Medi Jones-Jackson

Yn wreiddiol o Ddyffryn Conwy, symudodd Medi i Aberystwyth fel myfyriwr, gan syrthio mewn cariad â’r ardal ac â bachgen o Gaernarfon! Yn gyn-swyddog hybu darllen i Gyngor Llyfrau Cymru cafodd Medi ei hysbrydoli i ysgrifennu Genod Gwych a Merched Medrus, ei llyfr cyntaf, gan y diffyg sylw i hanes merched o Gymru. Fe wnaeth y llyfr gyrraedd rhestr fer Gwobrau Tir na n-Og 2020 a rhestr fer Llyfr y Flwyddyn (Plant ac Oedolion Ifanc). Yn fam i ddau mae gan Medi ddiddordebau eang, gan gynnwys garddio, ioga, teithio, gwylio ffilmiau a sioeau cerdd.

Yn dilyn llwyddiant ysgubol Genod Gwych a Merched Medrus a gyhoeddwyd yn 2019, mae Genod Gwych a Merched Medrus 2 yn cofnodi hanes 12 merch ysbrydoledig arall o Gymru. Ceir hanes bywyd a ffeithiau diddorol am Vulcana, Ann Pettitt, Cranogwen, Lowri Morgan, Mary Vaughan Jones, Rachel Rowlands, Margaret Haig Thomas, Annie Atkins, Mary Quant, Shirley Bassey, Lucy Thomas a Meena Upadhyaya. 

Mae’r casgliad yn amrywio o ran lleoliad daearyddol a meysydd gwahanol gan gynnwys chwaraeon, gwyddoniaeth, llên, ffasiwn a cherddoriaeth. Mae pob un wedi cyflawni campweithiau yn eu meysydd penodol. Mae gweithgareddau lliwgar, llawn hwyl ar ddiwedd y gyfrol, sy’n cynnwys posau, holiadur, chwilair a chelf. Mae’r llyfr yn addas i blant 7-11 oed. Atebodd Medi rhai cwestiynnau inni’r ddiweddar  …

Beth wnaeth eich ysbrydoli i ysgrifennu Genod Gwych a Merched Medrus 2?

Fy merch Anest, sydd bellach yn 8 oed. Dwi’n caru hanes ac roeddwn i eisiau trafod merched ysbrydoledig o Gymru efo hi. Des i i’r casgliad nad oedd llyfr ar y pryd yn trafod anturiaethau a bywydau merched o Gymru. Dyna sut daeth cyfrol cyntaf Genod Gwych a Merched Medrus i’r silffoedd llyfrau. Roedd hi’n sialens ysgrifennu fy llyfr cyntaf ond roedd y syniad yn fy mhen a dwi mor falch bod y syniad wedi ei wireddu a bod plant ar hyd a lled Cymru nawr yn mwynhau’r llyfr. 

Cover image of Genod Gwych a Merched Medrus 2

 

Dwedwch ychydig am y llyfr a beth ydych chi’n gobeithio y bydd darllenwyr yn ei gael o ddarllen y gyfrol?

Yn syml iawn mae Genod Gwych a Merched Medrus 1 + 2 yn edrych ar fywydau merched o Gymru, hanesyddol a chyfoes. Wedi dethol 12 merch o bob rhan o Gymru ac o feysydd gwahanol dwi’n adrodd eu hanes, pam dwi’n meddwl eu bod nhw’n ysbrydoledig ac yn taflu llond trol o ffeithiau lloerig i mewn hefyd fel y milltiroedd yrrodd taid Jade Jones er mwyn i Jade fynychu’r holl ymarferion taekwondo neu sawl cynnig o briodas cafodd Betsi Cadwaladr. Rhaid i chi ddarllen y llyfrau i ganfod yr atebion!

Sut ydych chi’n mynd ati i ysgrifennu llyfr?

Mae gen i ddesg fy nhaid ar y landing i fyny grisiau, dyma fy nghornel ysgrifennu i. Ar ôl swper a rhoi’r plant (Anest ac Elis) i’r gwely bydda i’n mynd yno i ddechrau ysgrifennu. Y broses gyntaf ydi’r gwaith ymchwil ar bob merch – darllen llwyth o erthyglau ar-lein ac unrhyw lyfrau wedi eu hysgrifennu amdanyn nhw. Pan mae’r gwaith ymchwil wedi ei wneud mae’r gwaith ysgrifennu yn syml. Y dasg anoddaf un ydi peidio ysgrifennu gormod, gan gofio faint o ofod sydd gen i ar dudalennau’r llyfrau – lot o waith tocio. Mae’n brofiad hynod gan fy mod i hefyd yn dysgu gymaint am y merched wrth ysgrifennu – fel Shirley Bassey yn ysu i fod yn nyrs ond roedd un broblem… roedd arni ofn gwaed!

Beth sydd yn grêt am greu dilyniant ydi eich bod chi’n medru actio ar unrhyw adborth o’r llyfr cyntaf. Does dim fawr o ffotograffau o’r merched yn y llyfr yma chwaith, y cartwns ffab gan Telor Gwyn sydd yn portreadu’r merched – ac mae o wedi dal pob merch yn wych.

Get to know the Author Poster for Medi Jones Jackson

Ydych chi’n credu ei bod hi’n bwysig i dynnu sylw at bynciau llosg mewn llyfrau?

