Martin Davis

Ganed Martin yn Llanrwst a’i fagu yn Stratford-upon-Avon. Astudiodd yr Wyddeleg a Hanes Cymru yn Aberystwyth ac ers 35 o flynyddoedd mae’n byw gyda’i wraig Siân yn Nhre Taliesin yng ngogledd Ceredigion ac yn gyfieithydd llawrydd. Mae wedi ysgrifennu pump o nofelau i oedolion yn cynnwys ‘Tonnau Tryweryn’ a ‘Broc Rhyfel’, ynghyd â llyfrau i blant, straeon byrion a sgriptiau radio a theledu.

Diolch yn fawr i Martin am gytuno i ateb ein ’10 cwestiwn i awduron’ yn ddiweddar …

Beth wnaeth eich ysbrydoli i ysgrifennu ‘Ysbryd Sabrina’?

Digwyddiad ar Bont y Saeson yn Amwythig oedd y sbardun. Roedd sawl elfen ohono’n debyg i olygfa agoriadol Ysbryd Sabrina – dim ond iddo ddigwydd yng ngolau dydd ar ddiwrnod heulog ym mis Mai a thwr o bobol o gwmpas, yn hytrach nag ar noson rynllyd ym mis Ionawr a bron neb o gwmpas. Hefyd, y ferch dan sylw yn y digwyddiad go iawn oedd fy chwaer-yng-nghyfraith, Chloë, nid Hayley Havard, ond mi oedd y drymiwr dirgel yno – heb ei gi!

Llun clawr Ysbryd Sabrina gan Martin Davis

 

Ers sbel ro’n i wedi bod eisiau ysgrifennu nofel wedi’i lleoli yn Amwythig, rhywle tu hwnt o ddiddorol fel safle tebycaf Pengwern erstalwm a lle mae fy ngwraig Siân a fi’n ymweld ag o yn aml. Mae’n lleoliad braf a chyfleus i gwrdd â ffrindiau a theulu o bob cwr.

Dywedwch ychydig am y stori rydych chi wedi’i chreu.

Stori am ymgais dynes ifanc i chwilio am ei brawd coll a thorri cwys iddi’i hun yn y byd sydd ohoni. Lleolir y nofel ar lannau’r afon Hafren, afon y dduwies Sabrina, lle mae adleisiau Pengwern yr oesoedd a fu a theithi ysgeler y byd cyfoes yn dod ynghyd.

Beth ydych chi’n gobeithio y bydd darllenwyr yn ei gael o’r stori hon?

Stori afaelgar sy’n cynnwys cymeriadau a digwyddiadau sydd efallai ychydig yn anarferol mewn nofelau Cymraeg.

‘Stori am berthyn a’r clymau sy’n ein cysylltu ar draws ffiniau gwlad ac amser’ – Catrin Beard

Pa wybodaeth arbenigol neu ymchwil oedd ei hangen i ysgrifennu’r llyfr hwn?

Dim cymaint â chymaint y tro hwn. Ond eto i gyd, o edrych yn ôl ar y ffeiliau ‘ymchwil’ sy gen i, galla i weld eu bod yn cynnwys testunau fel yr Hen Gerdd a Chlawdd Offa, hanes Latfia a Venezuela, tywodydd olew, teithwyr yr oes newydd ac ymfudwyr a ffoaduriaid, ymysg pethau eraill. Felly mae’n rhaid fy mod i wedi bwrw’r rhwyd yn reit eang rhwng popeth!

Poster efo gwybodaeth am Awdur y Mis Martin Davis

Beth wnaeth i chi ddechrau ysgrifennu?

A finnau’n unig blentyn o fath (roedd gen i un brawd oedd dipyn yn hŷn na fi), yn aml ro’n i’n gorfod dibynnu’n helaeth ar adnoddau fy nychymyg i ddifyrru fy hun. Ro’n i’n ifanc iawn yn dysgu darllen ac ysgrifennu ac yn fuan wedyn, cefais fod llunio fy straeon fy hun ar bapur yn rhoi cryn foddhad i mi. Caffaeliad mawr arall oedd cael dysgu cyffyrdd-deipio’n ifanc iawn gan fy nhad oedd yn ddall, a dim ond yn gallu ysgrifennu drwy ddefnyddio teipiadur. Ar ôl dysgu’r Gymraeg, dyma ganfod bod sgwennu yn yr iaith honno’n rhoi pleser aruthrol i mi felly dyma fi’n bwrw ati i lunio ychydig gerddi ar y dechrau cyn symud ymlaen at straeon byrion a nofelau a rhywfaint o sgriptio.

Pa lyfrau ysbrydolodd chi fel darllenwr ifanc?

A finnau yn fy chwedegau, mae’r gair ‘ifanc’ i fi yn cwmpasu o leiaf ddeugain mlynedd gyntaf fy mywyd ac yn sicr dwi wedi fy ysbrydoli gan ystod eang o awduron a chyfrolau ym mhob genre ac mewn sawl iaith yn ystod y cyfnod hwnnw.

