Buddsoddi yn Llyfrgell Cwmbrân

 

Bydd bron i hanner miliwn o bunnau yn cael ei fuddsoddi yn Llyfrgell Cwmbrân y flwyddyn nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi Grant Cyfalaf Trawsnewid gwerth £300,000 tuag at y gwaith adnewyddu, a bydd Cyngor Torfaen yn rhoi £127,000 ychwanegol.

Bydd cynlluniau manwl nawr yn cael eu llunio ac mae disgwyl iddyn nhw gael eu harddangos yn gyhoeddus cyn y Nadolig.

Meddai’r Cynghorydd Peter Jones, Aelod Gweithredol dros Lywodraethu Corfforaethol ac Adnoddau:

“Mae Llyfrgell Cwmbrân yn gyfleuster cymunedol gwych sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio’n dda gan filoedd o bobl bob mis.

“Yr haf hwn, cymerodd dros 900 o blant ran yn ein sialens ddarllen flynyddol a daeth llawer i mewn i’r llyfrgell bob wythnos i fenthyg llyfrau.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd y buddsoddiad newydd hwn yn helpu i foderneiddio’r cyfleusterau ac i ddenu hyd yn oed mwy o ymwelwyr. Rydyn ni’n gobeithio y bydd pobl yn dod i weld y cynlluniau pan fyddan nhw’n barod ac yn rhannu eu barn amdanyn nhw gyda ni.”

Meddai Gweinidog Diwylliant Llywodraeth Cymru, Jack Sargeant: “Mae’r buddsoddiad Grant Cyfalaf Trawsnewid sylweddol hwn gwerth £300,000 yn Llyfrgell Cwmbrân yn bennod newydd gyffrous i’r gymuned.

“Mae llyfrgelloedd yn parhau i fod yn ganolfannau hanfodol ar gyfer dysgu gydol oes, ymgysylltu â’r cyhoedd, a thwf personol. Bydd y gwaith adnewyddu hwn yn helpu i foderneiddio’r lle ac yn cynnal ei rôl fel adnodd croesawgar a hygyrch i bawb. Edrychaf ymlaen at weld sut y bydd y gwelliannau hyn yn adfywio’r cyfleuster lleol hanfodol hwn.”

Disgwylir i’r gwaith adnewyddu gynnwys ad-drefnu’r lle presennol i ddarparu mwy o gyfleoedd ar gyfer gweithio ac astudio ystwyth, llyfrgell newydd i bobl ifanc yn eu harddegau ac ardaloedd iechyd a lles a gwybodaeth a chyngor penodol. Bydd dodrefn a chyfleusterau digidol newydd yn moderneiddio’r lle ac yn gwella profiad y cwsmer.

Mae disgwyl i’r gwaith ddechrau yn y Flwyddyn Newydd ac mae disgwyl i’r llyfrgell fod ar gau am tua phedair wythnos er mwyn i’r gwaith adnewyddu fynd rhagddo. Mae cynlluniau’n cael eu datblygu i liniaru effaith cau’r Llyfrgell dros dro, a bydd rhagor o fanylion ar gael ymhell o flaen llaw.

Daw’r cyllid yn dilyn buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn Llyfrgelloedd Pont-y-pŵl a Blaenafon. Rhoddwyd £300,000 o Ddatblygiad Cyfalaf Llyfrgelloedd Dysgu Cymunedol i Lyfrgell Pont-y-pŵl yn 2011 a rhoddwyd £100,000 pan symudwyd Llyfrgell Blaenafon i Ganolfan Treftadaeth y Byd yn 2015.

Bydd y gwaith o adnewyddu’r llyfrgell yn rhan o gynlluniau ehangach i wella Tŷ Gwent dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Mae rhaglen Cynllun Hirdymor Llywodraeth y DU ar gyfer Trefi wedi’i gohirio hyd nes datganiad Cyllideb yr Hydref y Llywodraeth. Fodd bynnag, paratowyd gweledigaeth a fframwaith buddsoddi yn dilyn ymgynghoriad dros yr haf.

Mae disgwyl ymgynghoriad ar wahân am ddenu buddsoddiad hirdymor ehangach i Gwmbrân, ymhen ychydig wythnosau.

Cookie Settings