Magwyd Sian Northey yn Nhrawsfynydd, ac mae bellach yn byw ym Mhenrhyndeudraeth. Wedi sawl swydd, gan gynnwys cyfnodau yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd a Gwasg y Bwthyn, penderfynodd weithio ar ei liwt ei hun fel awdur, bardd a golygydd. Ymddangosodd ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth, Trwy Ddyddiau Gwydr (Gwasg Carreg Gwalch), ar restr fer barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2014. Bydd cyfieithiadau Sbaeneg o 8 o’i cherddi yn cael eu cynnwys mewn blodeugerdd a gyhoeddir ym Mecsico. Mae hi hefyd wedi cyhoeddi nifer o lyfrau i blant, yn ogystal â llên meicro.

Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf i oedolion, Yn y Tŷ Hwn (Gomer) yn 2011, a dewiswyd y nofel honno ar gyfer Silff Lyfrau’r Gyfnewidfa yn 2011. Dewiswyd ei hail nofel i oedolion, Rhyd y Gro (Gomer, 2016), hefyd i Silff Lyfrau’r Gyfnewidfa yn 2016. Cyhoeddwyd ei chasgliad o straeon byrion Celwydd Oll (Gwasg y Bwthyn) yn 2018, ei nofel Perthyn (Gomer) yn 2019 a chasgliad arall o straen byrion, Cylchoedd (Gwasg y Bwthyn) yn 2020.