John Alwyn Griffiths

Mae’r awdur John Alwyn Griffiths yn mynd o nerth i nerth wrth iddo gyhoeddi ei nawfed nofel dditectif mewn naw mlynedd, yn dilyn ei hunangofiant Pleserau’r Plismon

Yn enedigol o Fangor, bu John yn heddwas drwy ei yrfa gan weithio ledled gogledd Cymru cyn ymddeol yn 1998 o fod yn bennaeth Adran Dwyll Heddlu Gogledd Cymru. Treuliodd gyfnodau yn gweithio mewn nifer o drefi: Pwllheli, Llangefni, Caergybi, Conwy a Dolgellau yn eu plith, a chyfuniad o’r trefi hynny yw Glan Morfa, y dref ddychmygol sy’n gartref i’r ditectif Jeff Evans.

Medd John, ‘Dyma fy negfed llyfr mewn deng mlynedd – y nawfed nofel sy’n dilyn hynt a helynt y Ditectif Jeff Evans. Dwi’n falch fod darllenwyr nofelau ditectif Cymraeg wedi cymryd ato cystal. Mae’r cymeriad wedi ei seilio, erbyn hyn, ar nifer o dditectifs ro’n i’n cydweithio â nhw dros y blynyddoedd ‒ gan ddefnyddio cryn dipyn o ddychymyg ychwanegol, wrth gwrs! Wnes i erioed ddychmygu bod y fath bleser i’w gael trwy ysgrifennu storïau sydd, yn ôl pob golwg, yn dod a gymaint o ddifyrrwch i eraill.’

Un peth sy’n nodedig am lyfrau John yw eu bod teitl pob un ohonynt yn dechrau efo’r gair ‘Dan’. Ond er bod eu teitlau’n gyson, does dim yn debyg am y plotiau, sydd i gyd yn gwbl wahanol ac yn amrywio o gynllwyn i osod ffrwydron mewn pwerdy niwclear i lofruddiaethau cyfresol. Y tro hwn, mae’r nofel yn neidio o is-fyd troseddol Birmingham yn y 1980au i barciau gwyliau gogledd Cymru yn 2020. Fel yr eglura John, ‘Mae’n syndod sut, dro ar ôl tro, mae syniadau’n llifo i ’mhen i wrth ddychmygu plot y nofel nesaf. Dwi’n digwydd bod yn adnabod un person a fu trwy’r broses o roi tystiolaeth yn erbyn troseddwr cas a bygythiol, ac yna gorfod cuddio, a newid ei hunaniaeth am weddill ei hoes. Dyna oedd fy ysbrydoliaeth i ysgrifennu Dan Fygythiad. Am resymau amlwg, tydw i ddim am ymhelaethu!

Atebodd John Alwyn rhai cwestiynau inni’n ddiweddar …

Llun clawr Dan Fygythiad

Beth wnaeth eich ysbrydoli i ysgrifennu Dan Fygythiad?

Hwn yw fy nawfed nofel mewn naw mlynedd – i gyd mewn cyfres sy’n dilyn anturiau’r Ditectif Jeff Evans mewn tref ddychmygol yng Ngogledd Cymru o’r enw Glan Morfa. Yr ysbrydoliaeth fwyaf i ysgrifennu’r nofel hon oedd ychwanegu at y gyfres sydd erbyn hyn yn boblogaidd â darllenwyr trwy Gymru.

Dywedwch ychydig am y llyfr …

Yn y llyfr yma, roeddwn eisiau newid dipyn ar y drefn. Yn y gorffennol mae fy nofelau wedi dilyn ymchwiliadau Jeff Evans bob cam, a’r stori yn datblygu yn ôl ei ymholiadau o. Ond y tro yma mae yna ddwy stori, ymchwil i lofruddiaeth sy’n digwydd yn y presennol, a hanes sy’n mynd yn ôl i 1966, am ferch sydd wedi’i geni i deulu trafferthus a chael ei llusgo i fywyd o drais, cyn darganfod hapusrwydd. Mae’r ddwy stori yn plethu ac yn cyfuno tuag at ddiwedd y llyfr.

Poster efo gwybodaeth am Awdur y Mis John Alwyn

Beth ydych chi’n gobeithio y bydd darllenwyr yn ei gael o’r stori hon?

