Meilyr Siôn

Mae Meilyr Siôn yn awdur, cyflwynydd ac yn actor llawrydd sydd wedi ysgrifennu sawl nofel i blant, gan gynnwys  Hufen Afiach a gyhoeddwyd gan Atebol yn 2019. Mae eisoes wedi  cyfrannu at raglen  ‘Tic Toc’  ar BBC Radio Cymru ac wedi trosleisio cartwnau plant ar S4C. Daw Meilyr Siôn yn wreiddiol o ardal Neuadd-lwyd ger Aberaeon, ond mae bellach yn byw gyda’i deulu yn y Barri.  

Daw hen chwedl yn fyw yn ei lyfr newydd i blant Cwm y Wrach. Lleolir y nofel ger Aberaeron a dilynwn Daisy, merch 11 oed, a’i theulu ar ôl iddynt symud o’r gogledd i redeg ganolfan arddio yn yr ardal.

Dyma’r llyfr gyntaf yn y gyfres ‘Chwedlau’r Ddraig’. Mae’n stori gyffrous, llawn dirgelwch a fydd yn siwr o fachu sylw’r darllenydd! Cyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2020 gan Atebol.

Cawsom siawns i ofyn deg cwestiwn i Meilyr yn ddiweddar …

Beth wnaeth eich ysbrydoli i ysgrifennu Cwm y Wrach?

Fe ges i’n fagu ar straeon lleol, hynny yw, chwedlau a straeon arswyd ardal sir Aberteifi. Byddai mamgu neu aelodau hŷn yr ardal yn adrodd straeon am ysbrydion neu cymeriadau amheus ac roedd Mari Perllan Pityr yn un o’r cymeriadau dirgel hynny. Roedd sôn mai gwrach oedd hi a doedd dim llawer ym mhentref Pennant, Aberarth a thu hwnt yn mentro’i chroesi hi.

Llun clawr Cwm y Wrach

 

Dywedwch ychydig am y stori…

Mae’r stori’n dilyn hynt a helynt Daisy a’i theulu sydd wedi symud o’r gogledd i ddechrau busnes yn y gorllewin. Mae gan Daisy atal dweud a theimlai’n unig yn ei chartre newydd tan iddi ddod ar draws Mari. Yna mae’r teulu’n clywed fod cwmni B.Tec am ffracio ar gyfer nwy all fod yn ergyd farwol i’r busnes ac i Gwm y Wrach.

Mae angen i Daisy helpu ei theulu, trechu bwlis o’r ysgol a darganfod pwy yn union yw’r hen wraig sy’n byw yn y cwm ger ei chartref.

‘Mae’n stori gyffrous, llawn dirgelwch a fydd yn siwr o fachu sylw’r darllenydd’

Beth ydych chi’n gobeithio y bydd darllenwyr yn ei gael o’r llyfr?

Y nôd yw diddanu’r darllenwyr gydag ychydig o hwyl, tensiwn, dirgelwch ac antur. Dwi hefyd eisiau eu hatgoffa o’r chwedl, Mari Perllan Pityr, cafodd cymaint o argraff arna i pan o’n i’n blentyn. Mae ganddom ni fel cenedl stôr o straeon rhyfeddol a dwi eisiau dathlu hynny o fewn y gyfrol yma, Chwedlau’r Ddraig.

 

Meilyr Sion

 

Pa wybodaeth arbenigol neu ymchwil oedd ei hangen i ysgrifennu’r llyfr hwn?

Fe wnes i ofyn i’r brodyr Arwel a Cyril am eu gwybodaeth helaeth o’r chwedl. Fe ges i fynd ar daith o gwmpas y Cwm lle roedd Mari’n byw ynghyd a gweld olion ei bwthyn yng nghwmni Arwel. Fe wnaeth Cyril ail adrodd nifer o straeon amdani i mi a ches i fenthyg llyfr ganddo oedd yn olrhain hanes gwarchod Cymreig.

Beth wnaeth i chi ddechrau ysgrifennu?

Y chwant i ddweud storis am wn i ac i ddiddanu.

Pa lyfrau ysbrydolodd chi fel darllenwr ifanc?

Ro’n i’n ffan mawr o lyfrau T. Llew Jones, yn enwedig y rhai am Twm Sion Cati. Roedd ganddo’r gallu i fy nhywys i ganol y byd a’r cymeriadau roedd e’n eu portreadu.

Llun clawr Y Ffordd Beryglus

 

Pe gallech ddewis fod yn gymeriad o lyfr am ddiwrnod, pwy fyddai hwnnw a pham?

Pug o lyfrau ffantasi yr awdur, Raymond E. Feist. Mae ganddo’r gallu i deithio ar wib i bob cwr o’i fyd ac i wledydd eraill. 

Pa gymeriad yn eich llyfrau ydych chi’n lleiaf tebygol o ddod ymlaen gyda hi/ef?

Yr efeilliaid yng Nghwm y Wrach.

Pa brofiadau o lyfrgelloedd sydd wedi dylanwadu arnoch drwy eich bywyd?

Roedd fan o’r llyfrgell arfer galw heibio i’r ffarm pan o’n i’n blentyn. Ar ôl dewis llyfr bydden i’n addo i mam y bydden i’n darllen ac yn gorffen y llyfr ond nes i fyth dod i ben a neud hynny. Dyna pam dwi’n mynnu darllen a gorffen unrhyw lyfr dwi’n dechrau arni dyddie ‘ma. Euogrwydd o ddyddiau’r fan symudol!

Pa neges sydd gennych i ysbrydoli ysgrifenwyr ifanc?

Os oes ganddoch chi rhywbeth hoffech chi gyflawni, ewch amdani!

Am ragor o wybodaeth, darllenwch ein Taflen Dod i Adnabod yr Awdur sy’n cyflwyno Meilyr a Cwm y Wrach ! Darllenwch am ein Hawdur y Mis yn ‘sgwennu’n Saesneg.

 

Cookie Settings