Cerdyn llyfrgell awtomatig i bob plentyn

Mae llyfrgelloedd ac ysgolion Cymru yn dod at ei gilydd i roi cerdyn llyfrgell i bob plentyn ysgol gynradd – fe ddechreuodd y prosiect ym mis Mawrth eleni gyda chwe awdurdod lleol yn treialu’r fenter a, diolch i arian Llywodraeth Cymru oddi wrth yr Adran Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, fe’i rhoddwyd ar waith bellach mewn deg awdurdod lleol (sef cyfanswm o 16) gan dargedu 25,000 yn rhagor o blant.

 

Wrth lansio’r fenter yn Sir Fynwy heddiw, dywedodd Dr Rhys Jones – a adwaenir orau am ei gyfres lwyddiannus ar y BBC yn cynnwys ‘Rhys to the Rescue’ a ‘Dr Rhys Jones’s Wildlife Patrol’: “Mae llyfrgelloedd yn adnodd mor bwysig – maen nhw’n lleoedd gwych i ddychymyg plant gael rhwydd hynt i dyfu a datblygu ac mae’n hynod bwysig ein bod yn annog ein plant i ddarllen mwy, nid yn unig er mwyn gwella eu lefelau llythrennedd ond hefyd i’w helpu gyda sgiliau bywyd a chyfleoedd i’r dyfodol.”

 

Bydd disgyblion ar draws Sir Fynwy yn cymryd rhan mewn digwyddiadau mewn llyfrgelloedd, ysgolion a neuaddau chwaraeon.

Gyda’r cerdyn llyfrgell hwn bydd plant yn gallu benthyca llyfrau’n syth a chael cwdyn i gario’u llyfrau gartref gyda nhw. Unwaith y byddwn yn cael tystiolaeth o’u cyfeiriad, gallant ddefnyddio miloedd o lyfrau yn rhad ac am ddim, defnyddio’r cyfrifiaduron a chael mynediad at lawer mwy o adnoddau.

 

Defnyddiwch eich llyfrgell leol i gael mynediad at ddewis anhygoel o wasanaethau, gan gynnwys:

 

  • Ffuglen, llyfrau ffeithiol, comics, nofelau graffig a llyfrau llafar AM DDIM
  • Help AM DDIM gyda gwaith cartref – ar lein ac yn y llyfrgell
  • E-lyfrau ac e-gylchgronau AM DDIM
  • Defnyddio cyfrifiaduron a mynediad i’r rhyngrwyd AM DDIM
  • Clybiau, gemau, digwyddiadau, gweithgareddau a dosbarthiadau yn y llyfrgell
  • Staff llyfrgell sy’n gyfeillgar a pharod i helpu
  • Rhywle diogel i gwrdd â ffrindiau

 

Mae’r fenter hon yn targedu disgyblion blwyddyn pedwar mewn 16 awdurdod yng Nghymru: Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Sir Gaerfyrddin, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Torfaen a Wrecsam.

 

Mae’r fenter yn cefnogi ymgyrch “Mae Addysg yn Dechrau yn y Cartref” Llywodraeth Cymru, sy’n annog rhieni i helpu eu plant gartref trwy neilltuo amser i ddarllen, a gall hyn fod o fudd i’w perfformiad yn yr ysgol.

 

Am ragor o wybodaeth ewch i: www.welshlibraries.org/schools

Cookie Settings