Cerdyn llyfrgell awtomatig i bob plentyn yng Nghymru

Mae llyfrgelloedd ac ysgolion cynradd Cymru yn dod at ei gilydd i roi cerdyn llyfrgell i bob plentyn ysgol gynradd – dechreuodd y prosiect ym mis Mawrth eleni gyda chwe awdurdod lleol yn treialu’r fenter. Diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru yn yr Adran Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, mae hyn bellach wedi ei gyflwyno i ddeg o awdurdodau lleol pellach (16 i gyd) gan dargedu 25,000 yn fwy o blant.

Yn lansio’r fenter yn Llyfrgell Wrecsam heddiw mae Dr Rhys Jones – sy’n fwyaf adnabyddus am ei gyfres boblogaidd ar y BBC, ‘Rhys to the Rescue’ a ‘Dr Rhys Jones’s Wildlife Patrol’, a dywed: “Mae llyfrgelloedd yn adnodd mor bwysig – maent yn lle gwych i blant adael i’w dychymyg dyfu a datblygu ac mae’n hanfodol bwysig ein bod yn annog ein plant i ddarllen mwy, nid yn unig i wella eu lefelau llythrennedd, ond hefyd i’w helpu gyda sgiliau bywyd a chyfleoedd yn y dyfodol.”

Bydd disgyblion o Ysgolion Santes Anne a Hafod y Wern yn cymryd rhan mewn digwyddiadau mewn llyfrgelloedd, ysgolion a neuaddau chwaraeon. Dywedodd Debbie Eccles, Pennaeth Ysgol Gynradd Victoria: “Mae ‘Pob Plentyn yn Aelod Llyfrgell’ wedi bod yn gynllun gwych i ddenu plant i’w llyfrgell leol i weld yr ystod o wasanaethau y gallant eu darparu ar gyfer disgyblion ifanc yng Nghymru. Er bod llawer o’n disgyblion eisoes yn aelodau, roedd yn rhoi’r cyfle i ddisgyblion eraill ddod yn aelodau, ymweld â’r llyfrgell a deall y system fenthyca. Mae’n targedu disgyblion iau ym mlwyddyn 4, felly gobeithio y bydd yn annog mwynhad o wasanaethau llyfrgelloedd a’r profiad darllen am oes.”

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau a Lles: “Bydd y cerdyn llyfrgell hwn yn caniatáu i’r plant fenthyg llyfrau yn syth a chael bag gwych i gario eu llyfrau adref gyda nhw. Unwaith y bydd prawf o gyfeiriad yn cael ei roi, gallant wedyn gael mynediad at filoedd o lyfrau am ddim, defnyddio’r cyfrifiaduron a chael mynediad at lawer o adnoddau eraill.”

Defnyddiwch eich llyfrgell leol i gael mynediad at ystod anhygoel o wasanaethau gan gynnwys:

  • Llyfrau ffuglen, ffeithiol, comics, nofelau graffeg a llyfrau llafar AM DDIM
  • Cymorth gyda gwaith cartref AM DDIM – ar-lein ac yn y llyfrgell
  • E-lyfrau ac e-gylchgronau AM DDIM
  • Defnyddio cyfrifiaduron a’r rhyngrwyd AM DDIM
  • Clybiau, gemau, digwyddiadau, gweithgareddau a dosbarthiadau yn y llyfrgell
  • Staff cyfeillgar, parod i helpu yn y llyfrgell
  • Rhywle diogel i gwrdd â ffrindiau

Mae’r cynllun hwn yn targedu disgyblion blwyddyn pedwar mewn un deg chwech o awdurdodau Cymru: Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Sir Gaerfyrddin, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Sir Penfro, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Torfaen a Wrecsam.

Mae’r cynllun hwn yn cefnogi ymgyrch ‘Mae Addysg yn dechrau yn y cartref’ Llywodraeth Cymru sy’n annog rhieni i helpu eu plentyn gartref trwy neilltuo amser i ddarllen a allai helpu eu perfformiad yn yr ysgol.

Cookie Settings