Mi ges i fy magu yn Lloegr, a Saesneg oedd fy mamiaith, felly, yn blentyn, llarpio straeon Enid Blyton ac Arthur Ransome fyddwn i a chael fy ysbrydoli gan yr anturiaethau dosbarth canol diogel oedd ynddyn nhw. Dwi ddim yn amau, taswn i wedi cael magwraeth Gymraeg mai straeon T. Llew Jones fyddai wedi mynd â’m bryd!

O’m harddegau ymlaen agorodd y fflodiat lenyddol a ches i fy ysbrydoli gan awduron fel Conrad, E.M. Forster, George Eliot, Edna O’Brien, Alice Walker, John Fowles, André Gide a Gűnter Grass– y rheini sy’n dod i’r meddwl yn syth, ond roedd yna lwyth o rai eraill.  At ei gilydd, stori oedd yn gafael oedd yn ysbrydoli. Hefyd roedd cyfrolau ffeithiol (yn enwedig ym maes hanes) a chofiannau o bob math yn tanio’r dychymyg yn aml. Yn ifanc mae rhywun yn barotach o lawer i ddarllen popeth; erbyn hyn dwi’n fwy dethol o lawer!

Ar ôl rhyw 18 oed ymlaen dechreuais ddarllen yn y Gymraeg yn bennaf gydag awduron fel Wil Garn, Robin Llywelyn ac Alun Jones yn diwallu’r ysfa am ddeunydd storïol ond dwi wedi cael ysbrydoliaeth o ran crefft a thechneg drwy ddarllen pob math o ysgrifennu yn y Gymraeg yn ogystal â gwrando’n astud ar y ffordd y mae pobl yn siarad.

  Lun clawr The Color Purple  Llun clawr Seren Wen ar Gefndir Gwyn

Pa brofiadau yn eich bywyd sydd wedi dylanwadu ar eich ysgrifennu fwyaf?

Ar un wedd, y profiad o gael fy ngeni yng Nghymru, symud yn ôl i fyw yma, dod i nabod ei thirwedd a’i phobl a mabwysiadu’r Gymraeg fel fy mhrif iaith yw’r dylanwadau pennaf ar bob agwedd ar fy mywyd. Fel arall, clywed am brofiadau fy rhieni sydd wedi dylanwadu fwya arna i. Dw inna wedi byw bywyd digon digynnwrf, diolch i’r drefn, ond roedd hanes helyntion eu bywydau nhw’n lliwgar iawn o’i gymharu ac yn cynnig arlwy amrywiol a dihysbydd i awdur ar drywydd stori!

Pe gallech ddewis fod yn gymeriad o lyfr am ddiwrnod, pwy fyddai hwnnw a pham?

 Cwestiwn difyr ond dwi’n ddigon hapus yn fy nghroen fy hun, diolch!

Pa brofiadau o lyfrgelloedd sydd wedi dylanwadu arnoch drwy eich bywyd?

Bues i’n hoff o lyfrgelloedd erioed a bob amser wedi ymaelodi ag un lle bynnag dw i’n byw ac yn wir roedd fy swydd gyntaf erioed dan gochl Llyfrgell Ceredigion yn Aberystwyth yn mynegeio cyfrolau hanes lleol yn yr ystafell ymchwil.

Yn sicr, mae llyfrgelloedd cylch Aberystwyth wedi bod yn hollbwysig i mi ers symud i fyw i’r ardal 45 mlynedd yn ôl. Yn fyfyriwr yno am sbel go hir yn y 1970au ac 80au, mi dreuliais i oriau di-rif yng ngwahanol lyfrgelloedd y brifysgol ac wrth gwrs y Llyfrgell Genedlaethol, a honno’n ddi-os, ydi’r un sydd wedi gadael yr argraff ddofnaf arna i. Ei lleoliad, y trysorau a gedwir ynddi, ei Chymreictod, ei chyfrinachau, ei lle canolog yn hanes cyfoes Cymru. 

A rheswm arall am fod yn frwd dros lyfrgelloedd ydi’r ffaith oni bai bod fy ngwraig Siân wedi dod i astudio llyfrgellyddiaeth yn Aberystwyth ar ddiwedd y ganrif ddiwetha, go brin y byswn i wedi cwrdd â hi!

Y Llyfrgell Genedlaethol

Y Llyfrgell Genedlaethol

Pa neges sydd gennych i ysbrydoli ysgrifenwyr ifanc?

Byddwch yn driw i chi’ch hun. Peidiwch ag ysgrifennu dim byd er mwyn cydymffurfio â beth sy’n boblogaidd yn unig os nad dyna beth sydd yn eich calon. Mae bob amser gynulleidfa i’ch stwff chi yn rhywle a does dim modd plesio pawb.

Am ragor o wybodaeth, darllenwch ein Taflen Dod i Adnabod yr Awdur sy’n cyflwyno Martin a Ysbryd Sabrina! Darllenwch hefyd am ein Hawdur y Mis yn ‘sgwennu’n Saesneg.

 

Cookie Settings