Chwilio am rywbeth AM DDIM i’r plant ei wneud yr haf yma?

Mae llyfrgelloedd yn cynnal Sialens Ddarllen yr Haf – ac mae dros 23,000 o blant yng Nghymru eisoes wedi cofrestru! Ewch draw i’ch llyfrgell, benthyciwch lyfrau a chasglwch sticeri, gwobrau ac os ewch chi 3 gwaith a darllen o leiaf chwe llyfr fe fydd eich plentyn yn derbyn tystysgrif a medal.

Mae The Reading Agency a rhwydwaith llyfrgelloedd cyhoeddus yn mynd ati’n flynyddol i drefnu Sialens Ddarllen yr Haf sy’n anelu at blant 4- 11 mlwydd oed – eleni mae Sialens Ddarllen yr Haf wedi ymuno â Guinness World Records – yr awdurdod byd-eang ar gais pobl i dorri record a chyhoeddwr llyfr blynyddol Guinness World Records™ – i sefydlu sialens ar thema “Torri Pob Record”.

Wrth gasglu sticeri fesul un, bydd darllenwyr ifanc yn darganfod recordiau rhyfedd ac ofnadwy o bob rhan o’r byd mewn chwe chategori gwahanol: Cool Tech, Way to Go!, The Big Stuff, Animal Magic, People Power ac Action! Adventure!

Mynd ar wyliau? Ewch â’r llyfrau gyda chi neu lawrlwythwch rai o’r e-lyfrau am ddim o’ch llyfrgell leol ar eich e-ddarllenydd neu ddyfais symudol. Ar ddyddiau na allwch fynd draw i’r llyfrgell, mae gwefan Torri Pob Record ar gael, gyda chymaint i blant ei ddarganfod a gallant gadw cofnod o’u Sialens nhw hefyd. Mae’n bosib i blant argymell llyfrau hefyd a phenderfynu beth i’w ddarllen nesaf gan ddefnyddio’r Llwythwr Llyfrau.

Gallwch gymryd rhan AM DDIM ac mae Sialens Ddarllen yr Haf yn un o nifer o gynlluniau y mae llyfrgelloedd cyhoeddus yn eu cynnig i helpu plant feithrin cariad at ddarllen, magu hyder a chael sgiliau newydd. Mae llyfrgelloedd ar draws Cymru yn cynnal llawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau cyffrous yn ystod gwyliau’r haf i ddifyrru plant a gwneud bywyd yn haws i rieni!

Ewch draw i’ch llyfrgell leol neu ewch i llyfrgelloeddcymru.org i gael gwybod mwy.

I gael gwybod mwy am Sialens Ddarllen yr Haf
www.readingagency.org.uk/summerreadingchallenge
www.facebook.com/SummerReadingChallengeUK
www.recordbreakers.org.uk
Lawrlwythwch Ap Torri Pob Record Sialens Ddarllen yr Haf yn sol.us/records

Cookie Settings