Awdur yn cipio Gwobr Tir na n-Og gyda’i gyfrol gyntaf
Mai 15, 2015Enillydd Gwobr Tir na n-Og 2015 am y llyfr Saesneg gorau yw Giancarlo Gemin, o Gaerdydd, a hynny am ei gyfrol gyntaf, sef Cowgirl.
Maer wobr hon am lyfr i blant a drefnir gan Gyngor Llyfrau Cymru gyda nawdd gan CILIP Cymru/Wales yn cydnabod y teitl Saesneg gorau ac iddo gefndir Cymreig. Mewn dathliad a gynhaliwyd yn Llyfrgell Ganolog Abertawe ar 14 Mai cyflwynwyd y wobr i Giancarlo Gemin am ei nofel gyntaf, sef Cowgirl (cyhoeddwyd gan Nosy Crow).
Mae Cowgirl yn dilyn hanes Gemma, ac maer storin ddoniol ac yn deimladwy yr un pryd. A hithaun tyfu lan yn Stad Mawr ardal arw yn ne Cymru yr unig bethau mae Gemman eu gweld oi hamgylch yw lladrata, tristwch a diflastod. Gydai thad yn y carchar, a mam sydd wedi anobeithion llwyr, mae Gemman breuddwydio am ddyfodol gwell. Pan fo Gemman cwrdd â Cowgirl merch od, lawn dicter, sydd yn yr un ysgol â hi mae popeth ym mywyd Gemman dechrau edrych yn wahanol.
Roedd y panel beirniaid yn cytuno bod Cowgirl wedii hysgrifennun feistrolgar i adlewyrchu agweddau ar fywyd yng Nghymru heddiw, ai bod yn byrlymu o bersonoliaeth.
Dywedodd Bev Bannon, Cadeirydd Panel Saesneg Tir na n-Og: “Mae Cowgirl yn llyfr gwych, a llwyddodd Giancarlon gelfydd i ddatblygu naws gynnes ac annwyl yn y nofel.”
Mae Giancarlo Gemin wrthi ar hyn o bryd yn datblygu ei ail nofel y tro hwn yn seiliedig ar y caffis yn ne Cymru syn cael eu rhedeg gan Eidalwyr. “Rydw i wrth fy modd yn ennill Gwobr Saesneg Tir na n-Og,” meddai. “Maen wych fy mod wedi ennill y wobr bwysig hon am fy llyfr cyntaf, a bydd yn sicr yn fy sbarduno i ddal ati i ysgrifennu. Teimlaf yn hynod falch ac emosiynol wrth ennill y fath gydnabyddiaeth gan fy ngwlad enedigol. Cowgirl ywr llyfr cyntaf i mi benderfynu ei osod yng Nghymru, ac wrth ei ysgrifennu teimlain gartrefol ar unwaith.”
Noddir Gwobr Saesneg Tir na n-Og syn cydnabod ansawdd cwbl arbennig llyfrau a chanddynt gefndir Cymreig, ar gyfer plant a phobl ifanc gan CILIP Cymru/Wales (Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth).
Cyhoeddir enillwyr Gwobr Tir na n-Og am y llyfrau Cymraeg gorau yn y categorïau Cynradd ac Uwchradd mewn seremoni a gynhelir yn Eisteddfod yr Urdd Caerffili 2015.
Meddai Elwyn Jones, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Roedd yna gyfoeth o lyfrau iw hystyried ar gyfer Gwobr Tir na n-Og eleni, ar rheinyn adlewyrchu ansawdd ac ystod y llyfrau sydd ar gael ar gyfer plant. Maen bleser mawr i mi gael llongyfarch Giancarlo Gemin a Nosy Crow ar eu llwyddiant.”
Fideo YouTube: https://youtu.be/00SWtSXnGTo