Haf Llewelyn

Mae Haf Llewelyn yn awdures nofelau i oedolion ac i blant, ac yn barddoni. Enillodd ei nofel Diffodd y Sêr wobr Tir na n-Og yn 2014. Mae’n byw yn Llanuwchllyn.

Diolch i Haf am ateb ychydig o gwestiynau inni’n ddiweddar am ei llyfr newydd Ga i Fyw Adra?

Beth wnaeth eich ysbrydoli i ysgrifennu Ga i Fyw Adra?

Dw i’n ddigon hen i gofio’r cyfnod ar ddechrau’r 1980egau yn weddol dda,  roeddwn i’n Ysgol Ardudwy, Harlech, ac roedd yr hanes am y llosgi yn creu cryn gynnwrf ar y pryd. Ond ddegawdau’n ddiweddarach, mae pobl ifanc yn dal i fethu fforddio prynu neu hyd yn oed rentu tai yn eu cymunedau.  Mae’r broblem yn parhau, ac os rhywbeth yn mynd yn waeth, gyda thai yn cael eu prynu bellach mewn pentrefi a stadau tai, gyda’r bwriad o’u gosod fel tai gwyliau.

Dywedwch ychydig am y stori rydych chi wedi’i chreu …

Stori wedi ei gosod yn wythdegau’r ganrif ddiwethaf ydy hi. Mae’n dilyn hanes teulu cyffredin, gyda chwpwl ifanc – Dafydd a Llinos, yn gorfod byw gyda’u rhieni oherwydd na fedran nhw fforddio prynu tŷ. Mae Nain yn dweud ei bod am adael ei thŷ i Dafydd, ac mae yna obaith eu bod am gael symud yno yn fuan. Ond mae ewythr i Dafydd yn rhoi tŷ Nain ar y farchnad, ac yn ei werthu fel tŷ haf. Wrth gwrs mae Dafydd yn drist a siomedig iawn. Yn y cyfamser, mae tŷ haf arall yn cael ei losgi yn yr ardal, ac mae Dafydd o dan amheuaeth…

 

Llun clawr Ga' i Fyw Adra gan Haf Llewelyn

Beth ydych chi’n gobeithio y bydd darllenwyr yn ei gael o’r stori hon?

Dw i’n gobeithio y byddan nhw’n teimlo empathi a chydymdeimlad gyda’r holl gymeriadau. Mae bob amser ddwy ochr i bob dadl, ond dwi’n gobeithio y bydd y darllenydd yn gweld annhegwch ambell i sefyllfa. Dw i hefyd yn gobeithio y bydd y darllenydd yn mwynhau cael cipolwg i gyfnod o hanes, sydd heb fod yn rhy bell yn ôl, a sylweddoli er bod ambell beth, fel technoleg wedi newid, yn y bôn yr un teimladau a’r un ofnau a phroblemau sy’n bodoli o hyd.

Oedd unrhyw heriau arbennig wrth baratoi’r llyfr?

Cofio manylion pwysig. Mae fy nghof i’n chwarae triciau weithiau, ac er fy mod wedi byw trwy’r cyfnod, roedd yn rhaid gwneud dipyn o ymchwil i gael y ffeithiau’n gywir.

Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddechrau ysgrifennu?

Bod yn fam ac yn athrawes, a theimlo fod angen amrywiaeth eang iawn o lyfrau ar gyfer plant a phobl ifanc.

Poster Dod i Adnabod yr Awdur Haf Llewelyn

O ble ydych chi’n cael eich ysbrydoliaeth?

Mae’n amrywio. Weithiau mi fyddaf wedi dod o hyd i gymeriad o gig a gwaed, a theimlo y byddai’n gwneud testun diddorol am stori. Neu efallai mai lle arbennig wnaiff fy ysbrydoli. Dw i’n wreiddiol o Ardudwy, ac mae ei thirwedd a’i phobl bob amser yn fy annog i ysgrifennu. Mae’n ardal mor arbennig o ran hanes, tir a phobl.

Pe bai’n rhaid ichi ddisgrifio eich hun mewn tri gair yn unig, beth fyddai’r rheini?

Diamynedd, cydymdeimladol a diolchgar (ar hyn o bryd, ond mae’n amrywio o ddydd i ddydd).

Beth, yn eich barn chi, yw elfennau pwysicaf ysgrifennu da?

Adnabod eich cymeriadau’n iawn a’u gwneud yn bobl crwn. Does yr un ohonom yn dda i gyd nac yn ddrwg i gyd. Rydym oll yn gwneud dewisiadau yn ddyddiol. ac weithiau nid yw’r dewisiadau rheiny yn rhai cywir. Pobl felly yw’r cymeriadau gorau bob amser.

