Fflur Dafydd

Ionawr 5, 2021

Mae Fflur Dafydd yn awdur, sgriptwraig a cherddor ar ei liwt ei hun. Enillodd ei hail nofel, ‘Atyniad’, y Fedal Ryddiaith yn 2006, ac fe gipiodd hefyd Wobr Goffa Daniel Owen gyda’i nofel ‘Y Llyfrgell’ yn 2009, y troswyd hi’n ffilm yn 2016. Enillodd ei nofel Saesneg, ‘Twenty Thousand Saints’, wobr Gŵyl y Gelli am Awdur Mwyaf Addawol 2007.

Hi yw dyfeisydd a sgriptwraig y gyfres boblogaidd ‘Parch’ (S4C); ac mae hefyd wedi sgriptio cyfresi eraill megis ’35 Awr’ a ’35 Diwrnod’, gan dderbyn sawl enwebiad BAFTA Cymru.

Cyfres o ysgrifau personol ac onest yw ‘Lloerganiadau’ am blentyndod ac arddegau yr awdures yn ardal Ceredigion dan olau’r lloer. Cyhoeddwyd Rhagfyr 2020 gan Y Lolfa.

Cawsom siawns i ofyn deg cwestiwn i Fflur yn ddiweddar …

Beth wnaeth eich ysbrydoli i ysgrifennu ‘Lloerganiadau’?

Fe ges i wahoddiad i ysgrifennu sioe ar thema seryddol i’r Eisteddfod Genedlaethol yng Ngheredigion yn 2020, gan eu bod nhw wedi partneru y flwyddyn honno gyda’r Gymdeithas Seryddol Frenhinol. Fe es i ati wedyn i wneud ychydig o ymchwil seryddol yn ardal Ceredigion yn y flwyddyn yn arwain i fyny at y Steddfod, gan ddyfeisio y sioe ‘Lloergan’ am fenyw o Dregaron yn mynd i’r lleuad. Ond wrth gwrs, oherwydd Cofid 19, nid oedd modd i’r sioe ddigwydd. Ond yng nghefn fy meddwl ers blynyddoedd roedd rhyw ysfa wedi bod gen i i gofnodi fy mhlentyndod a fy arddegau yng Ngheredigion.

Mae fy rhieni wedi symud o Landysul bellach, felly roedd hi’n teimlo fel diwedd cyfnod, ac roeddwn yn teimlo rhyw ysfa i roi’r cyfnod hwnnw i lawr ar gof a chadw. A rhywsut fe blethodd yr ymchwil am y lloer gyda fy atgofion personol, gan ganiatau i mi edrych ar gyfnodau gwahanol yn fy mywyd i trwy gyfrwng cyfnodau y lloer. Nid fel ‘ma rown i wedi dychmygu y byddwn yn sgwennu am fy ardal enedigol ond rhywsut roedd y patrwm yma yn ei siwtio i’r dim.

Llun clawr LloerganiadauDywedwch ychydig am eich llyfr …

Cyfrol o ysgrifau personol yw hi – nid hunangofiant fel y cyfryw, ond yn hytrach lloer-gofiant – cyfnodau mewn tywyllwch neu olau leuad sy’n gefnlen i bob un profiad neu stori. Mae’n amrywio o drafod profiadau plentyn ar goll mewn tywyllwch, merch yn ei harddegau yn mynd ar antur gyda’i chariad, a mam flinedig ar ei thraed yn bwydo trwy’r nos. Mae ‘na hefyd ysgrifau am ofodwragedd, am ffilmiau, am bartïon gwyllt, ac am gyfeillgarwch.

Beth ydych chi’n gobeithio y bydd darllenwyr yn ei gael o’r llyfr?

Dwi’n gobeithio y byddan nhw yn cael eu difyrru os dim byd arall. Mae’r gyfrol yn pendilio rhwng y dwys a’r digri yn aml iawn. Mae’n ychydig bach o focs-siocled o gyfrol gyda cryn dipyn o amrywiaeth o ran blasau a chyweiriau! Gobeithio fydd ‘na rhwbeth yma i bawb.

Pa wybodaeth arbenigol neu ymchwil oedd ei hangen i ysgrifennu ‘Lloerganiadau’?

