Bethan Gwanas

Magwyd  Bethan Gwanas, yr awdures boblogaidd, yn y Brithdir, ger Dolgellau. Graddiodd mewn Ffrangeg ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn gwneud amryfal swyddi yn cynnwys gweithio gyda’r VSO yn Nigeria, dod o hyd i ‘extras’ ar gyfer Rownd a Rownd, dysgu plant Cymru sut i ganŵio a dringo yng Nglan-llyn a chyflwyno rhaglenni garddio a theithio. Erbyn hyn, mae wedi cyhoeddi dros 40 o lyfrau amrywiol ar gyfer plant, pobl ifanc, oedolion iaith gyntaf a dysgwyr. 

Mae ei llyfr diweddaraf yng nghyfres Cadi, Cadi a’r Gwrachod, yn stori berffaith ar gyfer nos Calan, ac fe gawsom yn anrhydedd i holi Bethan am y llyfr arbennig mewn cyfweliad yn ddiweddar …

Beth wnaeth eich ysbrydoli i ysgrifennu Cadi a’r Gwrachod?

Mae llyfrau Cadi yn gyfres bellach, a hon yw’r pumed gyfrol. Fy ngor-nith, Cadi Fflur, ysbrydolodd y llyfr cyntaf, Coeden Cadi, ac mi fydda i wastad yn ymgynghori efo hi a’i brodyr, Caio a Mabon, i weld os ydyn nhw’n hoffi fy syniadau. Ac fel mae’n digwydd, Mabon (8 oed) oedd isio’r gwrachod! Dwi wedi sgwennu llyfrau oedolion am wrachod, ond ro’n i wir isio sgwennu llyfr plant amdanyn nhw a Chalan Gaeaf ac ati am ei fod yn gymaint o hwyl, ac ro’n i’n gwybod y byddai Janet, yr arlunydd, yn cael andros o hwyl arni.

Llun calwr Cadi a'r Gwrachod

Dywedwch ychydig am y stori rydych chi wedi’i chreu …

Mae Cadi’n dysgu gwers ym mhob llyfr, a’r tro yma mae hi’n dysgu nad ydy gwylltio gyda’i brawd bach a dymuno ei droi yn llyffant yn syniad da – yn enwedig ar noson Calan Gaeaf pan mae’r lleuad yn llawn… Ydy, mae Mabon druan yn troi’n llyffant, ac mae’n rhaid i Cadi ac yntau fynd i Wlad y Gwrachod  i chwilio am help.

Beth ydych chi’n gobeithio y bydd darllenwyr yn ei gael o’r stori hon?

Adloniant, hwyl, chwerthin, a dysgu bod angen ymarfer, gwaith caled a dyfalbarhad i feistroli unrhyw grefft. Ac na ddylech chi alw enwau ar bobl!

Beth oedd yr heriau allweddol y gwnaethoch chi eu hwynebu wrth ysgrifennu Cadi a’r Gwrachod?

Cadw nifer y geiriau i lawr, felly bu’n rhaid torri, torri a thorri. Ro’n i wedi meddwl mai 4,000 o eiriau oedd y llyfrau eraill, ond naci, 3,000 oedd eu hangen! Ac ro’n i wedi mynd i hwyl efo’r sgwennu felly roedd y torri’n brifo a thynnu gwaed.

Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddechrau ysgrifennu?

Y mwynhad o ddarllen. Y funud ddysgais i ddarllen, roedd llyfrau yn fy hudo, ac ro’n i isio gallu sgwennu llyfrau Cymraeg fyddai’n hudo darllenwyr yn yr un modd. Llyfrau efo straeon sy’n cydio yn y dychymyg ac yn gwneud i chi ysu i wybod be sy’n digwydd nesa. Amdani! oedd fy nofel gyntaf ac mi wnes i sgwennu honno ar gyfer fy ffrindiau oedd yn credu bod nofelau Cymraeg i gyd yn anodd, yn ddiflas ac yn rhy llenyddol iddyn nhw.

Bethan Gwanas

O ble ydych chi’n cael eich ysbrydoliaeth?

O bob man a phob dim: y pethau mae pobl go iawn yn eu dweud a’u gwneud, digwyddiadau hanesyddol, brawddeg mewn papur newydd, lluniau, fy nheulu a fy ffrindiau, dieithriaid, a fy mhrofiadau i mewn bywyd.

Oes gennych chi hoff gymeriad rydych chi wedi’i greu? Os felly, pwy? A beth sy’n ei wneud mor arbennig?

