Rhian Cadwaladr

 

A hithau newydd ddathlu ei phenblwydd yn 60, mae Rhian Cadwaladr wedi cyhoeddi tair nofel: Fi Sy’n Cael y Ci, Môr a Mynydd a Plethu. Cyhoeddodd ei chyfrol gyntaf i blant, Nain Nain Nain, yn 2019 ac ers hynny mae wedi bod yn cydweithio â’i merch ar gyfres o lyfrau Ynyr yr Ysbryd i blant bach. Cyhoeddodd gyfrol o rysetiau ac atgofion, Casa Cadwaladr, yn 2021. Pan nad yw’n ysgrifennu, mi ddewch o hyd iddi yn y gegin neu’n crwydro’r bryniau efo’i chamera.

Mi fydd ei llyfr newydd Dathlu yn cael ei gyhoeddi ddiwedd Mehefin gan Gwasg Carreg Gwalch. Yn y nofel, mae’r Ffab Ffôr ‒ Gwawr, Sioned, Linda a Iola – yn ffrindiau ers dyddiau ysgol, wedi cyd-ddathlu eu llwyddiannau ac wedi cynnal ei gilydd drwy aml storm heb erioed ffraeo ‒ yn bennaf am fod pob un yn gwybod ei lle yn y pac.

Darllenwch ein sgwrs ddiweddar gyda Rhian, a llongyfarchiadau mawr iddi…

Beth wnaeth eich ysbrydoli i ysgrifennu Dathlu?

Pan ges i’r syniad am y nofel nôl yn 2020 ro’n i ddwy flynedd i ffwrdd o fy mhenblwydd yn 60 ac ro i’n awyddus i bortreadu bywydau merched o’r oed yna – yr oed lle mae merched wedi mynd yn anweledig yn ôl y sôn – wedi gorffen magu plant ac yn dod i ddiwedd eu gyrfaoedd. Ydi bywyd felly yn haws? Neu ydi heriau newydd a’r ofn o ddirywio, yn gorfforol a meddyliol, yn gwneud bywyd yn anos? Ac ydan ni wir yn anweledig?

 

Llun clawr Dathlu gan Rhian Cadwaladr

 

Dywedwch ychydig am y stori…

Mae pedair ffrind bore oes yn benderfynol o drefnu trip arbennig i ddathlu eu penblwyddi yn 60. Ond â’u bywydau wedi dilyn trywyddau tra gwahanol tydi hynny ddim yn hawdd: mae Linda yn gofalu yn llawn amser am ei mam, Sioned yn gwarchod ei wyrion a Iola yn rhedeg caffi. Mae Gwawr, fodd bynnag, a’i thraed yn rhydd ac yn awyddus iawn i fynd i Efrog Newydd, lle bu’n byw am gyfnod yn yr wythdegau. Mae swmp y nofel yn dilyn eu hanturiaethau yno – yr hwyl a’r heriau.

Beth ydych chi’n gobeithio y bydd darllenwyr yn ei gael o’r stori hon?

Dwi’n gobeithio y bydd hi’n codi gwên ond hefyd yn gwneud i rywun feddwl ychydig. Does na ddim byd yn drwm ynddi, er ei bod yn delio efo pynciau digon dyrys. Dwi’n gobeithio y byddan nhw yn medru uniaethu efo’r cymeriadau, dim ots pa oed ydyn nhw – rydan ni’n teimlo yr un emosiynau ac yn delio efo problemau digon tebyg beth bynnag ein oed.

Oedd unrhyw heriau arbennig wrth baratoi’r llyfr?

Mae’r nofel yn cychwyn yn Chwefror 2022, flwyddyn a hanner ar ôl i mi ddechrau ei sgwennu hi. Roedd yn rhaid i mi felly ddyfalu’r dyfodol, ac roedd Covid, wrth gwrs, yn gwneud hyn yn anodd. Do’n i ddim yn gwybod os fydden ni’n medru teithio dramor hyd yn oed. Rhyddhad mawr oedd mod i wedi dyfalu yn gywir!

Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddechrau ysgrifennu?

Dwi wastad wedi licio straeon – eu gwylio, eu clywed, eu darllen. Cam naturiol felly oedd i mi eu dweud – i ddechrau fel perfformiwr ac yna fel awdur.

O ble ydych chi’n cael eich ysbrydoliaeth?

O’m bywyd fy hun a’r hyn dwi’n weld a’i glywed am wn i. Pan dwi’n cael syniad dwi’n licio mynd i gerdded yn yr ardal hyfryd dwi’n byw ynddi – yn troi y syniadau yn fy mhen – mae nhw jest yn dwad wrth i mi wneud hynna. Weithiau mi fydda i yn synnu fi fy hun ac yn gofyn – o le ddaeth hwnna?!

