Elidir Jones

Awdur a sgriptiwr o Fangor yw Elidir Jones. Cafodd ei nofel gyntaf, Y Porthwll, ei chyhoeddi yn 2015. Ymhlith ei waith teledu y mae Ddoe am Ddeg, Arfordir Cymru, a Cynefin.

Ers 2004, mae’n chwarae’r gitâr fas i’r band Plant Duw, ac erbyn hyn mae’n byw ym Mhontypridd gyda’i wraig a’i gi mewn tŷ llawn llyfrau!

Mae ei lyfr newydd Melltith yn y Mynydd yn nofel ffantasi sy’n parhau â’r stori epig a llawn hiwmor a ddechreuodd yn Yr Horwth. Bydd yn sicr yn apelio at ddarllenwyr hen ac ifanc sy’n hoff o antur, brwydrau, perygl … a chrancod anferth!

Atebodd Elidir #DegCwestiwn inni’n ddiweddar am ei nofel ffantasi newydd …

Beth wnaeth eich ysbrydoli i ysgrifennu Melltith yn y Mynydd?

Doeddwn i ddim yn hollol sicr yn cychwyn Yr Horwth bod ’na ddilyniant yn mynd i fod, na sut stori fyddai hi. Ond fe ddaeth ’na syniad pendant ar gyfer ail lyfr hanner ffordd drwy ysgrifennu.

Ro’n i ar dân isio plymio i mewn i hanes y byd ffantasi ro’n i wedi ei greu, gan bod ’na werth miloedd o flynyddoedd ohono fo yn fy mhen! Feddyliais i am y ffordd berffaith o gynnwys teithio trwy amser yn y stori, a chael disgrifio brwydrau epig o’r gorffennol pell – dyna ysbrydolodd weddill y llyfr. Erbyn gorffen Yr Horwth, roeddwn i’n gwybod yn iawn be oedd am ddod nesa, ac yn benderfynol o gychwyn arni’n syth!

Melltith yn y Mynydd

Dywedwch ychydig am y stori rydych chi wedi’i chreu …

Ar ddechrau Melltith yn y Mynydd, mae chwe mis wedi pasio ers digwyddiadau Yr Horwth, a’n prif gymeriadau wedi hen setlo ar fynydd y Copa Coch, yn barod i wneud bywyd newydd yno. Yn anffodus, mae pawb arall yn ddigon hapus i aros i ffwrdd. Rhywbeth i’w wneud efo’r byddin o ysbrydion sy’n llechu yn y crombil, mae’n rhaid …

Does dim byd amdani felly ond mentro i’r tywyllwch o fewn y mynydd er mwyn cael gwared arnyn nhw. Syml!

Mae’r stori’n cymryd sawl tro annisgwyl wedi hynny – heb sbwylio dim, wrth gwrs – a’r arwyr yn gorfod ymladd eu gelyn mwyaf dieflig hyd yma … ar ben tua hanner dwsin o grancod anferthol!

Beth ydych chi’n gobeithio y bydd darllenwyr yn ei gael o’r stori hon?

Fel pob un o fy nofelau, dwi’n gobeithio y bydd Melltith yn y Mynydd yn cynnig ryw fath o ddihangfa, yn enwedig wrth ystyried y cyfnod anodd mae pawb wedi gorfod byw trwyddi’n ddiweddar. Does dim mwy i’r peth na hynny, i fod yn onest – dwi wedi gwneud fy ngorau i lunio stori antur sy’n sefyll ar ei phen ei hun, heb ormod o fetaffor neu gyfeiriadau at faterion cyfoes.

Ond dwi hefyd yn mawr obeithio y bydd ’na rai rhannau o’r nofel yn dod â deigryn i’r llygad. Mae pethau’n mynd braidd yn dywyll erbyn diwedd y stori, a ddeuais i’n beryglus o agos at grio wrth sgwennu …

Pa wybodaeth arbenigol neu ymchwil oedd ei hangen i ysgrifennu’r llyfr hwn?

Yn ffodus iawn i fi, dydi sgwennu ffantasi ddim yn gofyn am ormod o waith ymchwil. Dwi’n rhydd i adael i’r dychymyg grwydro!

Huw Aaron sy’n gorfod gwneud y rhan fwyaf o’r ymchwil ar gyfer ei waith celf, yn chwilota trwy hanes ar drywydd arfau neu arfwisgoedd neu ddinasoedd cŵl er mwyn ein hysbrydoli ni.

Beth wnaeth i chi ddechrau ysgrifennu?

Roeddwn i’n ysu am gael gyrfa greadigol erioed, ond doeddwn i byth yn siŵr iawn be i wneud. Roeddwn i isio bod yn gartwnydd, ac yna’n gerddor, ac yna’n gartwnydd eto …

Fe gymerodd hi tan i mi droi’n 25, a chael fy swydd ysgrifennu cynta ar gyfer y teledu, i mi sylweddoli bod rhywun yn medru sgriblo straeon a sgetshys gwirion yn llawn amser, a’i fod yn dod yn fwy naturiol i mi na chelf neu gerddoriaeth.

