Wyn Mason

Mae Wyn Mason yn byw yng Nghaerdydd, ond daw yn wreiddiol o Lanfarian, ger Aberystwyth. Tan yn ddiweddar roedd e’n uwch ddarlithydd drama ym Mhrifysgol De Cymru, ond erbyn hyn mae’n awdur llawn amser. Mae’n ysgrifennu dramâu llwyfan a radio yn bennaf, ac yn cyd-redeg y cwmni theatr Os Nad Nawr. Y nofel graffig Gwlad yr Asyn yw ei gyfrol gyntaf. Perfformiwyd fersiwn llwyfan ohono yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron eleni.

Nofel ydyw am asyn dof sy’n dioddef o hunanddelwedd gam. Wedi cael ei magu mewn modd gyfan gwbl ddynol, mae hi’n uniaethu’n llwyr gyda bodau dynol. Felly, er bod ganddi gorff asyn, mae ganddi feddylfryd dynol a chreda bod asynnod eraill yn greaduriaid twp ac anwaraidd! Ond, fel canlyniad i ddigwyddiadau’r stori, daw i gwestiynu ei hunaniaeth.

Diolch i Wyn am ateb ychydig o gwestiynau inni’n ddiweddar am yr ysbrydoliaeth tu ol i’r llyfr newydd…

Beth wnaeth eich ysbrydoli i ysgrifennu Gwlad yr Asyn

Un o’r prif bethau oedd creu’r cyfle i gyd-weithio â fy merch, Efa Blosse-Mason. Mae hi’n animeiddwraig ac yn ddylunydd, ac wedi bod yn darllen nofelau graffig yn gyson ers roedd hi’n blentyn – trwyddi hi des i ar draws nofelau graffig yn y lle cyntaf. Yn ddiweddar, dw i wedi bod yn canolbwyntio ar ysgrifennu dramâu llwyfan, ond ar ôl gweld fy nrama Gwlad yr Asyn yn cael ei berfformio, ces i’r syniad o’i haddasu mewn i nofel graffig. Awgrymais hyn i Efa, ac ro’n i wrth fy modd pan gytunodd hi i ddylunio’r llyfr! ‘Dyn ni wedi bod yn darlunio a chreu straeon gyda’n gilydd o’r dechrau, ac mae’n wych bod ni nawr yn medru gwneud hynny ar y cyd yn broffesiynol.

Dywedwch ychydig am y stori…

Stori am asen ifanc o’r enw Ari a chafodd ei magu mewn tŷ ar stad o dai, yn union fel petai hi’n berson. O ganlyniad, mae’n meddwl bod hi’n sbesial, yn well nag asynnod eraill. Mae ei pherchnogion newydd am iddi fod yn ddylanwad da ar asyn afreolus o’r enw Cal, a gafodd ei fagu’n wyllt ar ben mynydd. Yn gwbl gyferbynnol iddi hi, mae Cal yn ddrwgdybus o fodau dynol ac felly’n gwrthod cael ei ddofi. Dilyna’r stori hanes eu perthynas cythryblus. Pa un sy’n mynd i ddylanwadu’n fwyaf ar y llall? A fydd presenoldeb dof Ari yn trawsnewid yr asyn gwrthryfelgar, neu a fydd gwylltni Cal yn peri i Ari gwestiynu daioni ei magwraeth ddynol?

 

Clawr Gwlad yr Asyn

 

Beth ydych chi’n gobeithio y bydd darllenwyr yn ei gael o’r stori hon? 

Yn y lle cyntaf, dw i’n gobeithio bydd darllenwyr yn mwynhau profi’r byd o bersbectif asyn! Hefyd, yn ogystal â’r mwynhad hyn, hoffwn iddynt ystyried ein perthynas sylfaenol ni fel bodau dynol gyda gweddill y blaned. ‘Dyn ni wedi bod yn ecsbloetio anifeiliaid a’r byd natur yn ddi-ben-draw am ganrifoedd lawer; credaf bod yr amser wedi hen gyrraedd i ni herio a thrawsnewid ein safbwynt ecsbloetiol. Hynny yw, dysgu sut i barchu rhywogaethau eraill yn hytrach na’u gweld fel dim ond adnodd i’w defnyddio neu, yn waeth, i’w dileu’n gyfan gwbl.

Oedd unrhyw heriau arbennig wrth baratoi’r llyfr

Dyma’r tro cyntaf i Efa ac i mi greu nofel graffig, felly un o’r prif heriau oedd ymgyfarwyddo â’r ffurf. Darllenes i nifer helaeth o nofelau graffig cyn mynd ati i ysgrifennu Gwlad yr Asyn er mwyn dysgu confensiynau ac esthetig comics. Yna her arall oedd addasu sioe lwyfan (a oedd yn cynnwys caneuon ac ati) ar gyfer ei chyhoeddi fel cyfrol, a phenderfynu sut ddylai’r wahanol gymeriadau cael eu portreadu’n weledol ac ati. A hefyd roedd angen trawsnewid stori oedolion i un blant. Roedd ‘na ddigonedd o heriau!

Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddechrau ysgrifennu? 

Dechreuais ysgrifennu yn y lle cyntaf ar ôl cwblhau cwrs cyfarwyddo theatr. Yn ystod y cwrs des i sylweddoli bod gen i mwy o ddiddordeb, mewn gwirionedd, mewn ail-ysgrifennu dramâu awduron eraill na chyfarwyddo actorion! Felly daeth yn amlwg bod angen i mi ddechrau llunio dramâu fy hunan.

