Geraint Lewis

Mae Geraint Lewis yn hanu o Dregaron, Ceredigion. Cyhoeddodd dair nofel, sef X, Daw Eto Haul a Haf o Hyd, i gyd i Wasg Carreg Gwalch a tair cyfrol o straeon byrion, Y Malwod (Annwn) a Brodyr a Chwiorydd (Y Lolfa) a Cofiwch Olchi Dwylo a Straeon Eraill (Gwasg Carreg Gwalch). Enillodd gystadleuaeth Stori Fer Cymdeithas Allen Raine ac ef oedd enillydd cyntaf Gwobr Stori Fer Tony Bianchi yn 2019. Bu’n ysgrifennu’n helaeth i’r theatr, radio a theledu. Mae’n byw yn Aberaeron gyda’i wraig, Siân.

O’r diwedd, mae Lloerig, ei nofel ddaeth yn ail agos am y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2021 yn gweld golau dydd. Cafodd Geraint, dan y ffugenw ‘Corryn’, ganmoliaeth uchel yn y gystadleuaeth honno gan y beirniaid, yn enwedig Rhiannon Ifans, am ei waith gwreiddiol a heriol sy’n delio ag ymateb mam i hunanladdiad ei mab un ar bymtheg oed.

“Awdur mentrus a hyderus… nofel graff sy’n torri tir newydd” – Rhiannon Ifans, beirniadaeth y Fedal Ryddiaith, 2021

Mae’r nofel yn mynd â’r darllenydd yn ddwfn i feddwl Mari, mam yn ei phumdegau sy’n ceisio gwneud rhyw fath o synnwyr o’r hyn a symbylodd ei mab, Kevin, i grogi ei hun – a hynny drwy gyfrwng un frawddeg. Pam dewis peidio â defnyddio atalnodi? “Pam lai?” yw ateb yr awdur. “Yn raddol dwi wedi canfod apêl y ffurf o ysgrifennu llif yr ymwybod,” ymhelaetha, “lle mae meddwl y prif gymeriad yn ehedeg yma ac acw yn ddi-stop. Bu’n broses hir o dyfu’n naturiol o ysgrifennu ymsonau theatr a monologau radio, ond mae’r arddull yn apelio’n fawr ataf. Mantais fawr y ffurf yw eich bod chi a’r darllenydd yn gallu mynd yn syth i feddwl y cymeriad.”

Mae darlun trawiadol ar glawr y nofel: Pwll Fenws a’r Lleuad (2020) gan Iwan Bala, un o artistiaid mwyaf arobryn Cymru. Dewiswyd y darlun yn arbennig gan yr awdur gan ei fod yn adlewyrchu dwy elfen bwysig yn y nofel: coeden, yn adlais o’r goeden afalau y crogodd Kevin ei hun oddi arni, a’r lleuad sy’n symbol o ddiddordeb y llanc yn y gofod a’r bydysawd.

Roeddem yn ffodus i allu holi Geraint yn ddiweddar am ei lyfr newydd…

Beth wnaeth eich ysbrydoli i ysgrifennu Lloerig?

Gweld erthygl bapur newydd yn sôn am ystadegau brawychus hunanladdiad ymhlith dynion ifanc oedd yr ysbrydoliaeth gynnar. O’n i’n meddwl ei fod e’n bwnc pwysig i ddelio ag ef yn storïol. Hefyd oedd dyfodiad yr Eisteddfod Genedlaethol i fro fy mebyd, Tregaron, wedi crisialu’r meddwl ynglŷn â cheisio am y Fedal Lenyddiaeth am y tro cyntaf. A’r testun, Clymau, yn apelio.

Dywedwch ychydig am y stori rydych chi wedi’i chreu …

Ar y wyneb mae’r ‘stori’ am fam yn ei phumdegau, Mari, yn gwneud cacen ar brynhawn o haf ac yna’n cael paned o de wedi iddi ddyfrio ychydig o’i phlanhigion yn ei gardd. Dyna sy’n ‘digwydd’, fel petai, sef fawr ddim ar un olwg. Ond wrth iddi baratoi ei chacen ac yfed ei the a rhoi dŵr ar ei phlanhigion, ry’n ni fel darllenwyr yn cael ein gwahodd tu fewn i’w phen, sy’n fwrlwm o alar a dicter. Wrth ddilyn trywydd ei meddwl down i ddirnad maint ei dioddefaint, gan iddi golli ei mab un deg chwech oed jest dros fis yn ôl, wedi iddo grogi ei hun o goeden yn yr ardd.

 

“Dyma nofel hynod grefftus … teimlais ein bod yng nghwmni awdur arbennig.” – Elwyn Jones

Beth ydych chi’n gobeithio y bydd darllenwyr yn ei gael o’r stori hon?

Yr un peth ag unrhyw stori arall, sef cael eu tywys i fyd dychmygol, difyr am ychydig oriau. Hoffwn feddwl bydd y darllenydd yn dod i ddirnad pa mor fregus yw bywyd, yn enwedig i’r to iau yn yr oes ni’n byw ynddi.

Oedd unrhyw heriau arbennig wrth baratoi’r llyfr?

Roedd tipyn o waith ymchwil ond yr her fwyaf oedd cadw at arddull y nofel, sef llif yr ymwybod lle mae meddwl y prif gymeriad yn ehedeg yma ac acw yn ddi-stop. Roedd e’n bwysig i gael yr hyder i ddal at y troeon annisgwyl ym mhen dyrys Mari.

Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddechrau ysgrifennu?

