Rebecca Roberts

Tachwedd 2, 2020
 

Y mis yma, bydd Rebecca Roberts yn cyhoeddi ei nofel newydd i bobl ifanc ‘Helynt’ gyda Gwasg Carreg Gwalch. Yn y nofel, rydym yn dilyn bywyd Rachel Ross, goth ifanc o’r Rhyl sydd â thalent am greu trafferth! Penderfyna Rachel fynd ar antur yn nhre’r Rhyl yn hytrach na mynd adref, a drwy gyfarfod Shane, dyn golygus, llawn dirgelwch, mae hi’n darganfod cyfrinachau allai chwalu ei theulu.

Ers yn ifanc roedd Rebecca wrth ei bodd yn dyfeisio straeon ac yn creu cymeriadau, ac erbyn iddi gyrraedd Ysgol Uwchradd Glan Clwyd roedd hi’n benderfynol o ddilyn trywydd nofelydd. 

Wedi iddi gwblhau gradd Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor, aeth i weithio fel athrawes, swyddog datblygu’r Gymraeg, gweinyddydd a chyfieithydd, a thrwy’r cyfan parhaodd i ysgrifennu.

Y tro cyntaf iddi weld ei henw mewn print oedd yn 2006, fel ghostwriter ar ôl iddi ysgrifennu hunan-fywgraffiad a ddaeth yn destun rhaglen ddogfen ar BBC 1.  Cyfrannodd ysgrif i’r gyfrol O, Mam Bach (Gwasg y Bwthyn, 2017) ac mae wedi dod i’r brig sawl tro mewn cystadlaethau ysgrifennu yn Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol. Dyfarnwyd Ysgoloriaeth Emyr Feddyg iddi yn 2017 er mwyn datblygu #Helynt, nofel i bobl ifanc.

Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Mudferwi, yn 2019, a’i hail, nofel Saesneg i bobl ifanc o’r enw Eat. Sleep. Rage. Repeat. yn yr un flwyddyn. Cyhoeddir #Helynt yn Nhachwedd 2020 ac mae dilyniant i Mudferwi ar y gweill ganddi. Mae ei gwaith wedi cael ei ddarlledu ar Radio Cymru a pherfformiwyd sgript fer o’i heiddo gan gwmni cynhyrchu. 

Mae Rebecca yn byw ym Mhrestatyn gyda’i gŵr a’i dau blentyn.  

Cawsom y cyfle i ofyn ychydig o gwestiynau i Rebecca  yn ddiweddar i gael gwybod mwy am ei hysgrifennu a’i chyhoeddiad newydd ‘Helynt’ …

Beth wnaeth eich ysbrydoli i ysgrifennu’r llyfr hwn?

Yn ôl yn 2017, gwelais gystadleuaeth Ysgoloriaeth Emyr Feddyg yn rhaglen yr Eisteddfod Genedlaethol, yn gofyn am bennod agoriadol nofel. ‘Does gen i ddim byd i golli trwy gystadlu,’ meddylies i – felly dyna be wnes i. Ysgrifennais y bennod gyntaf ac amlinelliad bras iawn o’r plot. Doedd y strwythur ddim yn wych, ond teimlais gysylltiad cryf â Rachel o’r cychwyn cyntaf. Gyda phob nofel rwy’n ysgrifennu, y pwynt cychwyn neu’r ysbrydoliaeth wastad yw’r prif gymeriad – y teimlad fy mod i wedi creu rhywun sydd â rhywbeth pwysig i ddweud; cymeriad sy’n ‘fyw’ i mi, cymeriad bydd yn aros yn fy mhen ac yn gwrthod gadael heblaw fy mod i’n mynd ar antur gyda hi a chofnodi’r cyfan ar bapur.  Hyd yn oed petawn i heb ennill yr ysgoloriaeth, byddwn wedi ysgrifennu’r nofel yr un fath, gan fod Rachel wedi cydio ynof fi i’r fath raddau.

Dywedwch ychydig am y stori rydych chi wedi’i chreu.

#Helynt yw stori Rachel Ross, goth ifanc o’r Rhyl sydd â thalent am greu trafferth. Un diwrnod mae hi’n cwrdd â dyn dirgel o’r enw Shane sy’n gwybod rhywbeth am ei chefndir hi. Penderfyna Rachel ganfod beth yw’r gyfrinach mae Shane yn ei chelu, er bod ei ‘gwaith ymchwil’ yn gwneud bywyd yn anoddach iddi – mae ganddi hen ddigon ar ei phlât yn barod gan ei bod hi’n dygymod yn ddyddiol ag anabledd corfforol, bwlio yn yr ysgol, iselder ei mam a chamdriniaeth ei thad… a fydd cyfrinach Shane yn newid eu bywydau er gwell neu er gwaeth?

