Cerdyn llyfrgell awtomatig i bob plentyn
Mawrth 9, 2015Mae llyfrgelloedd ac ysgolion Cymru yn dod at ei gilydd i roi cerdyn llyfrgell i bob plentyn ysgol gynradd fe ddechreuodd y prosiect ym mis Mawrth eleni gyda chwe awdurdod lleol yn treialur fenter a, diolch i arian Llywodraeth Cymru oddi wrth yr Adran Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, fei rhoddwyd ar waith bellach mewn deg awdurdod lleol (sef cyfanswm o 16) gan dargedu 25,000 yn rhagor o blant.
Wrth lansior fenter yn Sir Fynwy heddiw, dywedodd Dr Rhys Jones a adwaenir orau am ei gyfres lwyddiannus ar y BBC yn cynnwys Rhys to the Rescue a Dr Rhys Joness Wildlife Patrol: Mae llyfrgelloedd yn adnodd mor bwysig maen nhwn lleoedd gwych i ddychymyg plant gael rhwydd hynt i dyfu a datblygu ac maen hynod bwysig ein bod yn annog ein plant i ddarllen mwy, nid yn unig er mwyn gwella eu lefelau llythrennedd ond hefyd iw helpu gyda sgiliau bywyd a chyfleoedd ir dyfodol.
Bydd disgyblion ar draws Sir Fynwy yn cymryd rhan mewn digwyddiadau mewn llyfrgelloedd, ysgolion a neuaddau chwaraeon.
Gydar cerdyn llyfrgell hwn bydd plant yn gallu benthyca llyfraun syth a chael cwdyn i gariou llyfrau gartref gyda nhw. Unwaith y byddwn yn cael tystiolaeth ou cyfeiriad, gallant ddefnyddio miloedd o lyfrau yn rhad ac am ddim, defnyddior cyfrifiaduron a chael mynediad at lawer mwy o adnoddau.
Defnyddiwch eich llyfrgell leol i gael mynediad at ddewis anhygoel o wasanaethau, gan gynnwys:
- Ffuglen, llyfrau ffeithiol, comics, nofelau graffig a llyfrau llafar AM DDIM
- Help AM DDIM gyda gwaith cartref ar lein ac yn y llyfrgell
- E-lyfrau ac e-gylchgronau AM DDIM
- Defnyddio cyfrifiaduron a mynediad ir rhyngrwyd AM DDIM
- Clybiau, gemau, digwyddiadau, gweithgareddau a dosbarthiadau yn y llyfrgell
- Staff llyfrgell syn gyfeillgar a pharod i helpu
- Rhywle diogel i gwrdd â ffrindiau
Maer fenter hon yn targedu disgyblion blwyddyn pedwar mewn 16 awdurdod yng Nghymru: Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Sir Gaerfyrddin, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Torfaen a Wrecsam.
Maer fenter yn cefnogi ymgyrch Mae Addysg yn Dechrau yn y Cartref Llywodraeth Cymru, syn annog rhieni i helpu eu plant gartref trwy neilltuo amser i ddarllen, a gall hyn fod o fudd iw perfformiad yn yr ysgol.
Am ragor o wybodaeth ewch i: www.welshlibraries.org/schools