Myfanwy Alexander

Magwyd Myfanwy Alexander yn Sir Drefaldwyn, ac ar ôl byw ym mhob cornel o Brydain dychwelodd i fagu chwech o ferched ger Llanfair Caereinion, Powys. Fel sgwennwr a darlledwr mae wedi cyfrannu i sawl rhaglen radio a theledu, gan gynnwys nifer o raglenni comedi a dychan. Enillodd wobr Sony am y gyfres gomedi The LL Files i Radio Wales yn 1999, a hi yw hanner tîm Cymru ar y Round Britain Quiz ar Radio 4. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf A Oes Heddwas? yn 2015, Pwnc Llosg yn 2016, Y Plygain Olaf yn 2017.

Mynd Fel Bom yw ei nofel ddiweddaraf – dyma ni’n holi Myfanwy am ei llyfr newydd…

Beth wnaeth eich ysbrydoli i ysgrifennu Mynd Fel Bom?
Yr ysbrydoliaeth fwyaf oedd tirlun a phobol Sir Drefaldwyn, ond roedd dau bwnc yn y newyddion wedi fy niddori i, sef y cynllun Prevent, sy’n gorfodi athrawon i chwilio am bobol ifanc eithafol, a’r broblem o dwyllo yn y gemau Para-Olympaidd. Roeddwn yn gwybod y byddai Daf Dafis yn poeni am Prevent a Garmon am y gemau Para-Olympaidd. Hefyd, roeddwn yn stiwardio mewn dawns CFfI ac wedi clywed dyn tân rhan-amser yn trafod rôl rheilffordd Tal-y-Llyn wrth ddelio gyda thanau mawr ar yr ucheldiroedd sych yn ystod hafau poeth.

Dywedwch ychydig am y stori rydych chi wedi’i chreu…

Yn y brif stori, mae’r Arolygydd Daf Dafis yn ceisio darganfod pwy roddodd bom ar y rheilffordd fach rhwng Llanfair Caereinion a’r Trallwng. Cyn bo hir, mae’r digwyddiad yn cael ei ddisgrifio fel brawychiaeth, felly rhaid i Daf ymdopi efo cydweithwyr newydd o MI6 a hefyd amddiffyn pobol ddieuog rhag casgliadau hiliol. Yn yr isblot gyntaf, ferch ifanc anabl sy’n ceisio hel tystiolaeth gan ddyn sy’n ‘hyfforddi’ athletwyr i’r gemau para-Olympaidd. Ydy Tallullah yn ddigon dewr i hel y dystiolaeth er iddi gael ei thrin yn greulon? ‘Achos oer’ yw’r ail isblot: cydweithiwr newydd Daf, sef DC Toscano sydd angen gwybodaeth am ddiflaniad brawd ei nain yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Hefyd, mae cysgodion Rhyfel Cartref Sierra Leone yn ymestyn hyd at Lanfair Caereinion.

Beth ydych chi’n gobeithio y bydd darllenwyr yn ei gael o’r stori hon?

I’r rhai hynny sy’ wedi dilyn bywyd cymhleth Daf Dafis, fydd siawns i ddysgu beth ddigwyddodd nesa’. Hefyd, mae’r problemau ma’ Daf yn wynebu’n peri pos i’r darllenwr – a allent ddyfalu ‘pwy wnath’ cyn yr heddlu? Dwi’n ceisio creu cymeriadau lliwgar a chyd-destyn difyr,  o garchar Strangeways i rali Ffermwyr Ifanc neu o fab perchenog siop hufen iâ’r Drenewydd i ‘heddwas cudd’ sydd wedi dysgu’r iaith ym Mhrifysgol Caergrawnt.

Pa wybodaeth arbenigol neu ymchwil oedd ei hangen i ysgrifennu’r llyfr hwn?

Ma’ ymchwil yn bwysig iawn i nofelau Daf Dafis! Dwi’n ceisio gosod stori yn y byd go iawn, felly rhaid i mi ddysgu cryn dipyn o gefndir. Un agwedd sy’n bwysig i mi, fel un sy’n byw mewn ardal sydd wedi dioddef o’r llymdra ariannol yn y gwasanaethau cyhoeddus, yw’r ffaith bod Daf yn gwneud ei orau glas efo adnoddau prin.

Beth wnaeth i chi ddechrau ysgrifennu?