Yn fwy na dim, rwy’n gobeithio dod â phleser i’r darllenwyr ac iddynt droi’r tudalennau yn gyflym. A thrwy’r stori cael dipyn o fewnwelediad i fydau treisiol, dyw troseddau arfog difrifol yng nghanol Lloegr, cynnal raced ddiogelwch a delio mewn cyffuriau yng nghefn gwlad Cymru byth ymhell! Mae’r llyfr yn cymharu hyn â bywyd teuluol cariadus a all gael ei chwalu’n ulw mewn eiliad heblaw bod y cariad yn gryfach na’r drwg.

Pa wybodaeth arbenigol neu ymchwil oedd ei hangen i ysgrifennu’r llyfr hwn?

Nid oedd angen llawer o ymchwil i ysgrifennu’r llyfr yma. Dim gymaint â rhai o’r nofelau blaenorol. Bu i mi ddibynnu ar fy mhrofiadau mewn gyrfa o 33 blynedd fel ditectif yn Heddlu Gogledd Cymru. Er hynny ymchwiliais i nifer o fân bethau fel carchardai Prydain, ardaloedd Birmingham, manylion cychod moethus ac yn y blaen. Wedi dweud hynny, mae ymchwil yn bwysig ac yn ddiddorol, a’r dyddiau yma nid oes rhaid symud oddi wrth y cyfrifiadur er mwyn darganfod unrhyw wybodaeth.

Beth wnaeth i chi ddechrau ysgrifennu?

Bod yn hoff o gymeriadau a dweud hanesion, a defnyddio geiriau yn syml i greu darlun cymhleth.

Llun Clawr The Sentinel

Pa lyfrau ysbrydolodd chi fel darllenwr ifanc?

Dim llawer i fod yn berffaith onest. Ychydig iawn o ddarllen wnes i tra oeddwn i’n ifanc a wedyn wrth ddilyn fy ngyrfa. Os rywbeth, roeddwn yn tueddu i ddarllen nofelau Saesneg nes i mi ddechrau ysgrifennu yn y Gymraeg ddeng mlynedd yn ôl. Ers hynny rwyf wedi darllen amryw o nofelau Cymraeg gan nifer o awduron poblogaidd.

Pe gallech ddewis fod yn gymeriad o lyfr am ddiwrnod, pwy fyddai hwnnw a pham?

Mynd yn ôl at y Saesneg eto, Jack Reacher o lyfrau Lee Child. Rhywun medrus a chaled sy’n darganfod y gwir un ffordd neu’r llall. Tebyg iawn i’r Ditectif Jeff Evans, er bod yna ochr feddal i’w gymeriad o hefyd.

Pa gymeriad yn eich llyfrau ydych chi’n lleiaf tebygol o ddod ymlaen gyda hi/ef?

Lleidr arfog brwnt sy’n dwyn o fanciau gan ddefnyddio gwn ac yn bygwth pawb a ellir ei rwystro.

Pa neges sydd gennych i ysbrydoli ysgrifenwyr ifanc?

Mae gan bawb stori i’w dweud ‒ deudwch hi. Dechreuwch ar unwaith. Defnyddiwch gyfrifiadur fel ei bod hi’n syml i newid y cynnwys. Gwnewch gynllun ac ychwanegwch ato fel mae’r syniadau yn dod i’ch pen chi. Gweithiwch yn ofalus ar y cynllun. Hwn yw’r darn pwysicaf o’r llyfr. Cariwch bapur a phensil efo chi bob amser, neu beiriant recordio os yn bosib. Gwnewch nodyn o syniadau newydd ar unwaith oherwydd buan y gwnânt ddiflannu. Peidiwch â disgwyl i’r syniadau eich taro chi ‒ eisteddwch o flaen sgrin wag y cyfrifiadur os oes rhaid a dechrau ysgrifennu. Buan ddaw’r deunydd. Defnyddiwch bethau sy’n digwydd o’ch amgylch bob dydd yn y papurau newydd, newyddion y dydd, digwyddiadau yn eich dinas, tref neu bentref, neu’ch cartref.

Cafodd Dan Fygythiad ei gyhoeddi ym mis Tachwedd gan Wasg Carreg Gwalch.

Am ragor o wybodaeth, darllenwch ein Taflen Dod i Adnabod yr Awdur sy’n cyflwyno John a Dan Fygythiad. Darllenwch hefyd am ein Hawdur y Mis yn ‘sgwennu’n Saesneg.

 

Cookie Settings