Wel… er mod i’n hoff iawn o fy ngwrachod, a Llion Jones y Llinyn Trôns, cymeriad fy nofel nesaf ar gyfer oedolion sy’n dod i fy meddwl yn syth, sef ci. Mot ydi ei enw o a dwi wedi gwirioni efo fo. Be sy’n ei wneud yn arbennig? Y ffaith mai ci ydi o ac mae pob ci yn arbennig yn fy marn i.

Beth, yn eich barn chi, yw elfennau pwysicaf ysgrifennu da?

I mi, mae’n gyfuniad o hwyl a mynd dros ben llestri – a disgyblaeth. Mae angen gwybod pryd i dorri neu dynnu’n ôl. Gormod o bwdin dagith gi…  Ac mae angen gonestrwydd. A chymeriadau sy’n bachu eich diddordeb chi fel awdur, yn ogystal â’r darllenydd, ac yn datblygu wrth i’r stori fynd yn ei blaen. A thocio. A gweithio’n galed ar gael diweddglo da.

Pa lyfrau ysbrydolodd chi fel darllenwr ifanc?

Rhai Enid Blyton fel Brownie Tales a The Magic Faraway Tree. O, ac Anne of Green Gables a llyfrau am geffylau. Doedd ’na fawr o ddewis o lyfrau Cymraeg pan o’n i’n ifanc. Felly pan wnes i ddarganfod Jane Edwards yn fy arddegau, ro’n i wedi gwirioni.

Cover image of The Magic Faraway Tree  Cover image of Anne of Green Gables

Pwy yw eich hoff awduron?

Y diweddar Gareth F Williams, Manon Steffan Ros, Barbara Kingsolver, Kate Atkinson, ac yn ddiweddar, awdures llyfrau plant sy’n byw yn Nhondu: Zillah Bethell.

Pa lyfr sydd ar eich bwrdd wrth ochr y gwely ar hyn o bryd?

Salt gan Catrin Kean, a Gwag y Nos Sioned Wyn Roberts.

 

     

 

Pa brofiadau o lyfrgelloedd sydd wedi dylanwadu arnoch drwy eich bywyd?

Mi fues i’n gweithio yn llyfrgelloedd Caernarfon a Dolgellau, ac roedd yn brofiad mor ddifyr a hwyliog, mi ges fy ysbrydoli i sgwennu nofel i ddysgwyr am lyfrgellydd sy’n dysgu Cymraeg: Bywyd Blodwen Jones, a’r llyfr hwnnw ydi fy ‘ngwerthwr gorau’ i!

Y fan lyfrgell fyddai’n dod rownd ffermydd bob wythnos oedd un o uchafbwyntiau fy ieuenctid i; roedd pori drwy’r silffoedd a dewis llyfrau i mi ac i Dad yn bleser pur.

Oes gennych chi unrhyw awgrymiadau er mwyn annog plant a phobl ifanc i ddarllen mwy er pleser?

Wel, pan o’n i yn fy arddegau, ro’n i isio darllen unrhyw lyfrau roedd rhywun yn deud na ddylwn i eu darllen. Comics yn “ddrwg” i blant? Ro’n i’n eu llyncu. Ond nid pawb sydd o’r un natur â fi wrth gwrs. Rhywbeth arall sy’n gweithio ydi gweld/clywed cyfoedion neu arwyr yn canmol llyfrau maen nhw wedi eu mwynhau – pytiau byr, bachog efo lluniau o’r cloriau, nid rhyw draethodau hirfaith. Mae ymweliadau ysgol neu glwb CFfI gan awduron yn gallu helpu hefyd.

A oes gennych unrhyw gynlluniau ar gyfer teitlau pellach?

Oes, dwi wrthi’n gweithio ar nofel ar gyfer pobl ifanc wedi ei lleoli yn oes y Derwyddon a’r Rhufeiniaid. O ran Cadi, mae Janet yr arlunydd – a Mabon – yn meddwl y byddai Cadi a’r môr-ladron yn deitl da…

Cyhoeddwyd Cadi a’r Gwrachod ym Medi gan Y Lolfa.

Am ragor o wybodaeth, darllenwch ein Taflen Dod i Adnabod yr Awdur i sy’n cyflwyno Bethan a Cadi a’r Gwrachod! Darllenwch hefyd am ein Hawdur y Mis yn ‘sgwennu’n Saesneg

 

 

Cookie Settings