Un o fy hoff bethau i am y swydd ydi pa mor syml ydi popeth. Does dim wir angen cyfrifiadur arnoch chi, hyd yn oed – dim ond beiro, papur, a dychymyg!

Elidir Jones Poster Dod i adnabod yr Awdur

Pa lyfrau ysbrydolodd chi fel darllenwr ifanc?

Ar ben pentyrrau o lyfrau ffantasi – fel The Lord of the Rings, Fighting Fantasy, a Redwall ­– ro’n i wrth fy modd yn darllen comics fel Asterix, Tintin … a’r Beano, wrth gwrs!

Yn blentyn, llyfrau “amharchus”, “anllenyddol” wnaeth fy ysbrydoli i sgwennu am y tro cynta – nofelau wedi eu seilio ar y ffilmiau Star Wars a’r gemau Sonic the Hedgehog, er enghraifft. Dwi’n cofio meddwl y byddwn i’n hoff o sgwennu straeon felly – stwff syml, ffwrdd-â-hi, efo tinc reit gryf o hiwmor. Felly os oes rhywun yn dweud wrthych chi bod rhaid darllen y “clasuron” i gyd cyn symud ymlaen at y pethau rydych chi’n eu mwynhau, peidiwch â gwrando! Os ydi awdur – unrhyw awdur – yn medru eich ysbrydoli i ddarllen neu sgwennu, mae’n gwneud rhywbeth yn iawn.

Lord of the Rings      Asterix in Britain

Pe gallech ddewis fod yn gymeriad o lyfr am ddiwrnod, pwy fyddai hwnnw a pham?

Er bod cymeriad Michael, yn Y Tri Llais gan Emyr Humphreys, yn rhuthro i mewn i bob math o benderfyniadau hurt, mae o’n gwbl sicr ei fod yn gwneud y peth cywir bob un tro. Fyswn i’n hoff o’r math yna o hyder, dim ond am ddiwrnod …

Pa gymeriad yn eich llyfrau ydych chi’n lleiaf tebygol o ddod ymlaen gyda hi/ef?

Dwi’n gwneud fy ngorau i ysgrifennu cymeriadau gweddol gymhleth, heb fod yn rhy dda nac yn rhy ddrwg, felly gobeithio bod ’na rywbeth i’w hoffi am y rhan fwyaf ohonyn nhw.

Ond mae ’na un cymeriad yn Melltith yn y Mynydd – y Llawforwyn – sydd heb unrhyw rinweddau da o gwbwl. Ac mae hynny cyn iddi gael ei throi’n anghenfil a bygwth concro’r bydysawd …

Pa brofiadau o lyfrgelloedd sydd wedi dylanwadu arnoch drwy eich bywyd?

Ro’n i wrth fy modd yn dod adre o Lyfrgell Bangor bob wythnos efo mynydd o lyfrau, ac yn tueddu i ailddarllen yr un pethau dro ar ôl tro, yn gwneud y gorau o’r cyfle i brofi’r llyfrau Asterix a Fighting Fantasy doedd ddim yn fy nghasgliad yn barod.

Un profiad dwi’n cofio’n glir ydi chwilota drwy lyfrgell Ysgol Tryfan am nofelau ffantasi yn y Gymraeg, a dod o hyd i … ddim byd. Wrth edrych yn ôl, roedd hynny’n reswm mawr dros gychwyn y gyfres Chwedlau’r Copa Coch – er mwyn gwneud yn siŵr bod ’na hen ddigon o ddreigiau a dewinod mewn llyfrgelloedd ledled Cymru.

Llyfrgell Bangor

Llyfrgell Bangor

Pa neges sydd gennych i ysbrydoli ysgrifenwyr ifanc?

Mae ’na ddigon o bobol sy’n barod iawn i ddweud wrthoch chi pa fath o lyfrau y dylech chi fod yn eu hysgrifennu. Ond mae’r cyfan – pob un wan jac – yn anghywir. Be ddylech chi fod yn ei wneud, yn fwy na dim, ydi ysgrifennu’r llyfr rydych chi isio ei ddarllen, dim ots pa mor rhyfedd ydi’r syniad. Mae’n debyg iawn y bydd ’na rywun, yn rhywle, sydd isio darllen yr un stori’n union!

Cyhoeddwyd Melltith yn y Mynydd gan Atebol yn Chwefror 2021.

Llun gan Delyth Badder.

Am ragor o wybodaeth, darllenwch ein Taflen Dod i Adnobod yr Awdur sy’n cyflwyno Elidir a Melltith y Mynydd! Darllenwch hefyd am ein Hawdur y Mis yn ‘sgwennu’n Saesneg.

 

 

Cookie Settings