Awdur yn cipio Gwobr Tir na n-Og gyda’i gyfrol gyntaf

Enillydd Gwobr Tir na n-Og 2015 am y llyfr Saesneg gorau yw Giancarlo Gemin, o Gaerdydd, a hynny am ei gyfrol gyntaf, sef  Cowgirl.

Mae’r wobr hon am lyfr i blant  – a drefnir gan Gyngor Llyfrau Cymru gyda nawdd gan CILIP Cymru/Wales  – yn cydnabod y teitl Saesneg gorau ac iddo gefndir Cymreig. Mewn dathliad a gynhaliwyd yn Llyfrgell Ganolog Abertawe ar 14 Mai cyflwynwyd y wobr i Giancarlo Gemin am ei nofel gyntaf, sef  Cowgirl  (cyhoeddwyd gan Nosy Crow).

Mae  Cowgirl  yn dilyn hanes Gemma, ac mae’r stori’n ddoniol ac yn deimladwy yr un pryd. A hithau’n tyfu lan yn Stad Mawr  – ardal arw yn ne Cymru  – yr unig bethau mae Gemma’n eu gweld o’i hamgylch yw lladrata, tristwch a diflastod. Gyda’i thad yn y carchar, a mam sydd wedi anobeithio’n llwyr, mae Gemma’n breuddwydio am ddyfodol gwell. Pan fo Gemma’n cwrdd  â Cowgirl – merch od, lawn dicter, sydd yn yr un ysgol â hi  – mae popeth ym mywyd Gemma’n dechrau edrych yn wahanol.

Roedd y panel beirniaid yn cytuno bod  Cowgirl  wedi’i hysgrifennu’n feistrolgar i adlewyrchu agweddau ar fywyd yng Nghymru heddiw, a’i bod yn byrlymu o bersonoliaeth.

Dywedodd Bev Bannon, Cadeirydd Panel Saesneg Tir na n-Og:  “Mae  Cowgirl  yn llyfr gwych, a llwyddodd Giancarlo’n gelfydd i ddatblygu naws gynnes ac annwyl yn y nofel.”

Mae Giancarlo Gemin wrthi ar hyn o bryd yn datblygu ei ail nofel  – y tro hwn yn seiliedig ar y caffis yn ne Cymru sy’n cael eu rhedeg gan Eidalwyr.  “Rydw i wrth fy modd yn ennill Gwobr Saesneg Tir na n-Og,” meddai.  “Mae’n wych fy mod wedi ennill y wobr bwysig hon am fy llyfr cyntaf, a bydd yn sicr yn fy sbarduno i ddal ati i ysgrifennu. Teimlaf yn hynod falch ac emosiynol wrth ennill y fath gydnabyddiaeth gan fy ngwlad enedigol.  Cowgirl  yw’r llyfr cyntaf i mi benderfynu ei osod yng Nghymru, ac wrth ei ysgrifennu teimlai’n gartrefol ar unwaith.”

Noddir Gwobr Saesneg Tir na n-Og  – sy’n cydnabod ansawdd cwbl arbennig llyfrau a chanddynt gefndir Cymreig, ar gyfer plant a phobl ifanc  – gan CILIP Cymru/Wales (Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth).

Cyhoeddir enillwyr Gwobr Tir na n-Og am y llyfrau Cymraeg gorau yn y categorïau Cynradd ac Uwchradd mewn seremoni a gynhelir yn Eisteddfod yr Urdd Caerffili 2015.

Meddai Elwyn Jones, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru:  “Roedd yna gyfoeth o lyfrau i’w hystyried ar gyfer Gwobr Tir na n-Og eleni, a’r rheiny’n adlewyrchu ansawdd ac ystod y llyfrau sydd ar gael ar gyfer plant. Mae’n bleser mawr i mi gael llongyfarch Giancarlo Gemin a Nosy Crow ar eu llwyddiant.”

Fideo YouTube:  https://youtu.be/00SWtSXnGTo

Cookie Settings