 Pe bai’n rhaid ichi ddisgrifio eich hun mewn tri gair yn unig, beth fyddai’r rheini?

Brwdfrydig, creadigol a phenderfynol.

Beth, yn eich barn chi, yw elfennau pwysicaf ysgrifennu da?

Stori gryf a chymeriadau mae ots ganddych chi amdanyn nhw, boed yn eu caru neu eu casau, fel bod yr awch yna i wybod beth sy’n digwydd iddyn nhw.

 

Rhian Cadwaladr Adnabod yr Awdur

 

Pa lyfrau ysbrydolodd chi fel darllenwr ifanc?

Roeddwn i’n darllen yn eang iawn pan oeddwn yn blentyn – roedd Mam yn arfer dweud fy mod i’n darllen cyn dod allan o fy nghlytia’ bron! Pan oeddwn i ychydig yn hŷn, roeddwn i’n hoff iawn o’r clasuron Saesneg i blant fel The Secret Garden, Heidi,  Little Women, What Katy Did, Pipi Longstocking, Anne of Green Gables a llyfrau Charles Dickens. T. Llew Jones oedd un o fy ffefrynau yn y Gymraeg, a T. Rowland Hughes, oedd yn dod o Lanberis – yr un pentref genedigol â fi.

Pa lyfr sydd ar eich bwrdd wrth ochr y gwely ar hyn o bryd?

Tydwi ddim yn credu mewn darllen yn y gwely – mae hynny wedi golygu gormod o nosweithiau hwyr lle dwi wedi gorfod darllen i ddiwedd llyfr i weld beth sy’n digwydd! Ar fy mwrdd coffi, fodd bynnag, mae gen i fwndel o lyfra. Dwi wedi mynd i habit drwg o ddechrau mwy nag un llyfr ar y tro! Yn y bwndel mae Castell Siwgwr gan Angharad Tomos; Mori gan Ffion Dafis, The Science of Cooking, a Mae’r Lle yma yn Iach gan Elin Tomos (fe gollais hwnnw am rai wythnosau a newydd ei ffeindio lawr ochr y soffa!)

Pe gallech wahodd unrhyw dri pherson am ginio, pwy fyddech chi’n ei wahodd?

Os gawn nhw fod yn bobl sydd wedi marw – Marged Fwyn Ferch Ifan, Charlotte Brontë a Betsi Cadwaladr. Os yn fyw – Jamie Oliver, Michael Sheen ac Alun Wyn Jones.

Pa brofiadau o lyfrgelloedd sydd wedi dylanwadu arnoch drwy eich bywyd?

Pan oeddwn i’n blentyn roeddwn yn arfer mynd i’r llyfrgell yn Llanberis yn reolaidd. Dwi’n cofio’r llyfrgell newydd yn agor efo adran fawr braf i blant. Roedd Mrs. Williams y llyfrgellydd yn reit ‘strict’,  ac roedd rhaid i blant aros yn y rhan honno o’r llyfrgell. Erbyn imi gyrraedd yr ysgol uwchradd ro’ni isio darllen llyfrau oedolion – megis rhai T. Rowland Hughes – ac mi ges i ganiatad arbennig i fynd i’r adran oedolion – a fano fues i wedyn.

 Oes gennych chi unrhyw awgrymiadau er mwyn annog plant a phobl ifanc i ddarllen mwy er pleser?

Rhwng cloriau llyfr mi gewch chi ddianc i fydoedd newydd a deall mwy am eich byd eich hun. Triwch bob math o lyfrau a pheidiwch a theimlo’n euog os nad ydach chi’n gorffen rhai – tydy ni i gyd ddim yn gwirioni yr un fath. Peidiwch a disgwyl mwynhau yr un llyfrau ac eraill.

 A oes gennych unrhyw gynlluniau ar gyfer teitlau pellach?

Dwi wrthi’n gweithio ar lyfr o atgofion a rysetiau Nadoligaidd ar y funud a hefyd trydydd llyfr yn y gyfres plant bach Ynyr yr Ysbryd. Mae gen i gwpwl o syniadau ar gyfer mwy o lyfrau plant a hefyd am nofel arall – ond dwi heb ddweud hynny wrth fy ngolygydd eto!

Darllenwch ein Taflen Dod i Adnabod yr Awdur sy’n cyflwyno’r awdur Rhian Cadwaladr a’i llyfr newydd. Darllenwch hefyd am ein Hawdur y Mis yn ‘sgwennu’n Saesneg

Cookie Settings