Mae llyfrau yn rhoi gofod i ni fedru trin a thrafod pynciau anodd ac mae lle i hyn ond dwi hefyd yn meddwl bod escapism yn bwysig ac weithiau rydych chi angen darllen jyst er mwyn darllen. Dwi’n credu bod tueddiad efo llyfrau plant, a rhai Oedolion Ifanc yn enwedig, bod angen cael moeswers bwysig yn rhan o’r stori, bod angen dysgu gwers o siwrne’r cymeriadau, ac mae hwyl a diddanu’r darllenydd yn medru mynd allan drwy’r ffenest. Mae Anji gan Gareth F. Williams yn stori fer anhygoel, sy’n dangos sut i gynnwys pwnc llosg anodd tra’n cynnal cymeriadau gwych a chwip o stori.

Beth sy’n gwneud llyfr da yn eich barn chi?

Unrhyw lyfr, pwy bynnag yw’r awdur, beth bynnag yw’r testun sydd yn galluogi’r darllenydd i ddianc. Mae bywyd yn medru bod yn anodd ar adegau ond mae llyfr da wastad yn gwmni ac yn ffordd wych o ymlacio ac ymgolli. Dwi’n caru llyfrau Philippa Gregory a’r dull mae hi wedi cyfuno ymchwil a ffigyrau hanesyddol a chreu stori o’u cwmpas yn gelfydd.

‘Mae bywyd yn medru bod yn anodd ar adegau ond mae llyfr da wastad yn gwmni ac yn ffordd wych o ymlacio ac ymgolli’

Pa lyfrau ysbrydolodd chi fel darllenwr ifanc?

Roeddwn i’n caru cyfresi fel Criw Criwiau a Chyfres y Corryn pan oeddwn i’n ifanc. Mae llyfrau Gwenno Hywyn yn aros yn y cof fel Cyfrinach Betsan Morgan, sydd yn glasur o’r gyfres. Mae cofeb iddi i’w weld ym Mharc Glynllifon.

Dwi newydd ailddarllen Cariad Miss a Bechgyn yw’r gorau gan Elgan Philip Davies efo Anest, fy merch, rŵan – maen nhw’n llyfrau gwych. Un o bleserau bod yn rhiant ydi ailganfod llyfrau eich plentyndod (wel, i mi beth bynnag!)

Ben y Garddwr oedd fy hoff lyfr ac mae dal gen i fy nghopi o’r 1980au – ac mae Mary Vaughan Jones, yr awdur, yn ymddangos yn Genod Gwych a Merched Medrus 2!

Cover image of Cyfrinach Betsan Morgan    Cover image of Cariad Miss

Pwy yw eich hoff awduron?

Heb os nac oni bai To Kill a Mockingbird gan Harper Lee ydi fy hoff lyfr. Dwi’n ailddarllen y llyfr bob dwy flynedd. Mae o’n hoff lyfr i gymaint o bobl a dwi’n credu bod y ffaith ein bod ni wedi cael ein cyflwyno i’r llyfr yng nghanol ein harddegau wrth wraidd hyn. Mae hi’n stori oesol, ac mi roeddwn i eisiau galw’r mab yn Atticus ond wrthododd y gŵr! Mi gawson ni dân yn y tŷ yn haf 2020 ac mi gollon ni gymaint – rhaid oedd ailbrynu pethau hanfodol i’r tŷ megis gwlâu, dillad, ac mi wnes i brynu copi newydd o To Kill a Mockingbird.

‘Un o bleserau bod yn rhiant ydi ailganfod llyfrau eich plentyndod’


Cover image of To Kill a Mockingbird

Pa brofiadau o lyfrgelloedd sydd wedi dylanwadu arnoch drwy eich bywyd?

Mi roeddwn i mor lwcus i gael fy magwraeth yn Nyffryn Conwy ac mae llyfrgell dref wych yn Llanrwst. Roeddwn i wrth fy modd yn cael mynd yno i ddewis a dethol llyfrau ac wrth i mi fynd yn hŷn des i garu llyfrau Agatha Christie. Mae fy ystafell ymolchi yn y tŷ wedi ei dylunio fel ystafell ymolchi o’r 1930 oherwydd fy nghariad at ei llyfrau hi – hyd yn oed llun o Poirot ar y wal.

Fel rhiant roeddwn i’n caru’r sesiynau babi a stori gan Delyth yn Llyfrgell Aberystwyth – hwn oedd uchafbwynt fy wythnos i. Mae Anest, y ferch, yn caru darllen megis cyfres Harry Potter ac ar hyn o bryd mae’n darllen fy hen lyfrau Cyfres Corryn, a dwi’n mwynhau eu hailddarllen nhw hefyd.

Oes gennych chi unrhyw awgrymiadau er mwyn annog plant i ddarllen er pleser?

Gadewch i chwaeth eich plant ei harwain nhw at lyfrau – mae fy mab Elis, sydd yn 6, yn tueddu i ddarllen mwy o gomics na llyfrau, ond mae o’n eu joio nhw, a dyna beth sydd yn bwysig sef magu cariad at ddarllen, mae’n agor gymaint o ddrysau.

Cyhoeddwyd Genod Gwych a Merched Medrus 2 yng Ngorffennaf gan Y Lolfa.

Am ragor o wybodaeth, darllenwch ein Taflen Dod i Adnabod yr Awdur i sy’n cyflwyno Medi a Genod Gwych a Merched Medrus 2! Darllenwch hefyd am ein Hawdur y Mis yn ‘sgwennu’n Saesneg

 

 

 

Cookie Settings