Os chi’n sôn yn gyffredinol yna mae’r awydd i ddweud stori’n mynd ’nôl ymhell gen i, o gyfnod fy arddegau yn sicr. Jest diléit naturiol o wneud rhywbeth chi’n ei hoffi, am wn i. Os chi’n sôn am ‘Lloerig’ yn sicr roedd dyddiad cau’r gystadleuaeth yn nesáu ar y gorwel yn ysbrydoli rhywun. Dwi wedi ffeindio yn y gorffennol weithiau mae jest rhaid i chi ysgrifennu’r darn. Roedd hynny’n sicr yn wir am y tro hwn, sef yr awydd cryf i gael y stori i lawr ar ddu a gwyn. Dwi’m yn rhy siŵr o ble mae hynny’n dod yn y bôn, nac yn siŵr os wy’n dymuno gwybod chwaith.

O ble ydych chi’n cael eich ysbrydoliaeth?

Dwi’n hoffi cadw ffeil Syniadau yn fy nghyfrifiadur. Fel arfer mae gen i sawl syniad, i gyd ar lefelau gwahanol o ddatblygiad. Dwi’n hepgor rhai yn gyfan gwbl. Gydag eraill chi’n aros i ganfod y ffurf orau i ddweud y stori. Ai drama radio yw hi? Stori fer? Ffilm? Weithiau, fel yn yr achos hwn, daw’r ysbrydoliaeth o erthygl bapur newydd neu gylchgrawn. Fel arfer posibiliadau cymeriad difyr yw sbardun y stori i mi.

Pe bai’n rhaid ichi ddisgrifio eich hun mewn tri gair yn unig, beth fyddai’r rheini?

Disgybledig. Egnïol. Sbort (gobeithio).

Beth, yn eich barn chi, yw elfennau pwysicaf ysgrifennu da?

Rhaid i stori afael yn y darllenydd. Mae rhywbeth dwfn ynddon ni sy’n chwennych stori a’r nod yw cynnig byd dychmygol diddorol i fwydo’r chwant hwn sydd ynddon ni. Dwi dal i deimlo taw jest crafu’r wyneb o ddysgu’r grefft ydw i. Mae’n gamp anodd, cadw’r llinyn yna o’ch dychymyg chi sy’n ymestyn i’r darllenydd mor dynn ag sy’n bosib.

   

Pa lyfrau ysbrydolodd chi fel darllenwr ifanc?

Unrhyw beth gan T. Llew Jones neu Enid Blyton pan o’n i’n fach. Cafodd straeon byrion Dylan Thomas gryn ddylanwad arnaf yn fy arddegau.

Pa lyfr sydd ar eich bwrdd wrth ochr y gwely ar hyn o bryd?

Burntcoat gan Sarah Hall.

Llun clawr Burncoat

Pe gallech wahodd unrhyw dri pherson am ginio, pwy fyddech chi’n ei wahodd?

George Orwell, Nina Simone a Iolo Morgannwg, yn rhannol i weld sut fyddai’r tri’n dod ymlaen.

Pa brofiadau o lyfrgelloedd sydd wedi dylanwadu arnoch drwy eich bywyd?

O’n i’n ddigon ffodus i fyw drws nesaf i’r llyfrgell yn Nhregaron a chofio treulio tipyn o fy arddegau yno a’i weld fel rhywle hudol, lle allech chi ddiflannu i fydoedd eraill. Dwi wastad wedi defnyddio llyfrgelloedd ble bynnag wyf wedi byw. Maen nhw’n dal i greu rhyw wefr wrth fynd i mewn trwy’r drws.

Oes gennych chi unrhyw awgrymiadau er mwyn annog plant a phobl ifanc i ddarllen mwy er pleser?

O’n i wrth fy modd yn darllen storïau i’r tri mab cyn iddyn nhw fynd i gysgu. Mae clywed geiriau ar lafar yn magu hoffter o eiriau ac mae hynny’n rhan o’r siwrnai o fynd yn ddarllenwr, am wn i. ’Sen i’n bendant yn annog clywed geiriau ar lafar, boed yn storïau neu’n farddoniaeth.

Er nad o’n i’n ymwybodol o hynny ar y pryd oedd storïau’r Beibl yn y capel a’r ysgol Sul hefyd yn help i feithrin diléit mewn storïau, mae’n siwr. Felly’r ateb amlwg ond gwir yw ymhél â storïau yn eu gwahanol ffyrdd mor ifanc â phosib ac mor aml ag y gallwch chi. I raddau mae’r broses yn bwydo’i hunan wedyn.

A oes gennych unrhyw gynlluniau ar gyfer teitlau pellach?

Oes. Soniais yn gynharach am y ffeil Syniadau. Ar y funud mae nodiadau am nofel wedi ei gosod yn y dyfodol yno. Hefyd casgliad o straeon byrion ar ei hanner. Mae cwpwl o syniadau am ddramâu llwyfan. Hefyd nodiadau niferus am nofel ddoniol bosib am ddau hen gyfaill yn trio gwneud synnwyr o’i gorffennol. Er bod rhaid bod yn ofalus pryd i gychwyn go iawn ar unrhyw brosiect y nofel ddoniol sy’n galw gryfaf. Wy’n credu byddaf yn barod i fynd i’r afael â hi go iawn yn y Gwanwyn a rhoi ryw siâp arni cyn diwedd y flwyddyn, gobeithio

Bydd Lloerig yn cael ei gyhoeddi ar 15 Mawrth gan Wasg Carreg Gwalch.

Am fwy o wybodaeth am yr awdur ewch i www.geraintlewis.net  a’i gyfrif  Twitter @GeraintTregaron

Darllenwch hefyd ein Taflen Dod i Adnabod yr Awdur i sy’n cyflwyno Geraint a Lloerig. Darllenwch hefyd am ein Hawdur y Mis yn ‘sgwennu’n Saesneg

 

 

Cookie Settings