Cynan Llwyd

Magwyd Cynan Llwyd yn Aberystwyth, ac erbyn hyn mae’n byw yng Nghaerdydd. Mae’n gweithio i Gymorth Cristnogol. Ef yw awdur y nofelau i bobl ifanc, Pobl Fel Ni a Tom, a chyd-awdur Agor y Drws – 6 stori i Ddysgwyr. Mae ei nofel ddiweddaraf Tom (Y Lolfa) am fywyd bachgen 15 oed sy’n byw yng Nghaerdydd. Mae bywyd Tom yn gymhleth. Caiff ei dynnu’n ddyfnach i mewn i fyd tywyll y gangs ac mae’r pethau mae’n ei weld a’u gwneud  yn peri gofid mawr iddo. 

Mae Byw Llyfrau yn bartneriaeth cyffrous rhwng llyfrgellwyr o Wynedd, Conwy, Sir Ddinbych a Cheredigion, ac yn deillio o brosiect Estyn Allan, Llyfrgelloedd Cymru. Yn y podlediadau, mae’r tîm Estyn Allan yn siarad gyda gwahanol awduron o Gymru am eu llyfrau a’u diddordebau darllen. Mae Estyn Allan yn gywaith rhwng llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru i greu cynnwys digidol, dan arweiniad Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru (SCL Cymru) ac wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Dyma rhan gyntaf sgwrs tim Estyn Allan gyda Cynan Llwyd, yn trafod Tom a Phobl fel Ni …

 

Byw Llyfrau Pennod 4: Sgwrs gyda awdur nofelau pobl ifanc, Cynan Llwyd

Cookie Settings