Baban newydd-eni yw aelod ieuenga Llyfrgell Llanelli
Hydref 19, 2015Mae Llyfrgell Llanelli wedi croesawu ei haelod ieuengaf sydd ond yn dri diwrnod oed.
Ymaelododd Sienna James ar ôl ymweld gyda Steffi ei mam sydd hefyd yn aelod.
Mae Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin wedi newid yn aruthrol ers plentyndod Steffi gyda rhagor o bobl yn benthyg gwahanol eitemau o DVDs, CDs, papurau newydd a chylchgronau i ymweld â gwasanaethau ar-lein. Oherwydd y galw mae’r llyfrgelloedd yn newid faint gewch chi fenthyg o 10 i 20 CD neu lyfr bob tair wythnos.
Dywedodd Steffi, mam Sienna: “Roeddwn i am iddi ymuno’n gynnar gan fod Olivia, ei chwaer, yn aelod ac mae’n dwlu mynd i amser stori ar ddydd Mawrth am 10.30am.
“Hefyd rydym ni’n dod i’r holl weithgareddau yn ystod y gwyliau, yn ogystal â chwarae anniben ac iaith a chwarae. Mae pob un o’r sesiynau hyn wedi helpu fy merch i ddatblygu ei sgiliau gwrando ac archwilio, ond mae hefyd wedi’i dysgu i fod yn greadigol.
“Fel mam sy’n gweithio, allwch chi ddim rhoi’r math hwnnw o sylw i’ch plentyn bob amser, ond mae’r sesiynau hyn yn helpu Olivia i fod yn ferch ifanc annibynnol.
“Mae’n hyderus iawn ac mae’n dwlu mynd i’r llyfrgell. Dyma rywbeth rydw i am i Sienna ei gael.”
Mae’r teulu’n darllen gyda’i gilydd gartref, yn ogystal â dod i’r digwyddiadau niferus yn y llyfrgell.
“Gartref, ein hoff lyfr i’w ddarllen gyda’n gilydd yw ‘Dyn Ni yn Mynd i Hela Arth’,” meddai Steffi.
“Dyma lyfr a gawsom ni o’r llyfrgell yn ystod sesiwn amser stori, ac mae Olivia bellach yn mwynhau darllen ei fersiwn hi o’r llyfr i Sienna.
“Rwy’n edrych ymlaen at fynd â’r ddwy ferch i’r llyfrgell i gyfnewid llyfrau a mwynhau amser stori.”
P’un a ydych yn ddarllenydd brwd, yn mwynhau ffilmiau, yn hoff iawn o gerddoriaeth, neu’n awyddus i gael y newyddion lleol a byd-eang diweddaraf, gall llyfrgelloedd fodloni’ch anghenion gan fod rhywbeth yno i bawb, o’r crud i’r bedd!
Dywedodd y Cynghorydd Meryl Gravell, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Hamdden Cyngor Sir Caerfyrddin: Credir mai Sienna yw’r aelod ieuengaf o lyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin ac mae’r gwasanaeth yn fwy na pharod i ddarparu ar ei chyfer, gyda llyfrau sydd â siapiau syml yn arbennig ar gyfer babanod wrth iddynt ddechrau ar eu taith gan fagu diddordeb mewn llyfrau a dysgu!
Dyw hi byth yn rhy gynnar i ddechrau plentyn ar eu taith ddarllen ac mae rhannu llyfrau gyda’ch plentyn yn un o’r gweithgareddau mwyaf pleserus. Mae’n datblygu gymaint o sgiliau ac mae’r cwbl yn digwydd mor naturiol pan fyddwch yn darllen ac yn sgwrsio am lyfrau gyda’ch plentyn.”
Edrychwch am y sesiynau Amser Stori Actif a gynhelir bob wythnos yn llyfrgelloedd Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli a’r hyn sy’n digwydd ym mhob llyfrgell unigol. Gellir hurio ystafell amlbwrpas ar gyfer partïon pen-blwydd, digwyddiadau coffa, cyngherddau a chyfarfodydd. Mae llyfrgelloedd Caerfyrddin, Llanelli a Rhydaman yn agored chwe diwrnod yr wythnos ac mae ganddynt ystafell TG ac adran gyfeirio i helpu pobl sy’n ymchwilio i hanes teulu.
Ychwanegodd y Cynghorydd Gravell: Gyda mwy na hanner miliwn o lyfrau rhwng tair llyfrgell ranbarthol, 13 llyfrgell gangen a theithiol fyddwch chi byth yn rhy bell i ffwrdd o ganolfan wybodaeth. Mae cyfrifiaduron cyhoeddus a Wi-Fi ar gael yn yr holl lyfrgelloedd.