Rhian Cadwaladr

Addawodd yr awdur a’r actores Rhian Cadwaladr iddi ei hun pan oedd yn ei harddegau y byddai’n sgwennu nofel rhyw ddydd. Er iddi ysgrifennu sgriptiau a sioeau i blant yn y cyfamser, roedd hi’n hanner cant cyn ysgrifennu ei nofel gyntaf Fi sy’n Cael y Ci. Yn dilyn honno ysgrifennodd nofel arall – Môr a Mynydd. Cyhoeddodd ei thrydedd nofel Plethu yng Ngorffennaf 2020.

Mae Byw Llyfrau yn bartneriaeth cyffrous rhwng llyfrgellwyr o Wynedd, Conwy, Sir Ddinbych a Cheredigion, ac yn deillio o brosiect Estyn Allan, Llyfrgelloedd Cymru. Yn y podlediadau, mae’r tîm Estyn Allan yn siarad gyda gwahanol awduron o Gymru am eu llyfrau a’u diddordebau darllen. Mae Estyn Allan yn gywaith rhwng llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru i greu cynnwys digidol, dan arweiniad Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru (SCL Cymru) ac wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Dyma sgwrs gyda’r awdur a’r actores Rhian Cadwaladr am ei llyfr coginio newydd Casa Cadwaladr …
 
 
Byw Llyfrau Pennod 5: Blas ar y Llyfrgelloedd ryseitiau Casa Cadwaladr
Cookie Settings