Ifan Morgan Jones

Ifan Morgan Jones yw arweinydd y cwrs Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Bangor. Enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn a Gwobr Barn y Bobol 2020 am ei nofel Babel, Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008 am ei nofel Igam Ogam, a chafodd ei nofelau eraill, Yr Argraff Gyntaf (2010) a Dadeni (2017), ganmoliaeth uchel. Bu’n olygydd ar wefannau newyddion Nation.Cymru a Golwg360.

Mae ei nofel newydd Brodorion yn lyfr gyffrous am rym, dial a chwant a fydd yn mynd â’r darllenydd ar daith gyffrous wrth chwilio am Gymru newydd. Cawsom y siawns i holi Ifan yn ddiweddar am yr ysbrydoliaeth y tu ol i’w lyfr diweddaraf …

Beth wnaeth eich ysbrydoli i ysgrifennu Brodorion?

Mae’n nofel am bobol ar ynys felly fe fyddai rhywun yn meddwl efallai y byddai’r profiad o hunan-ynysu yn ystod y pandemig wedi bod yn ddylanwad arni. Ac efallai fod hynny’n wir gan fy mod i wedi dechrau ei hysgrifennu hi reit ar ddechrau’r pandemig a’i gorffen yn ystod yr ail don. Ond fe ges i’r syniad sylfaenol ar gyfer y nofel hon amser hir yn ôl pan oeddwn i’n astudio cwrs MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor yn 2006, a dw i ddim yn cofio bellach o le y daeth y syniad! Rwy’n credu bod digwyddiadau’r flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys ymgyrch Black Lives Matter, wedi bod yn ddylanwad ar y nofel hefyd o ran y themâu yn ymwneud â gwladychiaeth a faint o hawl sydd gan unrhyw un i feddiannu darn o dir, hyd yn oed os oedden nhw’n meddwl bod neb yn ei ddefnyddio ar y pryd. Roedd y pynciau hynny i gyd yn bethau roeddwn i’n meddwl amdanyn nhw wrth fynd ati i greu. 

Clawr llyfr Brodorion

Dywedwch ychydig am y stori rydych chi wedi’i chreu …

Mae gan y nofel sawl tro ynddi felly dydw i ddim am ddweud gormod rhag ofn i mi sbwylio’r stori! Yn y bôn, mae pedwar o bobol ifanc yn mynd i ynys drofannol, wedi eu denu yno gan berson arall sydd wedi addo gwyliau braf yn yr haul iddyn nhw. Am mai nofel yw hon efallai na fydden i’n datgelu gormod petawn i’n awgrymu bod pethau yn mynd o chwith, nad yw’r cymeriadau yn bod yn gwbwl onest gyda’i gilydd o’r dechrau, nad yw’r ynys yr hyn y mae hi’n ymddangos, fod yna siarcod danheddog, cyfrinachau poenus, carwriaethau cudd, meddwi, dial a damweiniau angheuol! Ac, wrth gwrs, brodorion.

Beth ydych chi’n gobeithio y bydd darllenwyr yn ei gael o’r stori hon?

Y pleser o ddarllen nofel antur, yn bennaf. Mae yna themâu dyfnach os yw’r darllenydd yn dymuno plymio i lawr ac edrych o dan yr wyneb. Ond, o safbwynt arwynebol, fy ngobaith oedd creu chwip o nofel ddarllenadwy mewn lleoliad egsotig gyda digon o antur, hiwmor, digwyddiadau annisgwyl, trais, rhyw a hwyl.

Poster am Awdur Ifan Morgan Jones

Pa wybodaeth arbenigol neu ymchwil oedd eu hangen i ysgrifennu’r llyfr hwn?

Roedd fy nofel ddiwethaf, Babel, wedi ei lleoli yn 19eg y ganrif ddiwethaf ac felly roedd hi’n ffrwyth llawer iawn o ymchwil academaidd. Roeddwn i eisiau ysgrifennu nofel ychydig yn wahanol y tro yma gyda rhagor o bwyslais ar stori a digwyddiadau. Serch hynny mi wnes i ddarllen sawl llyfr a phapur yn ymwneud â rhai o themâu’r nofel – yn enwedig gwladychiaeth, ac yn benodol agweddau gwladychwyr a’r ffordd roedden nhw’n cyfiawnhau eu gweithredoedd, a hefyd natur mytholeg a’r modd y mae rhai straeon a defodau creiddiol yn gweu ein diwylliannau ni i gyd at ei gilydd. Mae gen i ddiddordeb mawr yn y modd y mae rhai mathau o straeon fel pe baen nhw’n siarad gyda ni ar lefel isymwybodol bron. Mae ffrwyth yr ymchwil hwnnw i’w weld yn themâu y nofel hon ond hefyd yn strwythur a digwyddiadau’r nofel hefyd.

Beth wnaeth i chi ddechrau ysgrifennu?

Rydw i’n hoffi creu pethau. O oed ifanc ro’n i’n trio creu gêmau cyfrifiadurol ar ddarnau o bapur. Roedd fy nhad i’n hoff iawn o roi ceir at ei gilydd, mae fy mrawd mawr i’n hoffi rhoi cyfrifiaduron at ei gilydd, ac mae gen i hoffter mawr o roi straeon a bydoedd at ei gilydd. Os ydw i’n gallu cael rhywfaint o lonydd i eistedd o flaen bysellfwrdd am ychydig oriau mi ydw i’n gallu ymgolli’n llwyr mewn byd arall ac, weithiau, anghofio am y byd go iawn e.e. mae yna olygfa ro’n i’n ei hysgrifennu yn y nofel yma sydd ynghanol storm ac ar ôl gorffen yr olygfa mi’r oedd rhaid i mi fynd i nôl y plant o rywle ac mi es i allan yn fy nghot cyn cofio ei bod hi’n ddiwrnod braf ac nad oedd storm go iawn!

