Clasuron Cymreig

Beth yw clasur ? Oes gennych hoff lyfr yr ydych yn ystyried yn glasur? Os oes, mae ymgyrch a lansir heddiw yn gofyn i ddarllenwyr ar draws Cymru enwebu eu clasuron ar gyfer rhestr a fydd yn cael ei ddosbarthu i lyfrgelloedd , siopau llyfrau a cholegau i annog eraill eu darllen a’u mwynhau.

Trefnir yr ymgyrch gan bartneriaeth rhwng Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru , Cyngor Llyfrau Cymru a Llenyddiaeth Cymru. Bydd aelodau Panel yn cynrychioli’r sefydliadau yn dethol rhestr o’r enwebiadau a dderbynnir ac yn cytuno ar gynnwys y clasuron cydnabyddedig.

Mae cyfle i ddarllenwyr leded Cymri enwebu llyfr –  nofel neu gasgliad o straeon byrion  -trwy alw yn eu llyfrgell neu siop lyfrau lleol. Cynigir gwobrau i’r tri enwebiad gorau, sef pryd o fwyd mewn bwyty moethus yng Nghymru neu £50.00. –

Noddodd Jane Sellwood ar ran Gymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru

“ Mae gan lyfrgelloedd cyhoeddus ystod o lenyddiaeth o safon uchel yn y Gymraeg a’r Saesneg i gynnig i ddarllenwyr. Tra bod nifer o restrau i arwain darllenwyr at glasuron, hen a newydd, yn y Saesneg nid oes rhestr debyg i deitlau Cymraeg neu i Ysgrifennu Saesneg am Gymru – mae hyn yn fwlch sydd angen ei lenwi.

Bydd paratoi rhestr o’r fath gyda chymorth darllenwyr yn hybu darllen, ennyn trafodaeth o gwmpas beth yw ‘clasur’ ac awgrymu deunydd i ddarllenwyr ‘newydd’. Bydd llyfrgelloedd trwy Gymru yn barod i gasglu enwebiadau darllenwyr i gefnogi’r ymgyrch cyffrous hwn.”

Ychwanegodd Elwyn Jones. Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau: ”Tra bod y Cyngor yn cefnogi a hyrwyddo gwaith awduron cyfoes mae hi bob amser yn bwysig i ni hefyd gofio am y clasuron sy’n cael eu darllen a’u mwynhau gan do ar ôl to o ddarllenwyr. Braf felly yw cael cefnogi’r ymgyrch hon gan awdurdodau llyfrgell ledled Cymru ac mae’n esiampl da o’r cydweithio sy’n digwydd i hyrwyddo llyfrau a darllen.”

 

Bydd yr ymgyrch Clasur Cymreig yn cael ei lansio Diwrnod y Llyfr  5ed  Mawrth  ac yn rhedeg hyd 30 Mai. Mae sawl ffordd i enwebu llyfr.

Gall darllenwyr sydd eisiau enwebu llyfr gasglu ffurflen mewn  llyfrgell neu siop lyfrau leol  neu mae copïau ar gael o safleoedd we : -llyfrgelloeddcymru.org , y Cyngor Llyfrau Cymru  a Llenyddiaeth Cymru  neu trwy ddefnyddio’r hashnod trydar #ClasurCymreig . Gellir hefyd yrru enwebiad am lyfr a’r rheswm dros ei enwebu trwy e-bost at tynewydd@llenyddiaethcymru.org

Am wybodaeth bellach cysylltwch ag

Hywel James   Prif Lyfrgellydd Gwasanaeth Llyfrgell Gwynedd Library Service

01286 679463   HywelJames@gwynedd.gov.uk

Cookie Settings