Beth ydych chi’n gobeithio y bydd darllenwyr yn ei gael o’r stori hon?

Er bod y stori yn delio â themâu difrifol fel camdriniaeth ddomestig, bwlio, anabledd ac iselder, rydw i’n gobeithio bydd pobl yn teimlo fod y stori yn un gadarnhaol sydd â neges am hunanhyder, hunan-barch a charu pwy wyt ti.

Pa wybodaeth arbenigol neu ymchwil oedd ei hangen i ysgrifennu’r llyfr hwn?

Rydw i’n fam i blentyn sydd ag anabledd corfforol, felly doedd dim angen i mi wneud gwaith ymchwil gan fod gen i eisoes ddealltwriaeth eithaf unigryw o’r heriau ymarferol, yr apwyntiadau meddygol, ynghyd â’r cryfder a’r agwedd gadarnhaol sydd ei hangen i fyw bywyd llawn fel mae Rachel yn llwyddo i wneud.

Hefyd, roedd angen i mi ddeall sut brofiad oedd mynd i’r carchar. Yn ffodus, mae fy mam yn ynad yr heddwch felly roedd hi’n medru rhoi disgrifiad manwl o sut brofiad ydi ymweld â charchar, canllawiau dedfrydu ac ati.

Beth wnaeth i chi ddechrau ysgrifennu?

Yn blentyn roedd gen i ddychymyg byw ac roeddwn i wrth fy modd yn ymgolli mewn llyfrau… ar un adeg byddwn i’n mynd â bag llawn llyfrau darllen i bobman!  Ges i anogaeth gan fy athrawon blwyddyn 5 a 6 yn yr ysgol gynradd – Mr Ellis a Mrs Williams – roedd eu gwersi yn llawn cyfleodd i ddyfeisio ac i fynegi ein hunain yn greadigol, i ddarllen er mwynhad ac i werthfawrogi grym geiriau. O fod yn ifanc iawn dwedodd athrawon fod gen i ‘ddawn dweud’, a wnaethon nhw fy annog i ysgrifennu’n greadigol. Gwyddwn o fod yn yr ysgol uwchradd mai nofelydd oeddwn i am fod. Astudiais Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol yn y brifysgol felly arbrofais gyda barddoni, sgriptio, straeon byr a newyddiaduriaeth, ond at nofelau ddes i’n ôl bob tro.

Meddylies i na fyddwn i’n teimlo’n awdur ‘go iawn’ nes i mi weld fy enw ar glawr llyfr. Fodd bynnag, wrth i mi ddal copi o ‘Mudferwi’ am y tro cyntaf sylweddolais fy mod i’n anghywir ynglŷn â fy nghymhelliant. Roedd cyflawni fy uchelgais yn deimlad gwych, ond nid yr uchelgais yna barodd i mi ddechrau ysgrifennu, a dydi cyhoeddi llyfr ddim wedi tawelu’r lleisiau a’r syniadau sy’n byrlymu yn fy mhen. Dechreuais ysgrifennu am fod rhyw reddf yn fy ngorfodi i dywallt fy nychymyg ar bapur, ac mae hynny’n wir hyd heddiw.

Pa lyfrau ysbrydolodd chi fel darllenwr ifanc?

 Roedd yna gymaint ohonyn nhw! Darllenais lyfrau o bob math, ond roeddwn i wrth fy modd gyda Michael Morpurgo, Enid Blyton, Roald Dahl a Jacqueline Wilson yn arbennig. Roeddwn i’n ffodus i gael athrawon oedd yn gwybod eu stwff am lyfrau i argymell pethau na fyddwn wedi dewis fel arall, a hyd yn oed i fenthyg copïau personol i mi eu darllen. Yn fy arddegau roeddwn i’n hoff iawn o’r clasuron fel The Secret Garden, The Railway Children, A Little Princess, What Katy Did, Pride and Prejudice, Jane Eyre a David Copperfield.

Pe gallech ddewis fod yn gymeriad o lyfr am ddiwrnod, pwy fyddai hwnnw a pham?

Elizabeth Bennett. Achos mae pawb yn caru Elizabeth Bennet (heblaw am Caroline Bingley).

Pa gymeriad yn eich llyfrau ydych chi’n lleiaf tebygol o ddod ymlaen gyda hi/ef?

Wrth greu cymeriadau ffiaidd neu atgas mae’n bwysig i mi fel awdur fy mod i’n medru deall sut gyrhaeddon nhw’r pwynt yna, neu fy mod i’n medru cydymdeimlo â nhw i ryw raddau. Mae Eira o #Helynt yn codi fy ngwrychyn, ond mae hi’n ifanc ac mae yna obaith iddi newid. Mae’n anoddach i mi gydymdeimlo efo Lydia o Mudferwi am ei bod hi’n mwynhau camymddwyn a brifo eraill. Ond Dad o Eat.Sleep.Rage.Repeat yw’r cymeriad gwaethaf i mi ei greu erioed. Mae o’n hollol afiach ym mhob ffordd.

