Marlyn Samuel

Hogan o Sir Fôn ydi Marlyn, yn byw ym Mhentre Berw gyda Iwan ei gwr a Bruno y cocapw. Mae’n ymchwilydd i Radio Cymru a phan nad ydi hi’n sgwennu mae hi wrth ei bodd yn mynd â Bruno am dro, ym mwynhau pilates, a chwilio’r we am wyliau!

Mae ei nofel diweddaraf, Pum Diwrnod a Phriodas, yn un gyfoes, lawn hiwmor – daw dau deulu ynghyd mewn glân briodas dramor. Yn ddiarwybod, mae cwlwm eisoes yn bodoli rhyngddynt!

Cawsom y cyfle arbennig i holi Marlyn am ei llyfr newydd yn ddiweddar …

Beth wnaeth eich ysbrydoli i ysgrifennu Pum Diwrnod a Phriodas?

Roeddwn i am greu stori bositif, feel-good. Dechreuais i sgrifennu’r nofel yn ystod y Cyfnod Clo llynedd a rhaid i mi gyfadde, roedd hi’n braf cael dianc i’r Eidal a threulio amser yng nghwmni Carys a’i theulu. Mi ges i bleser mawr yn ei sgwennu hi. Dwi’n gobeithio caiff y rhai sy’n darllen y nofel yr un pleser a mwynhad. Mae’n archwilio’r syniad: os ydi rhywbeth i fod i ddigwydd, mi ddigwyddith. Dim ots faint o amser mae’n ei gymryd – ffawd mewn geiriau eraill.

Mae’r nofel wedi ei lleoli yn haul Sorrento adeg priodas deuluol. Mae Carys, y prif gymeriad (a mam y priodfab) yn ei chanol hi, yn trio mwynhau gwyliau bach dramor, yn  chwarae ei rhan yn nhrefniadau’r briodas ac yn trio plesio Thelma, ei mam – tipyn o gamp ynddo’i hun. Ac mae yna twist ar y diwedd!

Clawr llyfr Pum Diwrnod a Phriodas

Dywedwch ychydig am y stori rydych chi wedi’i chreu…

Mae Pum Diwrnod a Phriodas yn dilyn antur Carys – pan mae ei mab ieuengaf yn penderfynu priodi yn yr Eidal, mae Carys yn edrych ymlaen at fwynhau Sorrento, ac yn goron i’r cwbl, priodas Gethin a Rebeca. Yn gwmni mae ei mab hynaf Siôn a’i deulu, a’i mam Thelma, sy’n dipyn o lond llaw!  Ond mae pawb yn cael sioc, neb fwy na  Carys,  pan mae un gwestai arbennig yn landio.

Beth ydych chi’n gobeithio y bydd darllenwyr yn ei gael o’r stori hon?

Mwynhad a phleser pur. Yn anffodus mi ydan ni’n byw mewn cyfnod eithaf dyrys rhwng pob dim – braf ydi gallu dianc i fyd dychmygol nofel – yn enwedig nofel sy’n codi’r galon fel Pum Diwrnod a Phriodas gobeithio.

Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddechrau ysgrifennu?

Y mwynȃd a’r pleser o ddarllen llyfrau fy hun. Dwi wastad efo llyfr ar ei hanner. O’n i wrth fy modd yn sgwennu storïau, hyd yn oed yn yr ysgol Gynradd, gan lenwi tudalennau ar dudalennau. Dwi’n cofio sgwennu drama fach, rhyw 9 neu 10 oed o’n i ar y pryd, am yr efeilliaid Llinos a Dafydd, a’u cyfneither Gwyneth, neu Gwyn fel roedd hi’n mynnu cael ei galw gan ei bod yn dipyn o tomboy. Mi ro’n i, yn bowld iawn, wedi dwyn y syniad wrth y cymeriad George o lyfrau Enid Blyton, The Famous Five.

Ro’n i hefyd eisiau sgwennu y math o lyfrau roeddwn i fy hun yn eu mwynhau darllen. Llyfrau mae rhywun yn eu darllen ar wyliau, ar y traeth neu ar y gwely haul.

Poster Dod i Adnabod yr Awdur Marlyn Samuel

O ble ydych chi’n cael eich ysbrydoliaeth?

O bob man. Mae’r syniadau jyst yn dod o rywle. Dwi’n meddwl efo fi fy hun – be petai hyn a hyn yn digwydd…?

Oes gennych chi hoff gymeriad rydych chi wedi’i greu? Os felly, pwy? A beth sy’n eu gwneud mor arbennig?

