Sioned Wyn Roberts
Ebrill 8, 2021Yn wreiddiol o Bwllheli ond wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd, bu Sioned yn gweithio yn y maes darlledu plant ers dros ugain mlynedd. Ar hyn o bryd mae’n Gomisiynydd Cynnwys Plant yn S4C ac yn gyfrifol yn olygyddol am Cyw a Stwnsh. Cyn hynny, bu’n cynhyrchu ac uwch-gynhyrchu rhaglenni plant gyda’r BBC. Dewiswyd Sioned fel un o awduron cwrs Llenyddiaeth Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru (Tŷ Newydd, Chwefror 2019). Dyma lle datblygodd ei syniad ar gyfer y gyfres hon o lyfrau. Credai Sioned bod creu cynnwys safonol yn y Gymraeg sy’n tanio dychymyg plant ac sy’n helpu caffael iaith yn hanfodol.
Atebodd Sioned ddeg cwestiwn inni’n ddiweddar am ei nofel newydd Gwag y Nos wedi’i chyhoeddi gan Atebol.
Beth wnaeth eich ysbrydoli i ysgrifennu Gwag y Nos?
Ers talwm fe aeth fy hen hen nain a’i phump o blant i Wyrcws Pwllheli ac mae eu henwau nhw yng Nghyfrifiad 1881, felly roedd gen i ddiddordeb yn y cyfnod. Ac yna, pan ysgrifennais bwt am forwyn fach oedd yn cael ei chloi yn yr atic tra bod y teulu yn mynd i’r capel, fe dyfodd stori Magi allan o hynny. Gwag y Nos yw fy nofel gyntaf ac fe gymrodd lot o amser i bopeth ddod at ei gilydd ac i’r stori blethu’n iawn. Ond, y peth mwyaf od oedd – ar y diwedd, pan oedd y stori yn ei lle, roedd hi fel petai’r cyfan wedi bod yno erioed. A bod Magi yn dweud ‘Lle ti ‘di bod mor hir? Dwi ‘di bod yn aros amdanat ti.’
Dywedwch ychydig am y stori rydych chi wedi’i chreu.
Ers i Magi Bryn Melys symud i Wyrcws Gwag y Nos, mae hi wedi bod yn ddraenen yn ystlys Nyrs Jenat. Ond mae bod yn rebel yn beryglus, ac un bore mae pethau’n dechrau mynd o ddrwg i waeth i Magi. Mae’n amlwg bod rhywbeth mawr iawn o’i le yn y Wyrcws, pydredd sy’n treiddio i’r gymuned gyfan. Ond pwy sydd ar fai? A fydd Magi’r rebel yn llwyddo i achub ei ffrindiau a datrys cyfrinach dywyll Gwag y Nos? Antur Fictoraidd am ferch ifanc sy’n eofn ac yn ddewr a stori sy’n troelli at y diwedd.
Beth ydych chi’n gobeithio y bydd darllenwyr yn ei gael o’r stori hon?
Stori Magi ydy hon, wedi ei hadrodd ganddi hi, felly mae’r darllenydd yn cael mewnwelediad i feddyliau a theimladau merch sy’n 13 oed yn 1867. Yn y cyfnod yma roedd bywydau plant tlawd yn anodd iawn, ond mae Magi yn dipyn o rebel ac yn esiampl o ‘girl-power’ Fictoraidd. Felly gobeithio y bydd y darllenwyr yn edmygu ei dewrder hi ac yn cael eu cyffroi gan yr antur. Pwy a wyr, efallai y byddan nhw’n teimlo bod plant yn eitha tebyg, pa bynnag oes y mae nhw yn byw ynddi.
‘Mae Magi yn dipyn o rebel ac yn esiampl o ‘girl-power’ Fictoraidd …’
Pa wybodaeth arbenigol neu ymchwil oedd ei hangen i ysgrifennu’r llyfr hwn?
Mae Gwag y Nos wedi ei gosod yn 1867 felly roedd rhaid i mi wneud dipyn o ymchwil ar gyfer y nofel. Gês i lawer o wybodaeth am fywydau plant mewn tlotai ar wefannau fel workhouses.org.uk. Roedd casgliad digidol Papurau Newydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ffynhonnell wych o syniadau ac yn rhoi cip ar fywydau pobol yn y cyfnod e.e. adroddiadau yn disgrifio’r cyffro wrth i’r tren cyntaf ddod i dref Pwllheli. A syrcas Mr Hylton yn dod i’r dre. Mae’r archif digidol yma yn amhrisiadwy.
Beth wnaeth i chi ddechrau ysgrifennu?
A bod yn onest, fe ddigwyddodd ar ddamwain. Tua dwy flynedd yn ôl roedd gen i wyliau i’w cymryd o’r gwaith ac fe benderfynais i fynd ar gwrs ysgrifennu llenyddiaeth plant yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, gan feddwl y byse o help i mi yn fy ngwaith bob dydd yn y byd darlledu plant. (Rydw i’n gomisiynydd cynnwys plant a phobol ifanc yn S4C). Roedd y cwrs yn ysbrydoliaeth llwyr, gês i gymaint o hwyl yn ysgrifennu straeon a dydw i ddim wedi stopio ers hynny.
Pa lyfrau ysbrydolodd chi fel darllenwr ifanc?
Luned Bengoch gan Elizabeth Watkin-Jones a The Little White Horse gan Elizabeth Goudge. Unrhyw nofel hanesyddol. Pob math o chwedlau a straeon tylwyth teg.
Pe gallech ddewis fod yn gymeriad o lyfr am ddiwrnod, pwy fyddai hwnnw a pham?
Blodeuwedd, rwy’n hoffi blodau a thylluannod.
Pa gymeriad yn eich llyfrau ydych chi’n lleiaf tebygol o ddod ymlaen gyda hi/ef?
Mrs Rowlands yn Gwag y Nos. Mae hi yn ddauwynebog iawn. Mae Anti Gyrti yn y gyfres stori-a-llun Ffwlbart Ffred yn dipyn o jadan hefyd, ond yn reit hoffus odan y wig biws!
Pa brofiadau o lyfrgelloedd sydd wedi dylanwadu arnoch drwy eich bywyd?
Mae gen i atgof plentyn o focs mawr pren yn llawn o lyfrau llyfrgell yn cyrraedd yr ysgol a’r cyffro o gael busnesu yn hwnnw. O’n i wrth fy modd yn mynd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru pan yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth. Adeilad bendigedig ac awyrgylch sy’n ysbrydoli. Cofio’r arogl polish a llwch hen lyfrau, a’r caffi hen ffasiwn efo brechdannau caws plastig wrth gwrs!
Pa neges sydd gennych i ysbrydoli ysgrifenwyr ifanc?
Mae sgwennu yn hwyl. Jest rhowch gynnig arni. ‘Sdim ots be mae neb arall yn feddwl. Amdani!
Am ragor o wybodaeth, darllenwch ein Taflen Dod i Adnabod yr Awdur sy’n cyflwyno Sioned a Gwag y Nos! Darllenwch hefyd am ein Hawdur y Mis yn ‘sgwennu’n Saesneg.