Pa brofiadau o lyfrgelloedd sydd wedi dylanwadu arnoch drwy eich bywyd?

Rydw i wedi bod yn aelod o lyfrgell Prestatyn ers i mi fod yn ifanc iawn, a wnes i ymaelodi fy mhlant yn fabanod. Roedd sesiynau Amser Rhigwm yn llyfrgell Prestatyn yn bwysig iawn i ni fel teulu pan oedd y plant yn ifanc, yn enwedig pan ddioddefais o iselder ôl geni. Roedd sesiwn Stori a Chân gyda Jools yn un o uchafbwyntiau’r wythnos, ac yn gymorth mawr i mi gwrdd â mamau eraill a gwneud ffrindiau.

Llyfrgell Prestatyn

Llyfrgell Prestatyn

Pan oeddwn i’n swyddog datblygu’r Gymraeg yn Sir y Fflint a Wrecsam roedd wastad yn bleser gweithio mewn partneriaeth a llyfrgelloedd i gynnal digwyddiadau a dathliadau cymunedol; ond rhaid i mi ganmol gwasanaeth llyfrgelloedd Sir Ddinbych yn arbennig. Maen nhw’n gwneud cymaint i hyrwyddo llenyddiaeth ac i gefnogi awduron Cymreig. Byddaf yn fythol diolchgar iddynt am gefnogi fy llyfrau innau – yn llyfrgell Prestatyn cynhalies i lansiad ‘Mudferwi’, a ges i ddigwyddiad rhithwir i lansio ‘Eat.Sleep.Rage.Repeat’ ar ddechrau’r cyfnod clo.

I mi, mae llyfrgelloedd yn llefydd diogel a chartrefol. Gwelais bost ar Facebook yn dweud ‘llyfrgelloedd yw rhai o’r unig lefydd allwch fynd heb orfod gwario pres’ ac mae hynny mor wir – mae staff llyfrgelloedd yn groesawgar ac yn gyfeillgar ac yn cynnig gwasanaeth allweddol i’r gymuned. Mae llyfrgelloedd cymaint yn fwy na llefydd sy’n benthyg llyfrau. Maen nhw’n rhan bwysig o’r gymuned leol.

Pa neges sydd gennych i ysbrydoli ysgrifenwyr ifanc?

Daliwch ati! Mae angen dyfalbarhad wrth ysgrifennu. Mae’n hawdd ysgrifennu’r drafft cyntaf – yr ail ddrafft a’r trydydd yw lle mae’r gwaith caled yn dechrau! Mae llenyddiaeth yn fyd cystadleuol tu hwnt felly mae angen dyfalbarhad hefyd wrth ddelio â methiannau.

Hefyd, byddwch yn feiddgar. Rydw i’n adnabod gymaint o bobl dalentog sy’n mwynhau ysgrifennu, ond dydyn nhw ddim wedi mentro cystadlu mewn eisteddfodau nag ymgeisio am le ar gynllun mentora oherwydd diffyg hyder…  Mae diffyg hyder yn broblem aruthrol gen i hefyd, ond rydw i wedi dysgu sut i anwybyddu’r llais ofnus yn fy mhen a mynd amdani. Does gennych chi ddim byd i golli drwy roi cynnig. Mae yna lawer o gefnogaeth a chyfleoedd i awduron ar ddechrau eu gyrfaoedd, yn enwedig os ydych chi’n ysgrifennu yn Gymraeg. Gwnewch y gorau o feddu ar ddwy iaith. Manteisiwch ar ysgoloriaethau, cyrsiau yn Nhŷ Newydd a chystadlaethau, a phwy a ŵyr ble fyddech chi mewn blwyddyn?

Un peth arall i’w gofio… ‘Cyngor ydi cyngor. Gallwch ei wrthod’ .  Mae’n hawdd digalonni ar dderbyn adborth negyddol, ond does dim rhaid gwrando ar bawb. Yn eironig braidd, y person a ddwedodd hynny wrthyf fi oedd yr un person a ddwedodd ‘Na, dydw i ddim yn meddwl byddet ti’n llwyddo wrth ysgrifennu.’ Dwi’n falch i mi ei anwybyddu!

Am ragor o wybodaeth darllenwch ein taflen sy’n cyflwyno Rebecca a Helynt – gallwch ei lawrlwytho yma! Darllenwch am ein Awdur y Mis yn ‘sgwennu’n Saesneg yma