CILIP Cymru Wales yn cyhoeddi rhestr fer ac enillydd Gwobr Tîm y Flwyddyn Llyfrgell Cymru

Dewiswyd rhaglen hyfforddi a datblygu Estyn Allan fel enillydd Gwobr Tîm y Flwyddyn Llyfrgell Cymru CILIP Cymru Wales. Dyfarnwyd yr ail safle yn gydradd i Wasanaeth Llyfrgell Coleg Sir Gâr a Gwasanaeth Llyfrgell a Thechnoleg Dysgu Grŵp Llandrillo Menai, a’r trydydd safle i grŵp EDI WHELF (Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru).

Datblygu gwytnwch mewn llyfrgelloedd cyhoeddus ledled Cymru

Wedi’i ariannu gan grant o £169,950 gan Lywodraeth Cymru, a sicrhawyd gan Gymdeithas y Prif Lyfrgellwyr (SCL) yng Nghymru, aeth Estyn Allan yn fyw ym mis Ionawr 2021 ac mae eisoes wedi gweld nifer trawiadol o ddefnyddwyr ar draws 22 llyfrgell gyhoeddus gyda 33 hyfforddai. Mae Estyn Allan yn datblygu sgiliau, gwybodaeth a hyder staff wrth ddarparu gweithgareddau digidol dwyieithog mewn llyfrgelloedd ledled Cymru ac mae wedi cael ei gydnabod gan CILIP Cymru Wales am ei waith yn meithrin hyder ac arloesi yn 2021.

Wedi’i enwebu gan Helen Pridham o Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, arweiniwyd Estyn Allan gan Bethan Hughes, Prif Lyfrgellydd Cyngor Sir Ddinbych a chafodd ei drefnu, ei gynllunio a’i ddarparu gan Kerry Pillai o Lyfrgelloedd Abertawe. Rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2021 datblygodd yr hyfforddeion sgiliau digidol newydd a chydweithio i greu cynnwys sy’n wynebu’r cyhoedd, gan drawsnewid cynnig gweithgaredd digidol llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru.

Dywed Helen Pridham: “Mi ddysgodd tîm Estyn Allan i gyfweld, ffilmio, recordio, golygu, cyhoeddi, dylunio a rhoi cyhoeddusrwydd. Mi wnaethon nhw ymddangos o flaen camera yn cyfweld awduron, rhedeg grwpiau darllen, cynnal digwyddiadau byw, canu rhigymau, ac adrodd straeon.

Er enghraifft, creodd y tîm bedair ffilm fer a ddefnyddiwyd mewn ysgolion, gyda phartneriaid ac ar gyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo hysbysebion Her Darllen yr Haf gyda Iolo Williams. Dyma’r tro cyntaf i Ymgyrch Ddarllen yr Haf gael ei hyrwyddo’n genedlaethol yn benodol i Gymru a chafodd dderbyniad da iawn.”

Cyflwynwyd Gwobr Tîm y Flwyddyn Llyfrgell Cymru gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn Niwrnod Agored a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol CILIP Cymru Wales ar ddydd Iau y 4ydd o Dachwedd 2021 i ddathlu cyflawniadau proffesiynol rhagorol gan dimau sy’n gweithio o fewn gwasanaethau llyfrgell a gwybodaeth yng Nghymru.

Wrth gyflwyno Gwobr Tîm y Flwyddyn Llyfrgell Cymru, dywedodd y Gweinidog: “Mae rhaglen hyfforddi Estyn Allan yn enghraifft wych o sut y gall llyfrgelloedd ledled Cymru weithio gyda’i gilydd i wella gwasanaethau. Mae wedi datblygu sgiliau, gwybodaeth a hyder staff wrth ddarparu gweithgareddau digidol dwyieithog a hyrwyddo cynigion a gwasanaethau llyfrgell. Cafwyd nifer uchel o enwebiadau rhagorol ac hoffwn achub ar y cyfle i ddiolch yn fawr i bawb yn ein llyfrgelloedd sy’n gweithio mor galed i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus mor hanfodol.”

Ychwanegodd Cadeirydd CILIP Cymru Wales, Lou Peck: “Mae gan Gymru gymuned gwasanaeth llyfrgell a gwybodaeth anhygoel. Mae pawb ohonom wedi bod trwy 18 mis anodd, ond mae timau gwasanaeth llyfrgell yn arbennig wedi gweld tarfu mawr gyda chau llyfrgelloedd a staff yn cael eu rhoi ar ffyrlo neu eu hadleoli i adrannau a rolau eraill. Yn sydyn roedd y cyswllt allweddol yna ar gyfer cymunedau lleol wedi diflannu. Ni ellir gwadu’r newid sydyn yn y galw digidol a ddaeth yn sgil pandemig COVID-19, ond mae llyfrgelloedd yn parhau i ddangos gwytnwch a sut y gallan nhw addasu i amgylcheddau newidiol a’r hyn sydd ei angen ar gymdeithas. Y bobl hyn yn ein llyfrgelloedd yw’r sêr go iawn yn y gymuned. Llongyfarchiadau enfawr i bawb sydd wedi cymryd rhan yng Ngwobr eleni. Mae’r prosiectau a enwebwyd ar gyfer Gwobr Tîm y Flwyddyn Llyfrgell Cymru CILIP Cymru Wales yn dangos y mentrau cyffrous a phwysig sy’n digwydd a’r gobaith yw y byddan nhw’n parhau i ysbrydoli eraill. Ar gyfer gwasanaeth yr adroddir ei fod yn cymryd tua 0.6% yn unig o wariant y cynghorau, mae llyfrgelloedd yn wasanaeth gwerthfawr sy’n chwarae rhan sylweddol wrth gefnogi cymunedau lleol. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ymweld â’ch llyfrgell leol a darganfod sut y gallant eich helpu chi ar-lein ac all-lein.”

