Manon Steffan Ros

Mae Manon Steffan Ros yn awdures doreithiog, yn gantores, yn ddramodydd ac yn cyhoeddi colofn wythnosol yn Golwg. Enillodd Wobr Tir na n-Og 2019 am ei nofel i’r arddegau sef Fi a Joe Allen, yn ogystal â Pluen yn 2017, Trwy’r Tonnau yn 2010, Prism yn 2012, a Pobl Drws Nesa yn 2020. Mae hefyd wedi ennill y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 a Llyfr y Flwyddyn 2019, y ddwy wobr am Llyfr Glas Nebo.

Mae ei nofel newydd i’r arddegau Fi ac Aaron Ramsey yn ymwneud â Sam, sydd ag obsesiwn â phêl-droed, yn enwedig ag Aaron Ramsey. Mae Sam yn dueddol o boeni am bob dim, yn ei fywyd personol ac ar y cae, ond drwy bêl-droed, mae Sam yn ymdopi’n well gyda’i orbryder. Mae’r nofel yn dangos pwysigrwydd siarad am eich teimladau a rhannu pryderon.

Roeddem yn falch ofnadwy cael holi #degcwestiwn i Manon Steffan Ros am ei llyfr newydd yn ddiweddar …

Beth wnaeth eich ysbrydoli i ysgrifennu Fi ac Aaron Ramsey?

Dwi’n caru pêl-droed, ac yn teimlo fod ’na gymaint o straeon ynghlwm efo fo. Mae o’n ffordd o allu anghofio popeth arall, ond hefyd mae cefnogi tîm yn teimlo fel bod yn rhan o dîm. Mae Aaron Ramsey yn ysbrydoliaeth hefyd – chwaraewr penigamp, a dwi’n edmygu’r ffordd mae o’n defnyddio’i Gymraeg.

Llun clawr Fi ac Aaron Ramsey

Dywedwch ychydig am y stori …

Mae’r stori am Sam, cefnogwr pêl-droed sydd wrth ei fodd efo Aaron Ramsey. Mae o’n ysu am gael mynd i gêm, yn enwedig pan mae ei dad yn dechrau chwarae i dîm lleol ac mae’r teulu i gyd yn ymgolli mewn pêl-droed. Mae ’na sôn yma hefyd am bryder – y teimlad yna o boeni am bethau, sydd, fel arfer, ar ei waethaf yn hwyr yn y nos pan dach chi’n trio cysgu.

Beth ydych chi’n gobeithio y bydd darllenwyr yn ei gael o’r stori hon?

Stori dda sy’n bwysig, a chymeriadau sy’n teimlo’n real. Dwi wedi trio ysgrifennu nofel am bêl-droed y bydd pobol sydd ddim yn hoff o bêl-droed yn ei mwynhau! A hefyd, mae poeni yn gallu teimlo fel peth unig iawn, a gobeithio bydd y nofel yma’n dangos ei fod o’n beth cyffredin, er ei fod o’n deimlad hyll, a bod siarad am y peth yn llesol.

Poster efo gwybodaeth am Awdur y Mis Manon Steffan Ros

Pa wybodaeth arbenigol neu ymchwil oedd ei hangen i ysgrifennu’r llyfr hwn?

Mi wnes i wylio llawer iawn o bêl-droed ar YouTube! Ac mi wnes i gryn dipyn o ymchwil am gefndir a gyrfa Aaron Ramsey hefyd.

Beth wnaeth i chi ddechrau ysgrifennu?

Dwi’n caru darllen, a’r rheswm dwi’n hoff o sgwennu ydi ’mod i’n gallu sgwennu’r union stori dwi isio! Ga’ i sgwennu beth bynnag licia i, am ba bynnag bwnc, a dwi wrth fy modd yn creu cymeriadau. Dwi’n gallu dianc wrth ysgrifennu a darllen, a dwi wrth fy modd efo’r teimlad yna.

