Geraint V. Jones

Medi 6, 2021

Mae’r awdur o Lan Ffestiniog, Geraint V. Joneas, wedi cyhoeddi pedair ar ddeg o nofelau Cymraeg ar gyfer oedolion, yn ogystal ag un Saesneg yn ystod ei yrfa hir a llewyrchus. Enillodd Wobr Goffa Daniel Owen dair gwaith gyda Yn y Gwaed (1990), Semtecs (1998) a Cur y Nos (2000).

Cawsom yr anrhydedd arbennig yn ddiweddar i’w holi am ei nofel ddiweddaraf Niwl Ddoe

Corff gwraig ifanc yn Afon Ddyfrdwy a thrasiedi arall ger Trwyn Cilan yn Llŷn. Nofel goll… dyddiadur cudd… dryswch yn achau’r teulu.

Mae rhyw ddirgelwch neu gyfrinach yng ngorffennol pob un ohonom, ond gan neb yn fwy na’r awdures fyd-enwog Veronique a theulu ifanc Sisial y Traeth yn Abersoch. Ym marn y gohebydd Huw Peris mae yma fwy nag un dirgelwch i’w datrys, ond a oes peryg i’w ymyrraeth gostio’n ddrud iddo yntau hefyd?

Sut ydych chi’n mynd ati i ysgrifennu llyfr?

Dim byd mwy na stori yn dechrau cyniwair yn y pen ac yna’n gwrthod gollwng gafael, nes fy ngorfodi yn y diwedd i neud rhywbeth ynglŷn â hi! Erbyn hynny mi fyddwn wedi dod i adnabod y cymeriadau yn bur dda a syniad go lew gennyf hefyd sut y byddai’r stori yn datblygu o bennod i bennod, ac o’r math o ddiweddglo oedd gen i ar ei chyfer. Profiad digon tebyg oedd tu cefn i bob un o’m llyfrau eraill hefyd– h.y. rhyw gael fy ngorfodi i sgwennu fydda i, a hynny yn groes i’r graen yn aml!

Llun clawr Niwl DdoeYm mha ffordd mae Niwl Ddoe yn debyg a gwahanol i lyfrau eraill rydych chi wedi eu hysgrifennu?

O ran thema, mae Niwl Ddoe yn eithaf tebyg i Elena (2019) mae’n siŵr, gan mai dirgelion teulu sydd i’w cael yn honno’n ogystal. Ond dirgelion llai eithafol, serch hynny, na’r hyn a gaed yn y nofel fer Yn y Gwaed (1990) neu Cur y Nos (2000).

Mae rhai o’m nofelau eraill yn perthyn i genre pur wahanol e.e. ias a chyffro Semtecs (1998), Asasin (1999), Omega (2000), Zen (2004) … neu’r ymgais (wan) at hiwmor a ffars yn Sî Bêi (2010).

Ydych chi’n credu ei bod hi’n bwysig i dynnu sylw at bynciau llosg mewn llyfrau?

Does dim o’i le, wrth gwrs, ag ymdrin â phynciau llosg mewn nofel, cyn belled ag mai’r cymeriadau ac nid yr awdur ei hun sy’n rhoi gwahanol agweddau’r ddadl, a bod peth felly yn cael ei neud yn gynnil ac yn gelfydd. Yn fy marn i, ni ddylai nofelydd fyth roi’r argraff o fod yn pregethu neu foesoli.

Beth sy’n gwneud nofel dda yn eich barn chi?

– stori afaelgar a honno wedi’i chynllunio’n ofalus

– cymeriadau sy’n tyfu ac yn dod yn fyw a chredadwy yn nychymyg y darllenydd

– deialog ddiwastraff , ym mha dafodiaith bynnag, a honno’n taro’n naturiol ar glust y darllenydd

– diweddglo sy’n dod a phob dim yn daclus i fwcwl heb unrhyw ‘loose ends’ (chwedl y Sais!)

Pa lyfrau ysbrydolodd chi fel darllenwr ifanc?

