Daniel Davies

Ydych chi wedi dyfalu sut fywyd roedd Dafydd ap Gwilym, un o feirdd mwyaf Cymru, yn ei fwynhau? Wel, does dim angen i chi wneud hynny mwyach gan fod Daniel Davies, awdur o ardal Aberystwyth sy’n gwirioni ar hanes Cymru, wedi gwneud hynny drostoch chi!

Ffug-ddyddiadur Dafydd ap Gwilym yw Ceiliog Dandi, yn dilyn hynt a helynt y bardd a’i gyfeillion, sydd hefyd yn feirdd teithiol. Yn llawn hiwmor crafog a chyfeiriadau sy’n hynod o amserol, megis perthynas y Cymry â gwledydd eraill Ewrop a Newyddion Ffug, mae’r nofel yn agor cil y drws dychmygol ar beth o’n hanes cenedlaethol!

Ganwyd Daniel Davies yn Llanarth, Ceredigion. Cafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Llanarth ac Ysgol Uwchradd Aberaeron cyn iddo gwblhau gradd mewn cemeg a doethuriaeth yn yr un pwnc ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bu’n ohebydd ar gyfer y Cambrian News cyn iddo symud i weithio fel newyddiadurwr ar-lein gyda BBC Cymru. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar liwt ei hun. Mae’n byw gyda’i deulu ym Mhen-bont Rhydybeddau, Ceredigion.

Yn 2011 enillodd Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Wrecsam am ei nofel Tair Rheol Anhrefn. Ei llyfrau eraill yw Pelé, Gerson a’r Angel, Twist ar Ugain, Gwylliaid Glyndŵr, Hei-Ho!, Allez Les Gallois!, Yr Eumenides, Arwyr, a Pedwaredd Rheol Anhrefn.

Cawsom siawns i ofyn deg cwestiwn i Daniel yn ddiweddar …

Llun clawr Celiog Dandi

 

Beth wnaeth eich ysbrydoli i ysgrifennu Ceiliog Dandi?

Roeddwn wedi ysgrifennu stori am Dafydd ap Gwilym yn y gyfrol Arwyr (Gwasg Carreg Gwalch) 2018. Sylweddolais bryd hynny bod modd cael mwy o hwyl yn dychmygu ei anturiaethau fel bardd yn ystod cyfnod cythryblus yn hanes Cymru ac Ewrop.

Dywedwch ychydig am y stori rydych chi wedi’i chreu.

Mae’r stori’n ymwneud â chwe antur ddychmygol ym mywyd Dafydd ap Gwilym a’i gyfoedion rhwng 1345 a 1347 gan ddefnyddio’i farddoniaeth fel llamfwrdd i’r straeon, sydd, rwy’n gobeithio, yn ddoniol ac anturus.

Beth ydych chi’n gobeithio y bydd darllenwyr yn ei gael o’r stori hon?

Heblaw am ddod i adnabod beirdd fel Dafydd ap Gwilym, Iolo Goch a Madog Benfras yn well rwy’n gobeithio y bydd darllenwyr yn cael naws y cyfnod ac yn chwerthin yn iach wrth weld y tebygrwydd a’r gwahaniaethau rhwng pobl Cymru yn y bedwaredd ganrif ar ddeg a’r unfed ganrif ar hugain.

Pa wybodaeth arbenigol neu ymchwil oedd ei hangen i ysgrifennu’r llyfr hwn?

Bu’n rhaid imi ddarllen pob un o gerddi’r bardd (151 i gyd) yn drwyadl yn ogystal â darllen nifer o lyfrau ar waith a bywyd y bardd. Hefyd roedd angen darllen tipyn am hanes Lloegr ac Ewrop yn ystod blynyddoedd cynnar y Rhyfel Can Mlynedd i chwilio am ddeunydd crai.

Poster efo gwybodaeth am Awdur y Mis Daniel Davies

Beth wnaeth i chi ddechrau ysgrifennu?

Yn fyr, roeddwn am ysgrifennu rhywbeth y byddwn innau am ei ddarllen yn y gobaith y byddai pobl eraill hefyd am ddarllen nofelau comig yn y Gymraeg.

Pa lyfrau ysbrydolodd chi fel darllenwr ifanc?

Mae’n rhaid imi gyfaddef imi wylio mwy o deledu na darllen yn ystod fy ieuenctid.  Ond y llyfrau a’m hysbrydolodd i sgwennu oedd Pickwick Papers gan Charles Dickens, Catch-22 gan Joseph Heller a Thrioleg Twm Siôn Cati (Y Ffordd Beryglus, Ymysg Lladron a Dial o’r Diwedd) gan T.Llew Jones.

Pa brofiadau yn eich bywyd sydd wedi dylanwadu ar eich ysgrifennu fwyaf?

Roedd cael fy magu yn fab i blismon pentref yn agoriad llygad o ran sylweddoli fod gan pawb wendidau. O ganlyniad, mae goddefgarwch yn bwysig iawn imi, yn enwedig yn yr oes sydd ohoni.

Pe gallech ddewis fod yn gymeriad o lyfr am ddiwrnod, pwy fyddai hwnnw a pham?

Bertie Wooster o lyfrau Jeeves and Wooster gan P.G Wodehouse.

Dihuno marce 10 y bore gyda fy ngwas, Jeeves, yn rhoi hambwrdd â brecwast llawn o’m blaen (bacwn, wyau, kippers ac ati…). Yna gwisgo (y socs porffor a’r het Alpinaidd heddiw rwy’n credu) a mynd am dro drwy’r parc i’m clwb, The Drones, am ginio a chwpwl o snifters. Treulio’r prynhawn yn cael cyci-beis bach cyn paratoi am swper yn L’Escargot (Consommé aux pommes d’amour, Sylphides à la crème d’écrivisses, Mignonette de poulet petit Duc, Suprême de foie gras au champagne ac yn olaf Le plum pudding).  Gorffen y noson yn yfed a dawnsio yng nghlwb nos The Mottled Oyster a dychwelyd adref tua dau cyn dechrau eto drannoeth. Neu… Raskolnikov yn y nofel Trosedd a Chosb gan Dostoefsci, yn dibynnu ar yr hwyliau.

Pa gymeriad yn eich llyfrau ydych chi’n lleiaf tebygol o ddod ymlaen gyda hi/ef?

Y rhan fwyaf ohonynt. Pan rwy’n paratoi i ysgrifennu llyfr rwy’n rhoi cyfarwyddiadau clir a phendangt i’r cymeriadau am eu swyddogaeth, a pha mor bwysig yw hi eu bod yn dilyn fy nghanllawiau I’R GAIR. Yn anffodus, mae’r cymeriadau, am ryw reswm, yn penderfynu gwneud beth fynnan’ nhw, sy’n esbonio pam y mae cymaint o’m llyfrau wedi bod yn fethiant mae’n siŵr.

Pa neges sydd gennych i ysbrydoli ysgrifenwyr ifanc?

Dylai gwneud unrhyw beth creadigol fod yn hwyl. Peidiwch â chymryd y broses gormod o ddifri. Ysgrifennwch beth bynnag ry’ch chi am sgwennu amdano. Dim ond pobl eraill sy’n creu ffiniau a dy’n nhw’n gwybod didli sgwat.

Am ragor o wybodaeth darllenwch ein Taflen Dod i Adnabod yr Awdur sy’n cyflwyno Daniel a Ceiliog Dandi. Darllenwch hefyd am ein Hawdur y Mis yn ‘sgwennu’n Saesneg.

 

Cookie Settings