‘Cyd-Ddarllen Cymru! Trwy eich Llyfrgell Chi!’ yn Ysbrydoli Darllenwyr Newydd

A wnaethoch ymuno yn ein ymgyrch ‘Cyd-Ddarllen Cymru! Trwy eich Llyfrgell Chi!’? Beth oedd eich hoff deitlau?

Yn ystod Wythnos Llyfrgelloedd eleni, cafwyd 226 o ddarllenwyr newydd yn ymuno â’r ymgyrch ddarllen dros Gymru, gyda chyfanswm o 8,259 o fenthyciadau eLlyfr ac eLyfr Llafar!

Ein teitlau ymgyrch arbennig ar gael yn ystod Wythnos Llyfrgelloedd oedd:

  • David Baldacci – The Memory Man (eLyfr & eLyfr Llafar)
  • Matt Haig – Reasons to Stay Alive (eLyfr & eLyfr Llafar)
  • Andy Griffiths – The 13 Storey Treehouse (eLyfr & eLyfr Llafar)
  • Nigel Owens – Hanner Amser (eLyfr Llafar)
  • Bethan Gwanas – Hi yw fy ffrind (eLyfr Llafar)

Mae’n teitlau ymgyrch ar gael drwy ein gwasanaeth eLyfrau ac eLyfrau Llafar Borrowbox, sy’n golygu fod niferoedd uchel o’r teitlau yma ar gael ar yr un pryd, felly dim ciwiau! Mae’n gyfle gwych i gyd-ddarllen, ac i gyfarwyddo defnyddwyr newydd a chyfredol efo’r ystod eang o eLyfrau ac eLyfrau Llafar sydd ar gael!

https://llyfrgelloedd.cymru/my-digital-library/borrowbox/

Cookie Settings