Heiddwen Tomos

Yn wreiddiol o Lanybydder, mae Heiddwen Tomos yn byw ym Mhengarreg, Sir Gaerfyrddin ac yn athrawes Ddrama yn Ysgol Bro Teifi, Llandysul. Enillodd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017.

Mae Byw Llyfrau yn bartneriaeth cyffrous rhwng llyfrgellwyr o Wynedd, Conwy, Sir Ddinbych a Cheredigion, ac yn deillio o brosiect Estyn Allan, Llyfrgelloedd Cymru. Yn y podlediadau, mae’r tîm Estyn Allan yn siarad gyda gwahanol awduron o Gymru am eu llyfrau a’u diddordebau darllen. Mae Estyn Allan yn gywaith rhwng llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru i greu cynnwys digidol, dan arweiniad Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru (SCL Cymru) ac wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Dyma sgwrs Estyn Allan gyda’r awdures, sy’n trafod ei nofelau, Dwr yn yr Afon, Esgyrn, O’r Cysgodion a’i nofel diweddaraf i bobl ifanc, Heb Law Mam …

 

Byw Llyfrau Pennod 6: O’r Cysgodion gyda Heiddwen Tomos
 
Cookie Settings