Roedd angen deall rhywfaint am wyddoniaeth y lleuad â’r sêr. Dwi ddim yn berson gwyddonol o bell ffordd ond mi ges i dipyn o arweiniad gan Dr Huw ‘Haul’ Morgan o Adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth. Fe ddois i ddeall sut mae gwyddoniaeth yn gallu bod yn greadigol tu hwnt, ac yn ysbrydoliaeth mawr ar gyfer ffuglen.

Beth wnaeth i chi ddechrau ysgrifennu?

Rhyw ysfa i ddweud stori am wn i, ac i wneud rhywbeth cynhyrchiol gyda fy nychymyg. Dwi ddim yn cofio unrhyw adeg lle nad oeddwn yn sgwennu. Mae’n ysfa sydd wedi bod yno erioed. Alla i ddim ystyried gwneud unrhywbeth arall erbyn hyn.

‘Dwi ddim yn cofio unrhyw adeg lle nad oeddwn yn sgwennu.’

Pa lyfrau ysbrydolodd chi fel darllenwr ifanc?

Roeddwn wrth fy modd gyda Chyfres y Corryn pan yn blentyn, llyfrau T. Llew Jones, Enid Blyton, Gwenno Hywyn – ac yna yn fy arddegau yn darllen Stephen King a chyfresi o lyfrau Point Horror. Arswyd oedd fy mhethau erioed …

  Llun clawr Tan ar y Comin    Llun Clawr The Famous Five

Yn eich barn chi, pa mor bwysig yw llyfrau a darllen i gefnogi iechyd a lles?

Hollbwysig. Does dim byd fel ymgolli mewn llyfr fel therapi weithiau, ac edrych ymlaen i’w ddarllen. Mae’r darllenydd yn gorfod bod yn weithredol wrth ddarllen, ac mae ymhel â straeon a syniadau pobl eraill bob amser yn llesol. Dwi’n ceisio darllen ychydig bob nos cyn cysgu, dim ots beth sydd wrth law. Dim ond i wneud y cysylltiad rhyngdda i a’r dudalen.

‘Mae ymhel â straeon a syniadau pobl eraill bob amser yn llesol’

Oes efo chi mwy o deitlau ar y gweill?

Mae sawl teitl yn fy mhen ond dwi angen saib i feddwl amdanynt! Hon yw’r gyfrol gyntaf ers deng mlynedd ac roeddwn yn ei pharatoi i’r wasg yr un adeg ag yr oeddwn yn cwblhau cyfres deledu felly mae’n teimlo fel gwyrth ei bod hi’n bodoli! Mae’n anodd ffeindio’r amser i ymroi’n llwyr i sgwennu llyfrau gan fy mod yn sgriptio llawn amser bellach. Ond dwi wedi cael blas ar sgwennu’n ffeithiol-greadigol, a phe bai ‘na saib hir yn dod o’r gwaith teledu, hoffwn greu cyfrol ‘Haul’, efallai, wedi i mi ddysgu gymaint amdano gan Dr Huw Haul!

Pa brofiadau o lyfrgelloedd sydd wedi dylanwadu arnoch drwy eich bywyd?

Dwi’n meddwl bod pawb erbyn hyn yn gwybod y fath ddylanwad gafodd Y Llyfrgell Genedlaethol arnaf, gan i mi sgwennu nofel a ffilm amdani! Fe dreuliais i bob diwrnod yna am dri mis cyfan yn ceisio gorffen fy noethuriaeth, gan ryfeddu at yr adeilad a’i holl gyfoeth o weithiau.

‘Dwi’n meddwl bod pawb erbyn hyn yn gwybod y fath ddylanwad gafodd Y Llyfrgell Genedlaethol arnaf’

Y Llyfrgell Genedlaethol

Pa neges sydd gennych i ysbrydoli ysgrifenwyr ifanc?

Peidiwch a phoeni os nad yw’r drafft cyntaf yn berffaith. Dyw e ddim i fod yn berffaith. Y peth pwysig yw ei orffen!

Am ragor o wybodaeth, darllenwch ein Taflen Dod i Adnabod yr Awdur sy’n cyflwyno Fflur a Lloerganiadau. Darllenwch hefyd am ein Hawdur y Mis yn ‘sgwennu’n Saesneg.

Ffotograff yr Awdur: Celf Calon

Poster Dod i Adnabod Awdur Fflur Dafydd