 

Poster Dod i Adnabod yr Awdur Wyn Mason

 

O ble ydych chi’n cael eich ysbrydoliaeth? 

Yn aml, cymeraf ysbrydoliaeth o waith awduron eraill. Er enghraifft, man cychwyn Gwlad yr Asyn oedd drama Shakespeare, The Tempest. Cymerais prif gymeriadau drama Shakespeare a’u hail-ddychmygu mewn cydestun hollol wahanol, sef y berthynas rhwng bodau dynol ac asynnod. Gwelir hôl cymeriadau Shakespeare yn enwau’r cymeriadau; daeth Prospero yn Pross, Miranda yn Mira, Ariel yn Ari a Caliban yn Cal.

Pe bai’n rhaid ichi ddisgrifio eich hun mewn tri gair yn unig, beth fyddai’r rheini? 

Chwilfrydig, creadigol, gweithgar.

Beth, yn eich barn chi, yw elfennau pwysicaf ysgrifennu da? 

O ran ffuglen, yr elfen bwysicaf i mi yw’r stori. Rhaid datblygu stori gref sy’n tywys darllenwyr ar siwrnai ddifyr: stori sy’n dal sylw’n ddi-dor o’r dudalen gyntaf i’r un olaf. A fel rhan annatod o hyn, creu cymeriadau diddorol sy’n bodoli mewn byd storïol byw.

Pa lyfrau ysbrydolodd chi fel darllenwr ifanc? 

Pan ro’n i’n blentyn, ro’n i’n hoff iawn o gyfres The Famous Five a The Secret Seven gan Enid Blyton. Yna’n hwyrach, pan ddechreuais i ddarllen nofelau Cymraeg, Y Mwg Melys gan Ifor Wyn Williams a Bob yn y Ddinasgan Siôn Eirian.

Pa lyfr sydd ar eich bwrdd wrth ochr y gwely ar hyn o bryd? 

Dw i wrthi’n darllen llyfrau Bwdïaidd ar hyn o bryd. Ac o ran ffuglen, His Dark Materials gan Philip Pullman.

Llun Clawr Northern Lights

Pe gallech wahodd unrhyw dri pherson am ginio, pwy fyddech chi’n ei wahodd? 

Caryl Churchill, Ngũgĩ wa Thiong’o a Philip Pullman: cyfle i glywed tri hen awdur yn rhoi’r byd yn ei le!

Pa brofiadau o lyfrgelloedd sydd wedi dylanwadu arnoch drwy eich bywyd? 

Ces i fy magu ar fferm, lle arferai fan lyfgell deithiol alw’n achlysurol. Hwn oedd fy mhrofiad cyntaf o lyfrgell, sef trysorfa ar bedair olwyn. A ches i fy magu ger Aberystwyth, lle ddes i i fwynhau’r cyfleustra anhygoel o gael y Llyfrgell Genedlaethol ar fy stepen drws. Ac yna’n hwyrach mewn bywyd, des i werthfawrogi llyfrgelloedd prifysgolion. Dyma un o’r rhesymau, dw i’n credu, y dewisais i ddod yn ddarlithydd. Erbyn heddiw, dw i wedi gadael dysgu, ond un o’r pethau dw i’n ei golli’n fwyaf yw cael mynediad i lyfgelloedd prifysgolion.

 

Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth

Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth

 

Oes gennych chi unrhyw awgrymiadau er mwyn annog plant a phobl ifanc i ddarllen mwy er pleser? 

Mae darllen yn ffordd o gyfoethogi bywyd. Trwy ddarllen ffuglen, er enghraifft, ‘dyn ni’n cael cip olwg ar sut mae eraill yn profi bywyd, a thrwy hyn gallwn ddysgu sut i ymhél â’r byd mewn ffordd mwy teimladwy a sympathetig. Trwy ddarllen, dawn i deimlo’n llai unig, llai ynysig.

A oes gennych unrhyw gynlluniau ar gyfer teitlau pellach? 

Tan nawr, dw i wedi bod yn ddramodydd: yn llunio dramâu llwyfan, ffilm a radio. O ran cyhoeddi, Gwlad yr Asyn yw fy nheitl cyntaf. Ces i hwyl wrthi, felly dw i’n bwriadu parhau i ysgrifennu ffuglen.

Un o’r prif bethau oedd creu’r cyfle i gyd-weithio â fy merch, Efa Blosse-Mason. Mae hi’n animeiddwraig ac yn ddylunydd, ac wedi bod yn darllen nofelau graffeg yn gyson ers roedd hi’n blentyn – trwyddi hi des i ar draws nofelau graffeg yn y lle cyntaf. Yn ddiweddar, dwi wedi bod yn canolbwyntio ar ysgrifennu dramâu llwyfan, ond ar ôl gweld fy nrama Gwlad yr Asyn yn cael ei berfformio, ces i’r syniad o’i haddasu mewn i nofel graffeg. Awgrymais hyn i Efa, ac ro’n i wrth fy modd pan gytunodd hi i ddylunio’r llyfr! ‘Dyn ni wedi bod yn darlunio a chreu straeon gyda’n gilydd o’r dechrau, ac mae’n wych bod ni nawr yn medru gwneud hynny ar y cyd yn broffesiynol.

Cyhoeddir Gwlad yr Asyn ddiwedd Hydref 2022 gan Gwasg Carreg Gwalch.

Darllenwch ein Taflen Dod i Adnabod yr Awdur sy’n cyflwyno’r awdur a’i lyfr newydd. 

Darllenwch hefyd am ein Hawdur y Mis yn ‘sgwennu’n Saesneg

 

Cookie Settings