Clasuron Cymreig
Ebrill 16, 2015Beth yw clasur ? Oes gennych hoff lyfr yr ydych yn ystyried yn glasur? Os oes, mae ymgyrch a lansir heddiw yn gofyn i ddarllenwyr ar draws Cymru enwebu eu clasuron ar gyfer rhestr a fydd yn cael ei ddosbarthu i lyfrgelloedd , siopau llyfrau a cholegau i annog eraill eu darllen au mwynhau.
Trefnir yr ymgyrch gan bartneriaeth rhwng Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru , Cyngor Llyfrau Cymru a Llenyddiaeth Cymru. Bydd aelodau Panel yn cynrychioli’r sefydliadau yn dethol rhestr or enwebiadau a dderbynnir ac yn cytuno ar gynnwys y clasuron cydnabyddedig.
Mae cyfle i ddarllenwyr leded Cymri enwebu llyfr – nofel neu gasgliad o straeon byrion -trwy alw yn eu llyfrgell neu siop lyfrau lleol. Cynigir gwobrau ir tri enwebiad gorau, sef pryd o fwyd mewn bwyty moethus yng Nghymru neu £50.00.
Noddodd Jane Sellwood ar ran Gymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru
Mae gan lyfrgelloedd cyhoeddus ystod o lenyddiaeth o safon uchel yn y Gymraeg ar Saesneg i gynnig i ddarllenwyr. Tra bod nifer o restrau i arwain darllenwyr at glasuron, hen a newydd, yn y Saesneg nid oes rhestr debyg i deitlau Cymraeg neu i Ysgrifennu Saesneg am Gymru – mae hyn yn fwlch sydd angen ei lenwi.
Bydd paratoi rhestr or fath gyda chymorth darllenwyr yn hybu darllen, ennyn trafodaeth o gwmpas beth yw clasur ac awgrymu deunydd i ddarllenwyr newydd. Bydd llyfrgelloedd trwy Gymru yn barod i gasglu enwebiadau darllenwyr i gefnogir ymgyrch cyffrous hwn.
Ychwanegodd Elwyn Jones. Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau: ”Tra bod y Cyngor yn cefnogi a hyrwyddo gwaith awduron cyfoes mae hi bob amser yn bwysig i ni hefyd gofio am y clasuron sy’n cael eu darllen a’u mwynhau gan do ar ôl to o ddarllenwyr. Braf felly yw cael cefnogi’r ymgyrch hon gan awdurdodau llyfrgell ledled Cymru ac mae’n esiampl da o’r cydweithio sy’n digwydd i hyrwyddo llyfrau a darllen.”
Bydd yr ymgyrch Clasur Cymreig yn cael ei lansio Diwrnod y Llyfr 5ed Mawrth ac yn rhedeg hyd 30 Mai. Mae sawl ffordd i enwebu llyfr.
Gall darllenwyr sydd eisiau enwebu llyfr gasglu ffurflen mewn llyfrgell neu siop lyfrau leol neu mae copïau ar gael o safleoedd we : -llyfrgelloeddcymru.org , y Cyngor Llyfrau Cymru a Llenyddiaeth Cymru neu trwy ddefnyddio’r hashnod trydar #ClasurCymreig . Gellir hefyd yrru enwebiad am lyfr ar rheswm dros ei enwebu trwy e-bost at tynewydd@llenyddiaethcymru.org
Am wybodaeth bellach cysylltwch ag
Hywel James Prif Lyfrgellydd Gwasanaeth Llyfrgell Gwynedd Library Service
01286 679463 HywelJames@gwynedd.gov.uk