Panel beirniaid Gwobr Tîm y Flwyddyn Llyfrgell Cymru CILIP Cymru Wales

Gwnaeth y chwe enwebiad argraff dda ar y beirniaid, sef Beth Hall, (Cyfoeth Naturiol Cymru a phwyllgor CILIP Cymru Wales), Mark Hughes (Prifysgol Fetropolitan Caerdydd), Owain Roberts (Llyfrgell Genedlaethol Cymru), ac Amanda Bennett (Llywodraeth Cymru), ac roedd yn dda ganddynt glywed am dimau rhagorol o wahanol feintiau ar draws pob rhan o’r sector yng Nghymru.

Nododd y beirniaid “Cryfder yr enwebiad hwn yw ei fod yn dathlu dewrder ac ymrwymiad y staff a gymerodd ran yn y rhaglen a’r rhai a arweiniodd y tîm yn y grŵp llywio. Mae’r rhaglen wedi galluogi mwy o gydweithredu ar draws llyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru, wedi arwain at lansio gwasanaethau a chynnyrch digidol newydd dwyieithog a phenodol yn y Gymraeg, wedi uwchsgilio staff, ac wedi adeiladu’r momentwm ar gyfer prosiectau yn y dyfodol.”

Dyfarnodd y beirniaid yr ail safle yn gydradd i Wasanaeth Llyfrgell Coleg Sir Gâr a enwebwyd gan Mike Williams a Gwasanaeth Llyfrgell a Thechnoleg Dysgu Grŵp Llandrillo Menai, a enwebwyd gan Ceri Powell.

Uwchsgilio tîm y llyfrgell a chofleidio technoleg ac arferion EDI

Yn ogystal ag uwchsgilio’r tîm yn ystod COVID-19 a chofleidio Sgiliau Gweithle Google, cododd Coleg Sir Gâr ymwybyddiaeth o Lwyfan Addysg CLA, troi at Glicio a Chasglu, sefydlu Desg Gymorth Llyfrgell Rithwir, a chreu Clipiau Cyflym Llyfrgell, sef clipiau fideo dwyieithog byr ar ystod o bynciau.

Ymatebodd y Gwasanaeth Llyfrgell a Thechnoleg Dysgu yng Ngrŵp Llandrillo Menai i COVID trwy sefydlu tîm Technoleg Llyfrgell i gefnogi dysgwyr a staff. Yn ogystal â sesiynau un i un a grŵp, roedd y tîm yn allweddol i’r Gynhadledd Addysgu a Dysgu hybrid gyntaf. Creodd y tîm Safle Sgiliau Astudio dwyieithog newydd a chanllawiau pwnc ar-lein a chydlynu prosiect i gyflenwi dros fil o ddyfeisiau i fyfyrwyr er mwyn hwyluso dysgu gartref.

Dywed y beirniaid:”Mae’r ddau Wasanaeth Llyfrgell wedi ailddyfeisio eu gwasanaethau ar-lein, ac maent yn ganolog i waith eu sefydliadau wrth bontio’r rhaniad digidol a dod â thechnoleg ddigidol i’w holl fyfyrwyr gan gynnwys dysgwyr difreintiedig ac anhraddodiadol.”

Dyfarnodd y beirniaid y trydydd safle i grŵp WHELF EDI, a enwebwyd gan Alison Harding o Brifysgol Cymru, y Drindod Dewi Sant. Sefydlwyd Grŵp Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru yn ystod haf 2020 yn dilyn llofruddiaeth George Floyd er mwyn adlewyrchu safbwynt gwrth-hiliol ac i ddarparu cyfleoedd datblygu i staff. Yna agorodd y gynhadledd Lleisiau Eithriedig y sgwrs i’r sector ledled Cymru a thu hwnt ac yn yr un modd mae’r grŵp yn ceisio ehangu ei aelodaeth.

Dywedodd y beirniaid “Rydym yn cydnabod y dewrder a’r fenter i ddechrau gweithredu er mwyn ysgogi newid cadarnhaol, ac i herio’r status quo. Rydym yn gobeithio y bydd cysylltiadau’n parhau i gael eu gwneud gyda’r sector Orielau, Llyfrgelloedd, Archifau ac Amgueddfeydd (GLAM) ehangach ledled Cymru, ac rydym yn gobeithio y gallwn ni i gyd weithio gyda’n gilydd i gynyddu amrywiaeth a chynrychiolaeth ar bob lefel.”

Ynglŷn â Gwobr Tîm y Flwyddyn Llyfrgell Cymru CILIP Cymru Wales

Mae’r Wobr hon, a noddir gan Lywodraeth Cymru a CILIP Cymru Wales, yn ymwneud â dathlu cyflawniadau timau sy’n gweithio o fewn Gwasanaethau Llyfrgell/Gwybodaeth yng Nghymru.

Mae croeso i gynigion o bob sector, gan dimau sy’n gweithio ar draws gwahanol sefydliadau, a chan dimau o bob math. Gall enwebiadau ddisgrifio cyflawniadau arbennig, prosiect arloesol, neu wytnwch yn wyneb amgylchiadau heriol.

Y wobr gyntaf ar gyfer Tîm y Flwyddyn Llyfrgell Cymru CILIP Cymru Wales yw £500 y wobr am yr ail safle yw £150 gyda £100 yn mynd i’r trydydd safle.

Cookie Settings