Rebecca Roberts

Podlediad newydd sbon yn y Gymraeg yw Byw Llyfrau. Mae Byw Llyfrau yn bartneriaeth cyffrous rhwng llyfrgellwyr o Wynedd, Conwy, Sir Ddinbych a Cheredigion, ac yn deillio o brosiect Estyn Allan, Llyfrgelloedd Cymru. Yn y podlediadau, mae’r tîm Estyn Allan yn siarad gyda gwahanol awduron o Gymru am eu llyfrau a’u diddordebau darllen. Mae Estyn Allan yn gywaith rhwng llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru i greu cynnwys digidol, dan arweiniad Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru (SCL Cymru) ac wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’r podlediad gyntaf yn y gyfres yn cynnwys cyfweliad â’r awdures Rebecca Roberts.

Magwyd Rebecca ym Mhrestatyn, ac yna mae hi’n byw o hyd gyda’i gŵr Andy a’i phlant, Elizabeth a Thomas. Mae hi wedi gweithio fel athrawes, swyddog datblygu, cyfieithydd a gweinydd digrefydd. Hi oedd enillydd Ysgoloriaeth Emyr Feddyg 2017 yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf i oedolion Mudferwi gan Wasg Carreg Gwalch yn 2019 ac fe’i dilynwyd yn gynnar yn 2020 gan nofel Saesneg, Eat.Sleep.Rage.Repeat (Gwasg Gomer). Enillodd #helynt, ei nofel gyntaf i bobl ifanc, Wobr Tir na n-Og 2021 – categori oedran uwchradd, a Gwobr Plant a Phobl Ifanc Llyfr y Flwyddyn 2021 a gyhoeddwyd gan Llenyddiaeth Cymru.

Yn y podlediad bydd Rebecca yn siarad am ei llyfrau a’i diddordebau darllen. Cawn gwestiynau gan ddisgyblion Ysgol Brynrefail a darlleniad o’i nofel #helynt …

 

Byw Llyfrau Pennod 1: Siarad Llyfrau gyda Rebecca Roberts
Cookie Settings