Rebecca Thomas

 

Daw Rebecca Thomas o Gaerdydd yn wreiddiol. Wedi treulio cyfnodau yn astudio a gweithio ym Mhrifysgolion Caer-grawnt a Bangor, mae bellach yn ymchwilydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Hanes, diwylliant a llenyddiaeth y Gymru ganoloesol yw ei harbenigedd. Dan Gysgod y Frenhines yw ei nofel gyntaf.

Dywed Rebecca, “Braf iawn yw cael cyhoeddi fy nofel gyntaf, Dan Gysgod y Frenhines. Wedi treulio degawd yn gweithio ar hanes y Gymru ganoloesol mae’n gyffrous mentro i gyfeiriad mwy creadigol wrth ddod â’r hanes hwn i gynulleidfaoedd newydd. Er ei bod hi’n nofel hanesyddol ganoloesol, mae hefyd yn nofel sydd yn gyfoes ei iaith a’i themâu. Dyma stori am Gymru’r gorffennol, felly, sydd heb os yn berthnasol i Gymru heddiw.

“I mi yn bersonol, cymeriadau benywaidd y nofel oedd yn bwysig. Roeddwn i wedi dychmygu llond llu o gymeriadau benywaidd amrywiol, ac am adrodd stori a roddai rôl weithredol iddynt, tra’n cydbwyso hynny gyda’r cyfyngiadau hanesyddol ar eu bywydau. Prin iawn yw’r sylw a roddir i fenywod mewn ffynonellau hanesyddol canoloesol. Wedi eu hysgrifennu gan fynachod mae’r croniclau, gyda’u diddordeb pennaf yng ngweithredoedd y brenhinoedd ac esgobion.

“Er mwyn creu darlun o fywydau menywod yn y cyfnod, mae’n rhaid i’r hanesydd ddarllen rhwng y llinellau. Gweithred o ysgrifennu’n greadigol rhwng y llinellau yw’r nofel hon, felly. Digwyddiadau hanesyddol go iawn yw’r fframwaith, ond rwy’n mynd ati i ddychmygu sut y gallai’r cymeriadau benywaidd – rhai yn ffuglennol, rhai wedi eu seilio ar ffigyrau hanesyddol – fod wedi gweithredu o fewn y fframwaith hwn.

 

Llun Clawr Dan Gysgod y Frenhines

“Rwy’n ddiolchgar iawn i’r wasg am y cyfle i gyhoeddi’r nofel hon. Mae ffuglen hanesyddol ar ei hanterth ar hyn o bryd, yn enwedig i blant ac oedolion ifanc. Fel hanesydd, mae’n galonogol iawn gweld y diddordeb hwn yn y gorffennol, ac yn yr Oesoedd Canol yn enwedig. Braint yw cael cyfrannu fy nofel fy hun i’r maes hwn, gan obeithio bydd y stori yn llwyddo i ennyn diddordeb y darllenwyr yn y Gymru ganoloesol.”

Diolch i Rebecca am ateb rhai cwestiynau inni’n ddiweddar…

Beth wnaeth eich ysbrydoli i ysgrifennu Dan Gysgod y Frenhines?

Hanes y Frenhines Æthelflaed! Hi oedd brenhines Mersia (un o deyrnasoedd y Saeson) yn y ddegfed ganrif, a heb os yn un o fenywod mwyaf pwerus Prydain yr Oesoedd Canol. Byd brenhinoedd oedd hwn – doedd menywod ddim fel arfer yn cael bod â rhyw lawer o bŵer neu ddylanwad. Ond fe lwyddodd Æthelflaed i deyrnasu yn annibynnol ac hefyd i basio’r goron i’w merch, Ælfwynn. Ro’n i’n meddwl bod ei hanes hi’n ddiddorol dros ben ac felly ro’n i am greu stori allan o’r peth.

Dywedwch ychydig am y stori rydych chi wedi’i chreu …

Stori Angharad, merch y brenin Hywel Dda, yw Dan Gysgod y Frenhines. Yn blentyn un ar ddeg mlwydd oed, mae’n cael ei hanfon o Ddyfed i Fersia, i fyw yn llys y Frenhines Æthelflaed. Yno mae’n syrthio mewn cariad gydag Ælfwynn, merch y frenhines. Rhyw ddydd, bydd Ælfwynn yn frenhines ar Fersia, ac Angharad wrth ei hochr. Ond nid pawb sy’n hapus gyda’r cynllun hyn. Mae Brenin Wessex yn cynllwynio gyda Hywel Dda i gipio coron Mersia ar gyfer ef ei hun ac mae’n rhaid i Angharad ffoi i Wynedd. Dilynwn stori Angharad wrth iddi wneud ei gorau i achub Ælfwynn a dylanwadu ar ddynion mwyaf pwerus a pheryglus Ynys Prydain. 

Beth ydych chi’n gobeithio y bydd darllenwyr yn ei gael o’r stori hon?

