Cwestiwn: Pa mor bell all tystysgrif Sialens Ddarllen yr Haf deithio?

Ateb: Awstralia – mae’n rhaid bod hynny’n record!

Ymunodd Nate Johnson, 10 oed â Sialens Ddarllen yr Haf yn llyfrgell Conwy, tra oedd yn aros gyda’i Nain a’i Daid am dair wythnos yn ystod gwyliau’r haf.

Mae Nate yn ddarllenwr brwd ac fe logiodd ar gatalog y llyfrgell cyn cyrraedd y wlad er mwyn archebu digonedd o lyfrau Doctor Who yn barod ar gyfer ei wyliau yng Nghymru!

Roedd wrth ei fodd yn derbyn tystysgrif yn llyfrgell Conwy a bydd yn falch iawn o’i dangos i’w athrawes a’i ddosbarth yn ôl yn Adelaide.

Cookie Settings