Efo cymorth un o’m chwiorydd mawr, mi sgwennais lyfr gyntaf pam o’ ni’n bedair oed. Hanes draig oedd, un piws, ac mi orfodais bawb yn y teulu i’w ddarllen(!), felly dwi wedi ceisio ‘sgwennu trwy gydol fy oes. 

Ond ‘nôl yn 1999, ges i’r cyfle i greu cyfres gomedi i BBC Radio Wales, ‘The LL Files.’ Cyfres lwyddiannus ydoedd ac mi ddysgais lawer yn y cyfnod ‘na, yn enwedig sut i gyflawni briff a gorffen cyn dedlein (fel arfer!).  Wedyn yn 2015, pan ddaeth y ‘Steddfod Genedlaethol i’r ardal, ges i’r syniad am hanes y Brif Ŵyl drwy lygaid heddwas …

 

Poster efo gwybodaeth am Awdur y Mis Myfanwy Alexander

 

Pa lyfrau ysbrydolodd chi fel darllenwr ifanc?

Roedd fy nhad yn darllen llyfrau mawr inni amser gwely, yn cynnwys ‘Lord of the Rings’, o glawr i glawr! Chwedlau oedd fy hoff ddewis ac unrhywbeth efo hiwmor. Dwi dal yn meddwl bod cymeriadau fel Wil Cwac Cwac yn esiamplau perffaith o’r dull i greu llawer efo cyn lleied o eiriau.  Ond y patrwm dwi wedi dilyn, efallai, ydi ‘Wind in the Willows’, sef cyfuno cymeriadau annwyl, tirlun hardd ac anturiaethau cyffroes. 

Pa brofiadau yn eich bywyd sydd wedi dylanwadu ar eich ysgrifennu fwyaf?

Magu chwech o blant, wrth gwrs.  Ma’ nhw wedi dysgu gymaint i mi, yn enwedig sut i wrando. Ugain mlynedd yn ôl, mi ddychwelais i fyw yn fy milltir sgwâr ar ôl absenoldeb o bymtheg mlynedd. Mi welais Sir Drefaldwyn drwy lygaid ffres ac o’n i’n ysu i ‘sgwennu straeon wedi’u lleoli yno.

Pe gallech ddewis fod yn gymeriad o lyfr am ddiwrnod, pwy fyddai hwnnw a pham?

Er mod rhai o’m ffrindiau yn dweud fy mod yn debyg i Toad of Toad Hall, ac er mod gen i lwyth o barch tuag at ‘Jane Eyre’, fe fyddwn yn dewis fod yn ddyn am ddiwrnod, i ddysgu pa mor gywir ydw i efo’m cymeriadau gwryw!  A pha un? Wel, Daf Dafis, wrth gwrs.

Pa gymeriad yn eich llyfrau ydych chi’n lleiaf tebygol o ddod ymlaen gyda hi/ef?

Mae’n gas gen i snobs.  Er mai ledi go iawn oedd fy mam, efo gwaed teulu brenhinol yr Alban yn ei gwythiennau, nid wyf yn medru cyfathrebu gyda’r rhai hynny sy’n meddwl eu bod nhw’n well na phobol eraill, felly’r hoelion wyth sy’n mynd ar fy nerfau i, megis Heulwen Breeze-Evans o ‘Pwnc Llosg’ a Liz Woosnam o ‘Mynd fel Bom.’ Mae gan deulu cyn-wraig Daf dueddiad i fod yn snobs, ond ma’ nhw’n annwyl hefyd. Un o’m hoff gymeriadau yn y gyfres yw John Neuadd, sy’n mynd ar daith i ddarganfod ystyr bywyd braf, uwchben pris da am oen tew!

Pa neges sydd gennych i ysbrydoli ysgrifenwyr ifanc?

Daliwch ati. Crefft yw sgwennu: ma’ bob tudalen ‘dach chi’n sgwennu’n well na gwaith ddoe, ac ma’ gwaith ddoe yn well na gwaith echdoe.  Hefyd, gwrandewch ar straeon y bobol o’ch cwmpas. Ceisiwch feddwl am gymeriadau sy’n mynd i yrru’ch stori ac mae hi’n andros o help cael un cymeriad hoffus!

Am ragor o wybodaeth darllenwch ein Taflen Dod i Adnabod yr Awdur sy’n cyflwyno Myfanwy a’i nofel newydd. Darllenwch hefyd am ein Hawdur y Mis yn ‘sgwennu’n Saesneg.

 

Cookie Settings