Rwy’n gobeithio bod y stori yn dod â’r Oesoedd Canol yn fyw i’r darllenwyr. Roedd hyn yn gyfnod cyffrous dros ben. Er bod Angharad ei hun yn gymeriad ffuglennol, mae nifer o’r cymeriadau eraill wedi eu seilio ar ffigyrau hanesyddol go iawn ac rwy’n gobeithio gallu ennyn diddordeb y darllenwyr yn eu hanes. Mae hon yn nofel sydd yn llawn cymeriadau benywaidd cryf ac amrywiol ac sydd hefyd yn gyfoes ei hiaith a’i themâu – rhywbeth bach yn wahanol i’r croniclau canoloesol sydd yn ffocysu ar fynachod, brenhinoedd, a brwydrau felly!   

Poster Dod i Adnabod yr Awdur Rebecca Thomas

Oedd unrhyw heriau arbennig wrth baratoi’r llyfr?

Cydbwyso’r elfennau hanesyddol a dychmygol! Ro’n i eisiau sicrhau bod y nofel yn cadw at yr hyn rydyn ni’n gwybod am hanes y cyfnod hwn tra’n ysgrifennu stori afaelgar a chyffrous.

Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddechrau ysgrifennu?

Ro’n i’n arfer ysgrifennu pan yn iau ac wnes i ailgydio yn y peth yn ddiweddar. Mae’n un o’r ddau beth sy’n fy helpu i edrych ar ôl fy iechyd meddwl – ysgrifennu ac ymarfer corff.

O ble ydych chi’n cael eich ysbrydoliaeth?

Rwy’n tueddu i gael syniadau am gymeriadau ac yna adeiladu stori o’u cwmpas nhw. Mae’r ffynonellau hanesyddol yn amlwg yn ysbrydoliaeth fawr… Roedd awduron yr Oesoedd Canol yn ysgrifennu storïau rhyfeddol: y Mabinogi; Sieffre o Fynwy; Gerallt Gymro…

Pe bai’n rhaid ichi ddisgrifio eich hun mewn tri gair yn unig, beth fyddai’r rheini?

Egnïol; gweithgar; nerfus.

Beth, yn eich barn chi, yw elfennau pwysicaf ysgrifennu da?

Dim gormod o ansoddeiriau (gwers gan hen athro Cymraeg yn yr ysgol!) Y cymeriadau yw’r peth pwysicaf i fi – mae’n rhaid iddyn nhw neidio o’r dudalen.

Pa lyfrau ysbrydolodd chi fel darllenwr ifanc?

Ro’n i’n darllen lot o lyfrau ffantasi pan yn ifanc. Ges i ras gyda ffrind i weld pwy allai orffen The Lord of the Rings gyntaf pan ym mlwyddyn 7. Fi’n credu mai tri diwrnod gymerodd hi…

 Pa lyfr sydd ar eich bwrdd wrth ochr y gwely ar hyn o bryd?

Pumed Gainc y Mabinogi gan Peredur Glyn, Pridd gan Llŷr Titus, Eryr Pengwern gan Rhiannon Davies Jones, a Tician Tician gan John Rowlands. Un llyfr dwi’n ei ddarllen ar y tro fel arfer, ond bydd gen i bentwr o lyfrau ‘i’w darllen’ ar y bwrdd wrth ochr y gwely.

 

    

Pe gallech wahodd unrhyw dri pherson am ginio, pwy fyddech chi’n ei wahodd?

Y Frenhines Æthelflaed; awdur(on) y Mabinogi; Sieffre o Fynwy

Pa brofiadau o lyfrgelloedd sydd wedi dylanwadu arnoch drwy eich bywyd?

Ro’n i’n arfer mynd i’r llyfrgell bob wythnos pan yn yr ysgol gynradd ac yn dewis deg llyfr i’w darllen! Rwy’n cofio’r llyfrgellydd yn fy nysgu i ddefnyddio’r catalog ar-lein ar hen gyfrifiadur tu ôl i’r ddesg – ro’n i’n archebu llyfrau trwy’r amser wedi hynny. Erbyn hyn rwy’n gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn mynd i’r llyfrgell bob dydd – fyddwn i ddim yn medru gweithio heb y llyfrgell!

Oes gennych chi unrhyw awgrymiadau er mwyn annog plant a phobl ifanc i ddarllen mwy er pleser?

Peidiwch â darllen y llyfrau chi’n meddwl dylech chi eu darllen – darllenwch y llyfrau rydych chi eisiau eu darllen ac yn eu mwynhau. Ro’n i’n ffan mawr o lyfrau Star Wars pan yn iau!

A oes gennych unrhyw gynlluniau ar gyfer teitlau pellach?

Rwy’n gweithio ar sawl nofel arall wedi eu lleoli ym myd Angharad, gyda rhai o’r un cymeriadau, gan gynnwys nofel am frawd Angharad, Edwin, a nofel am gipio brenhines Brycheiniog gan y Saeson.

Bydd Gwasg Carreg Gwalch yn cyhoeddi Dan Gysgod y Frenhines ar 28 Gorffennaf.

Darllenwch ein Taflen Dod i Adnabod yr Awdur sy’n cyflwyno’r awdur a’i llyfr newydd. 

Darllenwch hefyd am ein Hawdur y Mis yn ‘sgwennu’n Saesneg

Cookie Settings