Geraint Lewis

Yn hanu o Dregaron, Ceredigion, graddiodd Geraint Lewis mewn Saesneg a Drama yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth. Bu’n ysgrifennu yn llawn amser ers 1984, yn bennaf ar gyfer y teledu. Bu’n gyfrifol am ysgrifennu nifer o gyfresi comedi poblogaidd, sawl cyfres i blant, a sgriptio ar gyfer Pobol y Cwm, Iechyd DaTeulu a dwy ffilm i ‘Boomerang’, sef SOS Galw Gari Tryfan ac Arwyr. Darlledwyd nifer o’i ddramâu ar Radio Cymru, ac mae ei ddramau llwyfan yn cynnwys Y Cinio, Y Groesffordd (Drama Gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Bro Dinefwr 1996), The Language of Heaven a Meindiwch Eich Busnes (i gyd ar gyfer ‘Dalier Sylw’) ac Ysbryd Beca, Dosbarth (Drama Gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi 2002) a Dysgu Hedfan

Cyhoeddwyd pump o’r dramâu uchod, sef Y Cinio, Ysbryd Beca, Dosbarth, Paradwys a Cof yn ogystal â chyfrol straeon byrion, Y Malwod a’r nofel X. Llwyddodd ei ail nofel Daw Eto Haul (Carreg Gwalch) i gyrraedd rhestr hir Llyfr y Flwyddyn yr Academi yn ystod 2004. Cyhoeddwyd ei nofel ddiweddaraf Haf o Hyd yn Nhachwedd 2009 a chyhoeddwyd ei gyfrol o straeon byrion, Brodyr a Chwiorydd (Y Lolfa) yn Nhachwedd 2013. Enillodd gystadleuaeth stori fer Cymdeithas Allen Raine yn 2011 â’i stori fer Amser Maith yn Ol. Ef hefyd oedd enillydd cyntaf Gwobr Goffa Tony Bianchi yn 2019 am ei stori fer Rtdfcttftg ,m.kpgh. Derbyniodd Ysgoloriaeth Awdur gan Lenyddiaeth Cymru yn 2020. Cyhoeddwyd ffrwyth llafur honno, cyfrol newydd o straeon byrion, Cofiwch Olchi Dwylo (Carreg Gwalch), wedi ei osod yn ystod y cyfnod clo cyntaf, ar 28ain o Fai 2021. 

Mae Byw Llyfrau yn bartneriaeth cyffrous rhwng llyfrgellwyr o Wynedd, Conwy, Sir Ddinbych a Cheredigion, ac yn deillio o brosiect Estyn Allan, Llyfrgelloedd Cymru. Yn y podlediadau, mae’r tîm Estyn Allan yn siarad gyda gwahanol awduron o Gymru am eu llyfrau a’u diddordebau darllen. Mae Estyn Allan yn gywaith rhwng llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru i greu cynnwys digidol, dan arweiniad Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru (SCL Cymru) ac wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Gwrandewch ar Geraint Lewis yn sgwrsio am ei ddylanwadau, a’i ddiddordebau darllen ynghyd a rhoddi cipolwg i ni o be’ i ddisgwyl yn ei gyfrol ddiweddarara’ – Cofiwch Olchi Dwylo a Negeseuon Eraill …

 

Byw Llyfrau Pennod 2: Cofiwch Olchi Dwylo hefo Geraint Lewis
Cookie Settings