Cael Hwyl yn Dathlu Rhigymau a Chaneuon yn Amser Rhigwm Mawr Cymru!

Bydd Amser Rhigwm Mawr Cymru yn digwydd o ddydd Llun 8fed tan ddydd Gwener 12eg Chwefror 2021!

Eleni, mae BookTrust Cymru eisiau gwneud Amser Rhigwm Mawr Cymru yn well fyth trwy wahodd plant yn y Cyfnod Sylfaen i chwarae rhan yn yr hwyl rhigymu hefyd! Os ydych chi’n gweithio gyda phlant rhwng 0 a 7 oed, gallwch chi ymuno â’r hwyl trwy gynnal eich Amser Rhigwm Mawr Cymru eich hun naill ai yn eich lleoliad, eich ysgol, gartref neu ar-lein.

Beth yw’r manteision cymryd rhan?

Mae rhigymau a chaneuon yn nodwedd gyffredin mewn plentyndod – boed hynny’n hwiangerddi traddodiadol, caneuon dwli, cerddi syml neu bethau a gyfansoddwyd yn y fan a’r lle! Bydd Booktrust Cymru yn treulio’r wythnos yn dathlu rhigymau a chaneuon, a’r manteision sydd ganddynt i blant.

Gall rhannu rhigymau helpu plant i ddod yn wrandawyr da a chodi’u hyder i ymuno, yn ogystal â’u helpu i ddatblygu sgiliau gwrando a thalu sylw a dysgu geirfa ardderchog.

Yn fwyaf pwysig, mae rhannu rhigymau a chaneuon yn hwyl, yn hawdd, a gellir ei wneud ymhobman!

Beth sy’n digwydd eleni?

Cynhelir digwyddiadau arbennig Amser Rhigwm Mawr Cymru mewn llyfrgelloedd, meithrinfeydd, ysgolion ac ar-lein ledled Cymru. Bydd Booktrust Cymru  yn rhannu dros 20,000 o sticeri a thystysgrifau a gynlluniwyd yn arbennig i blant fydd yn rhannu rhigymau yn ystod yr wythnos hon!

Bydd llawer o gynnwys hwyliog a chyffrous ar gael drwy Twitter a Facebook drwy gydol yr wythnos, ynghyd â chynnwys ar y wefan, gan gynnwys fideos, caneuon, a chynghorion rhigymu. Gellir dod o hyd i gynnwys y wefan fan yma

Mae Booktrust Cymru hefyd wedi comisiynu rhigymau a chaneuon newydd arbennig gan artistiaid o bob cwr o Gymru, felly gwrandewch allan amdanynt bob dydd!

 

Cookie Settings