y nofel nesaf, ac y byddan nhw’n dechrau ceisio dyfalu sut yn union mae’r cwbwl yn mynd i ddod i derfyn.
Pa wybodaeth arbenigol neu ymchwil oedd ei hangen i ysgrifennu’r llyfr hwn?
Fe wnes i rywfaint o waith ymchwil yn ymwneud ag ambell elfen o’r broses fforensig, ond yn gyffredinol, dydw i ddim yn tueddu i ymchwilio gormod wrth ysgrifennu – mae’n well gen i beidio â bod yn rhy gaeth i realiti (o fewn rheswm, wrth gwrs) rhag i hynny fynd yn ffordd y stori.
Beth wnaeth i chi ddechrau ysgrifennu?
Rydw i’n mwynhau ysgrifennu ers ’mod i’n ifanc, ac wedi bod yn ffodus i dderbyn cefnogaeth a geiriau caredig wrth fy rhieni ac wrth athrawon yn yr ysgol. Wnes i ddim ailafael mewn ysgrifennu o ddifrif tan rhyw bum mlynedd yn ôl, gan ysgrifennu ambell beth pan fyddai cyfle gen i, ond doedd dim un foment ‘Haleliwia’ wnaeth f’ysgogi i gychwyn ar y nofel gyntaf – dim ond eistedd i lawr gyda chliniadaur un prynhawn Sul tawel a dechrau teipio. O fesen derwen a dyf!
Pa lyfrau ysbrydolodd chi fel darllenwr ifanc?
Mi fyddwn i’n darllen pob math o bethau, ac yn mynd i’r llyfrgell leol yn Aberystwyth bron pob wythnos. Roeddwn i’n ffan o lyfrau Enid Blyton, Richmal Crompton a Gillian Cross ymysg eraill, ac mi fyddwn i wedi bod yn eiddigeddus iawn o’r arlwy eang o awduron a llyfrau sydd ar gael heddiw yn Gymraeg a Saesneg. Rydw i wedi darllen y llyfrau Harry Potter i gyd gyda fy merch, ac mae’r straeon wedi bod yn rhan annatod o’i phlentyndod i’r ddau ohonom ni. Mae gen i syniad am lyfr i oedolion ifanc ar y gweill, am fy mod i’n awyddus iawn i ysgrifennu rhywbeth bydd fy mhlant yn gallu mwynhau.
Pa brofiadau yn eich bywyd sydd wedi dylanwadu ar eich ysgrifennu fwyaf?
Mae dylanwad fy magwraeth yn Aberystwyth yn gryf yn fy nofelau i – rydw i’n credu y gall y lleoliad fod fel cymeriad ychwanegol mewn storïau, a mae canolbarth Cymru yn cynnig cymaint o ran tirlun, hanes a diwylliant. Rydw i hefyd yn rhedwr brwd, a mi fydda i’n treulio’r amser yna yn gweithio allan elfennau o’r stori yn fy meddwl – rydw i’n siŵr y byddai fy llyfrau i’n wahanol iawn petawn i wedi treulio f’amser i gyd yn eistedd ar bwys desg.
Pe gallech ddewis fod yn gymeriad o lyfr am ddiwrnod, pwy fyddai hwnnw a pham?
Rydw i wastad yn meddwl bywyd mor braf sydd gan Bertie Wooster yn nofelau PG Wodehouse – digon o arian, dim unrhyw fath o gyfrifoldebau, yn teithio o un parti i’r llall, a Jeeves wrth law i’w achub os oes unrhyw beth yn mynd o’i le!
Pa gymeriad yn eich llyfrau ydych chi’n lleiaf tebygol o ddod ymlaen gyda hi/ef?
Ar wahân i’r llofruddwyr, rydw i’n cymryd?! Mae yna gymeriad o’r enw Ditectif Iwan Harries yn Ar Drywydd Llofrudd, sydd yn ddiog ac yn edrych lawr ar bobl. Mae pobl sy’n eistedd ac yn chwerthin ar y rheini sy’n trio gwneud rhywbeth gwerth chweil ymysg y mwyaf annymunol yn y byd.
Pa neges sydd gennych i ysbrydoli ysgrifenwyr ifanc?
Mae ysgrifennu llyfr fel rhedeg ras – y cwbl sydd angen gwneud i gyrraedd y diwedd yw peidio a stopio!
Am ragor o wybodaeth darllenwch ein Taflen Dod i Adnabod yr Awdur sy’n cyflwyno Alun a’i nofel newydd. Darllenwch hefyd am ein Hawdur y Mis yn ‘sgwennu’n Saesneg.