Chwilio am sialens newydd yn 2016 ond ddim cweit yn barod ar gyfer y weiren wib?
Ionawr 4, 2016Beth am gofrestru ar gyfer Darllen Beiddgar gyda llyfrgelloedd gogledd Cymru.
Bob mis, byddwn yn datgelu dau lyfr o blith y 24 a gafodd eu dewis yn arbennig, un yn Gymraeg ar llall yn Saesneg, gan greu calendr o lyfrau cyfareddol.
Bydd llyfrgellwyr ar draws Gogledd Cymru yn dewis llyfrau syn eich herio i ddarllen rhywbeth gwahanol. Beth bynnag syn mynd âch bryd, mae yna rywbeth ar gael i ddifyrru, herio a chyfoethogi eich profiad o ddarllen antur go iawn yn eich cadair freichiau!
Hefyd, bydd darllenwyr yn cael eu hannog i rannu eu profiadau au barn am lyfrau ar y we trwy Facebook a Twitter neu drwyr cardiau post trawiadol sydd ar gael mewn llyfrgelloedd.
Fe gafodd y sialens ddarllen ei dyfeisio gan Estyn Allan, sef partneriaeth o lyfrgelloedd yng Ngogledd Cymru syn ceisio rhoi cyfleoedd newydd i ddarllenwyr chwarae rhan weithredol yn eu datblygiad eu hunain a rhannu profiadau darllen gyda phobl eraill; datblygu prosiectau llawn dychymyg syn gwneud i bobl fwynhau darllen yn fwy a chael pleser wrth ddarllen i gynulleidfaoedd newydd a hyrwyddo ysgrifennu cyfoes yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Dywedodd Bethan Hughes, o bartneriaeth llyfrgelloedd Estyn Allan y Gogledd: Y syniad yw y bydd Blwyddyn Darllen Beiddgar yn cael ei rhedeg bron fel gr?p darllen, heb i bobl orfod bod yn bresennol. Bydd pobl yn aml yn mynd i rigol wrth ddarllen yr un awduron neur un mathau o lyfrau, ac rydym yn annog pobl iw herio eu hunain a rhoi cynnig ar rywbeth newydd yn 2016.
A chan fod 2016 wedii phennun Flwyddyn Antur yng Nghymru, maen gyfle i bobl gofrestru i gael llu o anturiaethau newydd.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i dudalen Facebook a Twitter Blwyddyn Darllen Beiddgar neu ewch draw ich llyfrgell leol.
https://www.facebook.com/A-Year-of-Reading-Daringly-1506238289671199/?fref=ts
@DarllenBeiddgar