Cerdyn llyfrgell awtomatig i bob plentyn yng Nghymru

Mae llyfrgelloedd ac ysgolion Cymru yn dod at ei gilydd i roi cerdyn llyfrgell i bob plentyn ysgol gynradd. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu ymgyrch i sicrhau fod pob plentyn yng Nghymru yn dod yn aelod o’u llyfrgell leol.

Wrth baratoi i lansio’r fenter yn Sir Ddinbych ar Ionawr 15fed yn Llyfrgelloedd Prestatyn a’r Rhyl, dywedodd Dr Rhys Jones – a adwaenir orau am ei gyfres lwyddiannus ar y BBC yn cynnwys ‘Rhys to the Rescue’ a ‘Dr Rhys Jones’s Wildlife Patrol’: “Mae llyfrgelloedd yn adnodd mor bwysig – maen nhw’n lleoedd gwych i ddychymyg plant gael rhwydd hynt i dyfu a datblygu ac mae’n hynod bwysig ein bod yn annog ein plant i ddarllen mwy, nid yn unig er mwyn gwella eu lefelau llythrennedd ond hefyd i’w helpu gyda sgiliau bywyd a chyfleoedd i’r dyfodol.”

Ddydd Iau, bydd disgyblion o Ysgol Clawdd Offa, Prestatyn ac Ysgol Llywelyn, Y Rhyl yn dod i’w llyfrgell leol i gyfarfod Dr Rhys Jones, i dderbyn eu cardiau aelodaeth newydd a bagiau i gario eu llyfrau adref. Byddant yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn seiswn greadigol i ysgogi eu dychymyg ac yn dewis a benthyg llyfrau o’u dewis i’w darllen adref.

Dywedodd Bethan M. Hughes o Lyfrgelloedd Sir Ddinbych: “Mae’r cynllun yn targedu plant 8-9 oed, a’r gobaith yw sicrhau fod pob plentyn Blwyddyn 4 yn y sir yn aelod cyn diwedd y flwyddyn ysgol. Mae cyfartaledd uchel iawn o blant Sir Ddinbych eisoes yn aelodau o ganlyniad i flynyddoedd o gyd-wethio rhwng llyfrgelloedd ac ysgolion. Serch hynny, mae nifer o blant sydd heb eto ymaelodi a chael y cyfle i ddarganfod yr holl lyfrau a gwasanaethau eraill sydd ar gael iddynt, am ddim, yn y llyfrgell i gefnogi eu datblygiad fel darllenwyr a dysgwyr, ac i gael pleser a hwyl. Gobeithiwn y bydd y cynllun ymaelodi awtomatig hwn yn rhoi’r cyfle i’n plant ni i gyd i ddod yn aelod o’r llyfrgell ac yn annog rhieni i alluogi eu plant i ymweld. Mae ymchwil yn dangos fod plant sy’n ymaelodi ac yn defnyddio eu llyfrgell leol yn rheolaidd ac sy’n darllen er mwyn pleser yn datblygu yn ddarllenwyr a disgyblion mwy hyderus a medrus.”

Defnyddiwch eich llyfrgell leol i gael mynediad at ddewis anhygoel o wasanaethau, gan gynnwys:

  • Ffuglen, llyfrau ffeithiol, nofelau graffig a llyfrau llafar AM DDIM
  • Help AM DDIM gyda gwaith cartref – ar lein ac yn y llyfrgell
  • E-lyfrau ac e-gylchgronau AM DDIM
  • Defnyddio cyfrifiaduron a mynediad i’r rhyngrwyd AM DDIM
  • Clybiau, digwyddiadau, gweithgareddau a dosbarthiadau yn y llyfrgell
  • Staff llyfrgell sy’n gyfeillgar a pharod i helpu
  • Rhywle diogel i gwrdd â ffrindiau

Mae’r fenter hon yn targedu disgyblion blwyddyn 4 mewn 16 awdurdod yng Nghymru: Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Sir Gaerfyrddin, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Torfaen a Wrecsam. Mae’r fenter yn cefnogi ymgyrch “Mae Addysg yn Dechrau yn y Cartref” Llywodraeth Cymru, sy’n annog rhieni i helpu eu plant gartref trwy neilltuo amser i ddarllen, a gall hyn fod o fudd i’w perfformiad yn yr ysgol.

Am ragor o wybodaeth ewch i: www.welshlibraries.org/schools

Cookie Settings