Pa lyfrau ysbrydolodd chi fel darllenwr ifanc?

Roeddwn i’n hoff o storiâu hanes, nofelau Rhiannon Davies Jones, R Cyril Hughes ac Ifor Wyn Williams yn arbennig. Ond pan oeddwn i’n blentyn mae’n rhaid cyfaddef mai Enid Blyton oedd fy hoff awdures – roedd hi’n gwybod yn iawn sut i fachu dychymyg plentyn.

Pa lyfr sydd ar eich bwrdd wrth ochr y gwely ar hyn o bryd?

Llyfr i oedolion ifanc – I am Thunder and I Won’t Keep Quiet, gan Muhammad Khan. Mae’n llyfr dewr a phwysig, gan amlygu bywyd merch ifanc sy’n gorfod wynebu hiliaeth a dewisiadau anodd.

  I am Thunder and I Won't Keep Quiet by Muhammad Khan    Llun clawr Barrug y Bore

Pe gallech wahodd unrhyw dri pherson am ginio, pwy fyddech chi’n ei wahodd?

Byddai’n rhaid dewis rhywun o gyfnod hanes – Hedd Wyn yn un, mi roedd o’n ŵr ifanc annwyl a direidus yn ôl y sôn. Yna efallai byddai’n braf cael cwrdd â Siwan gwraig Llywelyn Fawr, i mi gael gwybod yn iawn sut un oedd ei gŵr. Yna byddwn i’n hoffi cael cyfarfod ag Iolo Morgannwg, gan ei fod mor llawn syniadau anhygoel!

Pa brofiadau o lyfrgelloedd sydd wedi dylanwadu arnoch drwy eich bywyd?

Dw i’n credu’n gryf fod cael llyfrgelloedd ymhob rhan o’r wlad yn allweddol – mae angen llyfrgelloedd lleol ymhob man! Dw i’n defnyddio dwy lyfrgell leol – Llyfrgell Dolgellau a Llyfrgell Y Bala yn gyson – ac maen nhw’n wych. Dw i wrth fy modd gyda’r gwasanaeth archebu ar lein, ac mae’r dewis yn eang iawn – dw i bob amser yn synnu mod i’n gallu dewis unrhyw lyfr ac yn cael ei fenthyg yn rhad ac am ddim. Yn ystod y cyfnod clo, bu’r llyfrgelloedd lleol yn arbennig o dda, gan ddod a llond côl o lyfrau i fy mam yn fisol, gan nad oedd hi’n gallu mynd allan.

Dw i hefyd wedi rhoi gweithdai mewn llyfrgelloedd, ac mae yna rywbeth yn braf iawn yn y cyfnodau hynny, gan eich bod wedi eich amgylchynu

gan eiriau i ysbrydoli. Mae llyfrgelloedd yn fannau mor lliwgar a difyr y dyddiau hyn.

Llyfrgell Dolgellau

Llyfrgell Dolgellau

Oes gennych chi unrhyw awgrymiadau er mwyn annog plant a phobl ifanc i ddarllen mwy er pleser?

Mae yna gymaint o bethau eraill i gymryd sylw plant a phobl ifanc, mae’n hynod bwysig fod llyfrau yn mynd law yn llaw â thechnoleg. Ond wrth gwrs os ydych chi fel fi – does dim byd gwell nac ymlacio mewn cadair esmwyth i ddarllen llyfr, a throi’r tudalennau. Mae cael corneli bach cudd mewn llyfrgelloedd, ysgolion a chartrefi yn syniad da. Ond y peth pwysicaf oll ydy darllen i blant pan maen nhw’n fach iawn a pharhau i ddweud a darllen storiâu iddyn nhw, hyd yn oed pan maen nhw’n medru darllen eu hunain. Mae pawb yn hoffi clywed stori.

A oes gennych unrhyw gynlluniau ar gyfer teitlau pellach?

Dw i’n gweithio ar nofel wedi ei gosod yn rhannol yng nghyfnod peintio’r darlun Salem, ar hyn o bryd. Mi faswn i hefyd yn hoffi ysgrifennu mwy o lyfrau ar gyfer plant ifanc, gan fy mod yn nain i dri bach erbyn hyn.

Fe gyhoeddwyd Ga i Fyw Adra 31ain o Fawrth gan Wasg Carreg Gwalch.

Darllenwch ein Taflen Dod i Adnabod yr Awdur sy’n cyflwyno’r awdur a’i llyfr newydd. Darllenwch hefyd am ein Hawdur y Mis yn ‘sgwennu’n Saesneg

 

Cookie Settings