Llyfr Mawr y Plant oedd ffefryn yr oes (h.y. canol yr 1940au i mi!). Roedd hanesion Sion Blewyn Coch ac eraill yn tanio’r dychymyg ifanc. Byd Enid Blyton oedd hi wedyn yn yr arddegau cynnar – helyntion y Famous Five a’r Secret Seven i ni’r hogia. A’r fath edrych ymlaen o hyd at y nesaf i ymddangos o’r wasg. Ar y pryd, doedd fawr o ddim yn y Gymraeg a allai gystadlu efo rheini, gwaetha’r modd. Yna, cyfnod o ymgolli’n llwyr yn storïau ditectif Agatha Christie a rhai John Ellis Williams (hwnnw’n brifathro ar un o ysgolion cynradd Stiniog ar y pryd, ac yn wyneb cyfarwydd i mi).

Llun clawr Llyfr Mawr y Plant    Llun Clawr The Famous Five

Pwy yw eich hoff awduron?

Bron nad yw’n ystrydebol i enwi Kate Roberts (Traed Mewn Cyffion yn arbennig), T. Rowland Hughes, Islwyn Ffowc Ellis, Caradog Pritchard, et al ond y nofelau a gydiodd fwyaf yn fy nychymyg pan ddechreuodd rheini ymddangos oedd nofelau hanes Rhiannon Davies Jones, ac yna’r drioleg gan Cyril Hughes ar fywyd Catrin o Ferain. Cefais flas anghyffredin hefyd ar Awst yn Anogia gan y diweddar Gareth F. Williams. Yr hyn sy’n galonogol yw bod cymaint o awduron ifanc y dyddiau hyn, a bod llawer ohonyn nhw’n ferched.

Pa brofiadau o lyfrgelloedd sydd wedi dylanwadu arnoch drwy eich bywyd?

Fy nghof cyntaf ydi mynd yng nghwmni fy nhad i’r llyfrgell ym Mlaenau Ffestiniog i ddewis llyfr. Rhyw ddeg oed oeddwn i ar y pryd, dwi’n tybio, a Nedw Tegla Davies oedd yn cael ei argymell gan y llyfrgellydd. (Cyfyng iawn oedd y dewis i blant a phobl ifanc yn niwedd yr 1940au) Sut bynnag, tipyn o strygl fu’r darllen, rhaid cyfadde, ond fe ddois i ben â hi rywsut neu’i gilydd a dod i sylweddoli bod angen dyfalbarhad weithiau i allu gwerthfawrogi llyfr. Peth arall a adawodd argraff arnaf bryd hynny oedd arogl hen a mwll y lle, a’r ffaith bod y llyfrau i gyd mor ddi-liw – cloriau duon, cloriau brown, cloriau browngoch, cloriau gwyrdd tywyll. Y fath newid a fu dros y blynyddoedd! Erbyn heddiw, cloriau a siacedi llwch lliwgar a deniadol, a’r print a’r cysodi yn gymaint brafiach i’r llygad!

Oes gennych chi unrhyw awgrymiadau er mwyn annog plant a phobl ifanc i ddarllen er pleser?

Nid cyfrifoldeb athrawon yn unig ydi cael plant i ymddiddori mewn darllen. Mae dyletswydd ar rieni yn ogystal, i fynd â’u plant i’r llyfrgell leol, pe bai ond i’w cael nhw i fodio trwy’r arlwy lliwgar a hynod o ddeniadol sydd ar gael y dyddiau hyn. A da o beth hefyd fyddai rhoi amser i wrando arnyn nhw’n darllen pwt a bod yn barod wedyn i drafod y stori efo nhw. A pha well anogaeth i blant na’u bod nhw’n gweld hefyd eu rhieni yn mwynhau awr neu ddwy o ddarllen ar fin nos

Cyhoeddir Niwl Ddoe ym mis Medi gan Y Lolfa.

Am ragor o wybodaeth, darllenwch ein Taflen Dod i Adnabod yr Awdur i sy’n cyflwyno Geraint a Niwl Ddoe. Darllenwch hefyd am ein Hawdur y Mis yn ‘sgwennu’n Saesneg

Poster Dod i Adnabod yr Awdur Geraint V. Jones JPEG