Pa lyfrau ysbrydolodd chi fel darllenwr ifanc?

Gymaint ohonyn nhw! Ro’n i wrth fy modd efo llyfrau Irma Chilton, Roald Dahl, Gwenno Hywyn a Judy Blume. Pan oeddwn i ym Mlynyddoedd 5 a 6 yn Ysgol Rhiwlas, roedd fy athrawes, Gwenno Jones, yn darllen i ni ar ddiwedd bob dydd, ac mae’r llyfrau yna wedi aros efo fi – O’r Tywyllwch gan Mair Wynn Hughes ac Iron Man gan Ted Hughes yn enwedig. Dwi’n dal i ddarllen llawer o lyfrau plant.

Llun clawr O'r Tywyllwch gan Mair Wyn Hughes    Llun clawr The Iron Man gan Ted Hughes

Pe gallech ddewis bod yn gymeriad o lyfr am ddiwrnod, pwy fyddai hwnnw a pham?

Cwestiwn anodd! Ro’n i bron â dewis Matilda o lyfr Roald Dahl, ond dwi am ddewis cymeriad Betsan o Cyfrinach Betsan Morgan gan Gwenno Hywyn. Does ganddi ddim pwerau arbennig, ond mae hi’n gweld ysbrydion, ac mae hi’n gymeriad annwyl a real iawn.

Pa gymeriad yn eich llyfrau ydych chi’n lleiaf tebygol o ddod ymlaen gyda hi/fe?

Ooo, mae ’na gymaint! Dwi wrth fy modd yn sgwennu cymeriadau drygionus. Dwi wir ddim yn licio bwlis, ac mae ’na gymeriad yn llyfrau Trwy’r Darlun a Trwy’r Tonnau sy’n gas ac yn greulon. Caryl ydi ei henw hi, a phan oeddwn i’n iau, fyddwn i byth wedi magu’r plwc i ddweud y drefn wrthi. Bellach, dwi’n meddwl y byddwn i’n sefyll i fyny drosta i fy hun!

Pa brofiadau o lyfrgelloedd sydd wedi dylanwadu arnoch chi drwy eich bywyd?

Dwi wrth fy modd yn mynd i’r llyfrgell leol pan fydda i’n ymweld ag unrhyw le! Dwi wedi treulio llawer o amser yn pori mewn llyfrgelloedd, ac am gyfnod, roeddwn i’n mynd i’r llyfrgell efo fy nghyfrifiadur glin ac yn aros yna drwy’r dydd i sgwennu fy llyfrau a defnyddio’r cysylltiad â’r we. Mae pob llyfrgell yn llawn dop efo bydoedd a straeon a hanesion – dach chi’n gallu dysgu am unrhyw beth mewn llyfrgell!

Pa neges sydd gennych i ysbrydoli ysgrifenwyr ifanc?

Peidiwch â phoeni! Mae ’na lawer o wahanol ffyrdd o sgwennu stori. Mae rhai awduron yn gwneud cynllun manwl, rhai eraill yn penderfynu be sy’n digwydd nesaf wrth iddyn nhw sgwennu. Mae sgwennu stori i fod yn hwyl, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n mwynhau. A chofiwch fod neb, gan gynnwys pobol fel fi sy’n sgwennu llyfrau, yn berffaith. Dwi’n gwneud camgymeriadau sillafu a threiglo yn aml iawn. Peidiwch â gadael i hynny’ch dal chi’n ôl!

Cyhoeddir Fi ac Aaron Ramsey gan y Lolfa ym Mehefin 2021.

Am ragor o wybodaeth, darllenwch ein Taflen Dod i Adnabod yr Awdur sy’n cyflwyno Manon a Fi ac Aaron Ramsey! Darllenwch hefyd am ein Hawdur y Mis yn ‘sgwennu’n Saesneg.

 

 

Cookie Settings