Llyfrgell a Hwb Lles y Fflint yn cynnig Clust i Wrando

 

Cafodd Llyfrgell y Fflint ei hadnewyddu’n sylweddol yn Hydref 2019 a’i hailagor yn gynnar yn 2020. Ariannwyd y prosiect drwy Raglen Grant Cyfalaf Trawsnewid Llywodraeth Cymru gydag arian cyfatebol gan Aura Leisure a Llyfrgelloedd a phartneriaid Cyngor Sir y Fflint.

Cafodd y llyfrgell ei hailddylunio’n llwyr drwyddi draw i ganiatáu lle hyblyg agored modern gyda silffoedd a dodrefn newydd gan gynnwys lle chwarae newydd i blant a mannau ar gyfer sgwrsio neu astudio. Gosodwyd nenfydau newydd, goleuadau eco-effeithlon, ffenestri a charpedi ym mhob rhan o’r brif lyfrgell sydd wedi trawsnewid yn llwyr yr hyn a oedd yn ofod tywyll iawn yn ofod golau a chroesawgar sydd nawr yn ddeniadol iawn i ymwelwyr ac wedi annog cenhedlaeth newydd i ddefnyddio’r gwasanaethau.

Ailgynlluniwyd yr ardal arddangos bresennol hefyd i ddarparu gofod Treftadaeth ac Arddangos deniadol i alluogi cynnal arddangosfeydd o safon a rhoi’r cyfle i weithio gyda gwasanaeth Treftadaeth ac Amgueddfeydd Aura i arddangos deunydd allweddol ar hanes yr ardal. Cynhaliwyd arddangosfa ddiweddar mewn partneriaeth â Sefydliad Courtaulds ar hanes diwydiant cynhyrchu Courtaulds oedd yn gyflogwr mawr yn hanes diweddar yr ardal.

 

Llyfrgell Fflint / Flint Library. Ginger Pixie Photography.

Llyfrgell Fflint / Flint Library. Ginger Pixie Photography.

Roedd y cyllid hefyd yn caniatáu moderneiddio ac adnewyddu dwy ystafell gyfarfod ac adeiladu cegin gymunedol â chyfarpar llawn. Mae hyn wedi galluogi’r staff i weithio gyda phartneriaid cymunedol i gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau a darparu cyfleusterau i’w llogi i fusnesau a sefydliadau lleol yn yr ardal.

Un o’r prif ffactorau oedd wedi sbarduno’r gwaith adnewyddu oedd gwella’r cyfleoedd iechyd a lles i drigolion lleol ac felly fe wnaeth Llyfrgelloedd Aura weithio mewn partneriaeth â MIND Gogledd Ddwyrain Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i archwilio a datblygu cynnig.

Agorwyd Llyfrgell a Hwb Iechyd a Lles y Fflint yn swyddogol yn gynnar yn 2021 gyda chymorth i ddechrau yn cael ei gynnig arlein. Yr ethos y tu ôl i’r ganolfan yw ei fod yn fan anfeddygol sy’n ystyriol o’r gymuned lle gall unrhyw un ddod heb farn neu atgyfeiriad.

O fis Medi 2021 mae cyngor a chymorth wedi bod ar gael ar y safle gyda chynghorwyr hyfforddedig ar gael bob dydd a gwirfoddolwyr ym mhrif ardal y llyfrgell ar gyfer cyfeirio a chymorth anffurfiol. Mae monitro cychwynnol ac adborth wedi dangos bod y gwasanaeth yma yn cael ei ddefnyddio a’i fod yn cael manteision cadarnhaol. Mae staff y ganolfan yn darparu gwybodaeth, cyngor, hyfforddiant lles, gweithgareddau lles a hyfforddiant hunanreoli i tua 80 o bobl bob mis.

 

Flint Library Wellbeing Hub Promotional Poster

Mae yna hefyd raglen o weithgareddau iechyd a lles am ddim ar gael ar y safle gyda phartneriaid yn Rhwydwaith Adfer Dysgu a Lles Sir y Fflint.

Er mwyn parhau i ddatblygu’r cynnig lles, y cynllun yw i drawsnewid rhywfaint o’r tir gwastraff ar ochr y llyfrgell yn ardd les. Bydd y man gwyrdd hwn, mewn amgylchedd trefol iawn fel arall, yn galluogi staff i ddarparu gweithgareddau pellach i ymgysylltu â natur, dysgu sgiliau newydd ac annog preswylwyr i gadw’n heini.

Oriau Agor Llyfrgell a Hwb Iechyd a Lles y Fflint

Llun 9:00am-5:00pm

Mawrth 9:00am-6:00pm

Mercher 9:00am-5:00pm

Iau 9:00am-6:00pm

Gwener 9:00am-5:00pm

Sadwrn 9:00am-1:00pm

 

Cyfeiriad: Heol yr Eglwys, Y Fflint, Sir y Fflint, CH6 5AP

Cysylltu: 01352 703737 flint.library@aura.wales

01352 974430  flinthub@newmind.org.uk

 

Cookie Settings