W, cwestiwn anodd! Dwi’n licio fy nghymeriadau i gyd er gwaethaf eu ffaeleddau a’u quirks. Ond rhaid i mi ddweud dwi’n hoff iawn o Thelma yn Pum Diwrnod a Phriodas. Ges i hwyl yn sgwennu’r cymeriad. Mae hi’n dweud pethau yn ddiflewyn-ar-dafod. Fysach chi ddim eisiau hon yn fam yng nghyfraith i chi!

Beth, yn eich barn chi, yw elfennau pwysicaf ysgrifennu da?

Stori dda sy’n cydio yn nychymyg y darllenydd ac yn dal eu diddordeb a chymeriadau difyr.

Pa lyfrau ysbrydolodd chi fel darllenwr ifanc?

Minti a Monti ar eu Gwyliau gan Gwenllian Gwyn Jones, sef hanes dwy lygoden fach.   

Stori Mops gan J Ellis Williams, llyfr am gi bach diredus o’r enw Mops o’i safbwynt o.

Llyfrau The Famous Five gan Enid Blyton. Ro’n i’n bwyta’r straeon yma ac mae’r 21 llyfr sydd yn y gyfres dal gen i yn yr atig. 

Yn yr ysgol Uwchradd dwi’n cofio cael blas mawr ar Wythnos yng Nghymru Fydd gan Islwyn Ffowc Elis, a chyfrolau Jane Edwards, fel Tyfu, a hefyd ei nofel Miriam. Mi ges i cymaint o flas ar hon i mi enwi fy merch hynaf ar ôl y nofel!

 

 

Pwy yw eich hoff awduron?

 Bethan Gwanas, Manon Steffan Ros, Mared Lewis, Jo Jo Moyes, Marian Keyes a John Boyne.

Pa lyfr sydd ar y bwrdd wrth ochr eich gwely ar hyn o bryd?

Mae ’na dri. Dwi ar ganol darllen Hela gan Aled Hughes ac yn mwynhau’n fawr, a’r ddau nesaf fyddai’n eu darllen fydd Dan Gamsyniad gan John Alwyn Griffiths a Tu Ol I’r Llennigan Eirlys Wyn Jones.

Pa brofiadau o lyfrgelloedd sydd wedi dylanwadu arnoch drwy eich bywyd?

O’n i wrth fy modd pan oedd y fan llyfrgell yn dod draw i’r ysgol pan o’n i’n blentyn yn ysgol Gynradd Llanddeusant. Hyd heddiw dwi’n cofio camu i mewn i’r fan werdd a rhyfeddu ar y silffoedd yn llawn llyfrau o bob math.  Dwi’n cofio yr arogl arbennig yn y fan, arogl llyfrau a’r cloriau wedi’u gorchuddio mewn plastig. Hefyd, roedd y van library, fel roedd yn cael ei alw, yn dod heibio tŷ Nain ym Mynydd Mechell. Roedd Nain yn ddarllenwraig frwd, llyfrau Cymraeg a Saesneg. Dwi’n cofio gweld copi llyfrgell ganddi o gyfrol Kate Roberts Yr Wylan Deg. Roeddwn innau yn cael dewis llyfrau o’r fan hefyd.

Yn ddiweddarach, roeddwn i’n arfer mynd yn aml efo fy ngenod i, Miriam a Hawys, i Lyfrgell Llangefni a hwythau wrth eu boddau yn cael mynd i gornel y plant.

Oes gennych chi unrhyw awgrymiadau er mwyn annog plant a phobl ifanc i ddarllen mwy er pleser?

Cyhoeddi mwy o lyfrau sy’n ymdrin â themau a phynciau sy’n berthnasol ac o ddiddordeb iddyn nhw. Hefyd gwahodd awduron i ymweld ag ysgolion a mudiadau i sôn ac i ddarllen eu gwaith.

A oes gennych unrhyw gynlluniau ar gyfer teitlau pellach?

Mae ’na syniadau yn rhyw fudferwi yn fy mhen. Cawn weld be ddaw!

Cyhoeddwyd Pum Diwrnod a Phriodas ym Medi gan Y Lolfa.

Am ragor o wybodaeth, darllenwch ein Taflen Dod i Adnabod yr Awdur i sy’n cyflwyno Marlyn a Pum Diwrnod a Phriodas! Darllenwch hefyd am ein Hawdur y Mis yn ‘sgwennu’n Saesneg

 

Cookie Settings