Geraint Evans

 

Mae Geraint Evans yn byw yn Nhal-y-bont, Ceredigion. Bu’n ddarlithydd yn Adran Astudiaethau Gwybodaeth Prifysgol Aberystwyth ac am gyfnod yn Warden ar Neuadd Breswyl Pantycelyn. Hergest yw ei nofel ddiweddaraf, wedi ei chyhoeddi gan Y Lolfa. Mae’n debyg nad yw’r nofel yn deillio o brofiad personol!

Pan mae Dr Rodrigo Lewis o Batagonia yn cyrraedd Prifysgol Hergest, i dreulio blwyddyn yno fel darlithydd gwadd, mae’n llwyddo i greu argraff ar bawb. Mae nifer yn cael ei swyno ganddo, rhai yn ei weld fel bygythiad, ac eraill yn ei ddiystyru.

Wrth i’r flwyddyn academaidd fynd rhagddi mewn awyrgylch gaeedig y campws, cawn ddarganfod cymeriadau brith eraill, eu ffaeleddau, eu hynodweddau a’u huchelgeisiau. Ond mae Rodrigo yn chwa o awyr iach mewn byd o hierarchaeth a thraddodiadau.

Nofel gyfoes, yn llawn hiwmor a dychan, yn dangos bywyd blwyddyn gyfan y brifysgol trwy lygaid darlithydd ifanc, golygus.

Geraint, beth wnaeth eich ysbrydoli i ysgrifennu Hergest?

Roeddwn i wastad eisiau ysgrifennu nofel wedi’i lleoli mewn prifysgol oherwydd fy ngyrfa fel darlithydd – gyda dos dda o ddychymyg!

Dywedwch ychydig am y stori rydych chi wedi’i chreu…

Daw Rodrigo Lewis o  Batagonia  i dreulio blwyddyn breswyl ym Mhrifysgol Hergest Canolbarth Cymru. O linach y rhai a hwyliodd i sefydlu’r Wladfa, yn fardd ac yn un o brif chwaraewyr rygbi ei wlad mae’n ymddangos yn ddewis perffaith. Ond yn sgil cyfres o helyntion gan gynnwys tarfu ar ymweliad brenhinol mae arhosiad Rodrigo yn y fantol. Ar fin gadael mewn cywilydd caiff waredigaeth o ddarganfod am gynlluniau Prifathro Hergest i ddatblygu parc gwyliau ar dir cyfagos a thrwy hynny beryglu holl fodolaeth y Brifysgol. 

 

Llun clawr Hergest

 

Beth ydych chi’n gobeithio y bydd darllenwyr yn ei gael o’r stori hon?

Tipyn o hwyl, dychan, a chipolwg ar addysg uwch yn y Gymru gyfoes.

Oedd unrhyw heriau arbennig wrth baratoi’r llyfr?

Gwneud yn siŵr nad oedd y cymeriadau’n rhy debyg i bobl go iawn!

Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddechrau ysgrifennu?

Creu mwy o ddewis i ddarllenwyr Cymraeg – nofelau ditectif yn gyntaf, a nawr hon.

O ble rydych chi’n cael ysbrydoliaeth?

Gweld hanesion yn y wasg am brofiadau unigolion a osodwyd mewn sefyllfa anodd. Mae realiti yn creu tensiwn rhwng y cymeriadau.

 

Poster Dod i Adnabod yr Awdur Geraint Evans

 

Pe baech chi’n disgrifio eich hun mewn tri gair, beth fyddai’r rheini?

Brwdfrydig, disgybledig, hwyliog.

Beth, yn eich barn chi, yw elfennau pwysicaf ysgrifennu da?

Plot effeithiol, gyda’r cymeriadau yn gyrru’r plot nid y plot yn gyrru’r cymeriadau. 

Pa lyfrau ysbrydolodd chi fel darllenwr ifanc?

Nofelau Graham Greene.

Pa lyfr sydd ar y bwrdd wrth ymyl eich gwely ar hyn o bryd?

Drift gan Caryl Lewis. Os nad oes llyfr ar y gweill mae rhywbeth ar goll yn fy mywyd.

 

Drift by Caryl Lewis

 

Petaech chi’n gallu gwahodd unrhyw dri pherson am ginio, pwy fydden nhw?

Daniel Owen, John le Carré a Hilary Mantel.

Pa brofiadau o lyfrgelloedd sydd wedi dylanwadu arnoch drwy eich bywyd?

Darlithydd yn y maes, ymchwil i gefndir y nofelau a defnyddiwr brwd.

Oes gennych chi unrhyw awgrymiadau er mwyn annog plant a phobl ifanc i ddarllen mwy er pleser?

Codi a phrofi un llyfr – agor drws dychymyg a chamu i mewn.

A oes gennych unrhyw gynlluniau ar gyfer teitlau pellach?

Oes, stori sy’n cipio’r prif gymeriad o heddwch tref glan môr yng Nghymru i erchyllterau’r Ail Ryfel Byd

Cyhoeddwyd Hergest yng Ngorffennaf gan Y Lolfa.

Darllenwch ein Taflen Dod i Adnabod yr Awdur sy’n cyflwyno’r awdur a’i lyfr newydd. 

Darllenwch hefyd am ein Hawdur y Mis yn ‘sgwennu’n Saesneg

 

Cookie Settings