Casgliad Darllen yn Well i’r Arddegau yn Lawnsio ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2022

Lansiwyd casgliad Darllen yn Well newydd ar gyfer yr arddegau mewn llyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru a Lloegr ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2022 (10fed Hydref). Mae’r cynllun yn cefnogi iechyd meddwl a lles pobl ifanc rhwng 13 a 19 oed, gan ddarparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i’w helpu i ddeall eu teimladau yn well, ymdrin â phrofiadau anodd a hybu hyder.

Datblygwyd y rhestr fel diweddariad i restr Darllen yn Well i bobl ifanc 2016 (“Shelf Help”) ac mae’n canolbwyntio ar gefnogi iechyd meddwl a lles yr arddegau wrth ddelio â bywyd ar ôl pandemig. Mae’r rhestr lyfrau yn benodol i bobl ifanc yn eu harddegau (13–18) ac mae’n cynnwys amrywiaeth o lefelau darllen a fformatau i gefnogi darllenwyr llai hyderus ac ennyn diddordeb. Mae rhai o’r llyfrau sy’n cael eu hargymell yn awgrymu technegau hunangymorth defnyddiol ac yn cynnwys straeon personol, fformatau graffeg a ffuglen. I gyd-fynd â’r llyfrau, mae detholiad o adnoddau digidol safonol sy’n addas i’r oedran. Pobl ifanc, gweithwyr iechyd proffesiynol blaenllaw a staff llyfrgelloedd sydd wedi dewis y llyfrau.

The Reading Agency sydd wedi datblygu Darllen yn Well law yn llaw â Libraries Connected a Chymdeithas y Prif Lyfrgellwyr (SCL) (Cymru), ac mae’n cael ei gyflwyno ar y cyd â llyfrgelloedd cyhoeddus fel rhan allweddol o’r Cynnig Iechyd Cynhwysol. Gyngor Celfyddydau Lloegr a Llywodraeth Cymru sy’n ariannu’r cynllun. Mae pum rhestr llyfrau Darllen yn Well ar gael sy’n cefnogi pobl i ddeall a rheoli eu hiechyd a’u lles gan ddefnyddio deunydd darllen defnyddiol. Yng Nghymru yn 2020–21, benthycwyd o leiaf 14,000 o lyfrau Darllen yn Well o lyfrgelloedd cyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys dros 7,000 o’r rhestr Darllen yn Well i blant, dros 5,000 o’r rhestr Darllen yn Well ar gyfer iechyd meddwl, a thros 1,600 o’r rhestr Darllen yn Well ar gyfer dementia. Yn ogystal, mae dros 32,000 o lyfrau Cymraeg wedi’u gwerthu ers 2019.

Mae rhagor o wybodaeth am restrau llyfrau Darllen yn Well ar gael yn eich llyfrgell leol, neu ewch i reading-well.org.uk/cymru

Cookie Settings