John Roberts

Magwyd John Roberts ar fferm Llawr-y-dref ger Llangïan ym Mhen Llŷn. Bu’n weinidog am ddeuddeg mlynedd yn Nyffryn Ceiriog, cyn mynd yn gynhyrchydd rhaglenni crefydd ac yna yn is-olygydd BBC Radio Cymru. Mae’n gyflwynydd y rhaglen Bwrw Golwg ers deg mlynedd ar hugain. Bellach mae wedi gadael y BBC ac yn gyfarwyddwr cwmni cynhyrchu annibynnol Tonnau Cyf.

Ef yw awdur y nofel seicolegol gyfoes Gabriela (Y Lolfa), ac ym mis Tachwedd 2021 fe gyhoeddodd Yn Fyw yn y Cof (Y Lolfa). Dyma ni’n holi John am ei lyfr newydd a’i ddylanwadau …

Beth wnaeth eich ysbrydoli i ysgrifennu Yn Fyw yn y Cof?

Pwy a ŵyr o ble y daw syniad? Ond roeddwn i ar un adeg yn byw mewn bwthyn digon tebyg i Tyddyn Bach sydd yn y nofel – efallai fod hynny wedi dylanwadu. Ond mae yna emyn sydd wedi creu penbleth i mi erioed. Mae addasiad Elfed o ‘Nefol Dad mae eto’n nosi’ yn cloi drwy ddweud wedi maddau ac anghofio anwireddau f’oes i gyd’ ond nid rhywbeth ry’ch chi’n ei wneud yn fwriadol ydi anghofio – mae’r cof yn fwy mympwyol na hynny a stori am y cof ydi hon yn y diwedd, stori am anghofio a methu anghofio.

Dywedwch ychydig am y stori rydych chi wedi’i chreu …

Mae Yn fyw yn y Cof yn stori dair cenhedlaeth – Anti Glad, Iorwerth a Bethan a chymeriadau eraill. Ceir cip olwg ar sut y bu digwyddiadau yn yr Ail Ryfel Byd yn ddylanwad mawr ar fywyd Anti Glad, sut y penderfynodd Iorwerth adael ei swydd fel athro ar ôl etifeddu Tyddyn Bach ynghyd â golwg ar fywyd Bethan a’i phriod Greta a’u bywyd yng Nghaerdydd. Cawn olwg ar gymunedau gwahanol gyfnodau, cawn rannu llawenydd a dagrau, rhannu mwynhad trysori’r cof a phoen colli cof, ond fe welwn hefyd surni methu anghofio. 

Llun clawr Yn Fyw yn y Cof

Beth ydych chi’n gobeithio y bydd darllenwyr yn ei gael o’r stori hon?

Gobeithio y byddan nhw yn mwynhau cwmni’r cymeriadau, mae ’na bethau i’w caru ynddyn nhw a phethau i’w casáu, pobl ydyn nhw yn fy meddwl i. Gobeithio y byddant yn gallu uniaethu gydag ambell sefyllfa, rhai yn llawn llawenydd, eraill yn ingol o drist, rhai yn felys atgofus, eraill yn herio’n ffordd o feddwl.

Beth oedd yr heriau allweddol y gwnaethoch chi eu hwynebu wrth ysgrifennu Yn Fyw yn y Cof?

Amser. Mae gweithio a cheisio gwasgu amser i ysgrifennu yn dasg anodd.

Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddechrau ysgrifennu?

Athrawon fel Gruffydd Parry ac Emyr Pritchard yn Ysgol Botwnnog a’r awyrgylch adref ac yn y Capel. Roedd ’na gwmni drama, parti cyd-adrodd neu griw sgetsh yn ymarfer yn yr ystafell ffrynt o hyd – roedd y cwbl yn cyfrannu.  

O ble ydych chi’n cael eich ysbrydoliaeth?

Does wybod! Cyfarfod rhywun, ffordd rhywun o siarad, symudiad corff, atgof – rydw i wrth fy modd yn eistedd mewn lle bwyta yn dychmygu stori’r bobl wrth y byrddau gerllaw, mae hi’n gêm ddifyr.

Poster Dod i adnabod Awdur John Roberts

Oes gennych chi hoff gymeriad rydych chi wedi’i greu, a beth sy’n eu gwneud mor arbennig?

Fy hoff gymeriad ydi’r un yr ydw i’n geisio dod i’w adnabod y funud honno, mae’r cymeriad hwnnw yn dod gyda fi i bob man a rydw i’n ceisio dychmygu eu hymateb i’r hyn sydd yn digwydd o nghwmpas i. Ond rydw i yn arbennig o hoff o Gabriela sef prif gymeriad fy nofel gyntaf, byddai yn gwmni difyr wrth bryd bwyd er na allwn ymddiried ynddi am eiliad, mae hi’n fyrlymus ac yn beryglus. Ond mae Anti Glad a Greta o Yn fyw yn y Cof yn rhai y byddwn wrth fy modd yn cael swper efo nhw hefyd. Wyddoch chi be… mae hwn yn gwestiwn annheg!

Beth, yn eich barn chi, yw elfennau pwysicaf ysgrifennu da?

Cymeriadau byw amlochrog, maen nhw yn gallu adrodd eu stori eu hunain wedyn.

Pa lyfrau ysbrydolodd chi fel darllenwr ifanc?

Luned Bengoch ac yn ddiweddarach ysgrifau T. H. Parry-Williams

Pa lyfr sydd ar eich bwrdd wrth ochr y gwely ar hyn o bryd?

The Magician gan Colm Toibin a Hannah-Jane gan Lleucu Roberts.

 

Hannah JaneThe Magician

 

Pa brofiadau o lyfrgelloedd sydd wedi dylanwadu arnoch drwy eich bywyd?

Llyfrgell Ysgol Botwnnog oedd fel man sgwrsio di-ddiwedd yn ystod gwersi rhydd yn y chweched.

Llyfrgell y Brifysgol ym Mangor, yr hen lyfrgell yn fan godidog i weithio ond y stacks a’u papurau newydd a’u cylchgronau yn ddifyrrwch mawr.

Bywiogrwydd Llyfrgell Wrecsam ac urddas y Llyfrgell Genedlaethol.

Llyfrgell Wrecsam

Llyfrgell Wrecsam

Oes gennych chi unrhyw awgrymiadau er mwyn annog plant a phobl ifanc i ddarllen mwy er pleser?

Un o’r peryglon yw fod oedolion yn penderfynu beth sydd yn debygol o apelio at blant a phobl ifanc, yn anorfod ceisio eu plygu i ddisgwyliadau pobl eraill yw hynny. Mae angen rhyddid i ddychymyg, mae angen mesur cyfrol oddi wrth ei hemosiwn a’i hawyrgylch yn ogystal a’i hadeiladwaith ac mae angen amrywiaeth o bynciau. Rhaid i’r broliant fod yn gywir a’r tudalennau cyntaf fod yn adlewyrchiad da o’r stori gyfan.

A oes gennych unrhyw gynlluniau ar gyfer teitlau pellach?

Mae ’na rywbeth ar y gweill bob amser, boed o ar bapur neu yn ffrwtian yn fy meddwl. Rydan ni’n nôl at chwilio am amser eto!

Fe gyhoeddwyd Yn Fyw yn y Cof ym mis Tachwedd 2021 gan Y Lolfa.

Am ragor o wybodaeth, darllenwch ein Taflen Dod i Adnabod yr Awdur i sy’n cyflwyno John ac Yn Fyw yn y Cof! Darllenwch hefyd am ein Hawdur y Mis yn ‘sgwennu’n Saesneg

 

 

Cookie Settings