Pa lyfrau ysbrydolodd chi fel darllenwr ifanc?

Mi’r oedd llyfrau ffantasi yn ddylanwad mawr. Mi’r oedd gen i ddau frawd ond hefyd tri chefnder yn byw gerllaw ac mi’r oedden ni i gyd yn mynd ar wyliau gyda’n gilydd a darllen llyfrau ffantasi a gwyddonias. Dw i’n meddwl mod i wedi darllen tua 25 llyfr Discworld Terry Practchett. Roedd Lord of the Rings yn ddylanwad mawr arall. Dw i’n credu mai darllen Seren Wen ar Gefndir Gwyn gan Robin Llywelyn wnaeth ddal fy niddordeb mewn ysgrifennu yn Gymraeg. Rydw i’n darllen llawer mwy o lyfrau sydd ddim yn ffantasi erbyn hyn ond ffantasi wnaeth ddal fy niddordeb mewn darllen yn y lle cyntaf.

Clawr Llyfr Lord of the Rings    Clawr Llyfr Seren Wen ar Gefndir Gwyn

Pe gallech ddewis fod yn gymeriad o lyfr am ddiwrnod, pwy fyddai hwnnw a pham?

Mae hwn yn gwestiwn anodd iawn achos mewn unrhyw nofel dda mae’r cymeriad yn mynd drwy’r felin go iawn ac yn cael ei orfodi neu ei gorfodi i newid fel cymeriad. Dw i’n credu y byddai’n rhaid i fi gael dewis y diwrnod yn reit ofalus yn ogystal â’r cymeriad. Efallai un o’r gwestai yn un o bartïon The Great Gatsby am fy mod i wrth fy modd â’r cyfnod. Neu gael bod yn gymeriad am ddiwrnod er mwyn atal rhywbeth ofnadwy rhag digwydd, fel Antoinette yn Wide Sargasso Sea ar ddiwrnod ei phriodas er mwyn cael dweud, ‘na, dydw i ddim eisiau priodi Mr Rochester a mynd i fyw fel dynes honedig-wallgo yn ei atig, diolch yn fawr’.

Pa gymeriad yn eich llyfrau ydych chi’n lleiaf tebygol o ddod ymlaen gyda hi/ef?

Mae yna rywbeth ohona i ynddyn nhw i gyd – hyd yn oed y bobol ddrwg. Dw i’n credu bod angen rhywfaint o wirionedd yn nadleuon y bobol ddrwg hefyd, fel eu bod nhw’n temtio’r darllenydd i’r ochr dywyll. Wedi’r cwbwl, mae hyd yn oed pobol ddrwg yn credu eu bod nhw’n gwneud y peth iawn. Dw i’n gobeithio nad ydi’r un o fy nghymeriadau yn ddrwg i gyd. Hoffwn i ddim treulio unrhyw amser yng nghwmni Efnisien o’r nofel Dadeni serch hynny. Mae e braidd yn seicopathig. Os oedd gan y cymeriad hwnnw rinweddau doedd ddim modd iddo eu mynegi am nad oedd ganddo dafod.

Pa brofiadau o lyfrgelloedd sydd wedi dylanwadu arnoch drwy eich bywyd?

Mae gan Brifysgol Bangor un o’r llyfrgelloedd gorau yn y wlad, os nad y byd, yn fy marn i – mae’n brydferth ond yn ddigon bach i fod yn gartrefol a chysurus hefyd. Os ydw i eisiau i’r awen lifo rydw i’n mynd yno yng nghwmni fy ngliniadur ac yn eistedd wrth y silffoedd sy’n llawn o nofelau Cymraeg. Dyw’r awen erioed wedi pallu llifo yno – efallai ei bod yn diferu o’r llyfrau o ’nghwmpas i.

Pa neges sydd gennych i ysbrydoli ysgrifenwyr ifanc?

Mae darllen yn ofnadwy o bwysig. Mae’r ymennydd yn gyhyr ac mae’n rhaid ei hyfforddi wrth ddarllen, ac wedyn defnyddio’r cyhyr hwnnw er mwyn ysgrifennu. Ond hefyd, ysgrifennwch beth sydd o ddiddordeb i chi. Dw i’n teimlo bod yna rywfaint o bwysau yn y Gymraeg weithiau i ysgrifennu math penodol o beth er mwyn cael cydnabyddiaeth. Ond anghofiwch am y gydnabyddiaeth – does dim cydnabyddiaeth sydd werth y llafur caled o ysgrifennu llyfr, os nad ydych chi’n mwynhau ei ysgrifennu. Ysgrifennwch beth ydych chi’n mwynhau ei ysgrifennu, er mwyn mwynhau gwneud, ac os ydy rywun arall yn mwynhau hefyd ac mae yna gydnabyddiaeth, yna grêt. Dwn i ddim a yw’n neges arbennig o ysbrydoledig, ond dyna ni!

Cyhoeddir Brodorion ar 16eg o Orffennaf gan Lolfa.

Am ragor o wybodaeth, darllenwch ein Taflen Dod i Adnabod yr Awdur i sy’n cyflwyno Ifan a Brodorion! Darllenwch hefyd am ein Hawdur y Mis yn ‘sgwennu’n Saesneg

 

Cookie Settings